Albrecht III, Dug Awstria
Dug Awstria o 1365 hyd ei farwolaeth oedd Albrecht III, Dug Awstria (9 Medi, 1349 - 29 Awst, 1395).
Albrecht III, Dug Awstria | |
---|---|
Ganwyd | c. 1349 Fienna |
Bu farw | 29 Awst 1395 Laxenburg, Dinas Lwcsembwrg |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Tad | Albert II |
Mam | Joanna of Pfirt |
Priod | Elisabeth o Fohemia, Beatrice of Nuremberg |
Plant | Albert IV, dug Awstria |
Perthnasau | Siarl IV, Wenceslaus IV o Bohemia, Sigismund, Frederick I, Elisabeth o Habsburg |
Llinach | Habsburg |
Ganed ef yn Fienna, yn drydydd mab i Albrecht II, Dug Awstria, aelod o deulu Habsburg. Wedi marwolaeth ei frawd hynaf, Rudolf IV, roedd ef a'i frawd Leopold III yn gyfrifol am weinyddu tiroedd teulu Habsburg. Yn 1375 cyflogodd Enguerrand VII de Coucy, oedd yn hawlio rhan o'r tiriogaethau hyn, fyddin i geisio eu meddiannu, yn yr ymgyrch a elwir yn Rhyfel y Gugler. Roedd Owain Lawgoch yn un o arweinwyr y fyddin hon. Gorfodwyd byddin Albrecht a Leopold i encilio, ond methodd ymgyrch y Gugler oherydd gwrthwynebiad ffyrnig y Swisiaid. Yn 1377, aeth Albrecht ar groesgad yn erbyn y Lithiwaniaid a'r Samogitiaid, oedd yn baganiaid.
Dan delerau Cytundeb Neuberg yn 1379, daeth yn rheolwr Awstria ei hun, tra daeth Leopold yn rheolwr Styria, Carinthia, Carniola a nifer o diriogaethau eraill. Roedd yn adnabyddus fel ysgolhaig, a bu'n noddwr i Brifysgol Fienna. Claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol San Steffan, Fienna, ac olynwyd ef gan ei fab, Albrecht IV.