Manceinion Fwyaf
Sir fetropolitan a sir seremonïol yng Ngogledd-orllewin Lloegr yw Manceinion Fwyaf (hefyd Manceinion Fawr) (Saesneg: Greater Manchester).
Math | siroedd seremonïol Lloegr, sir fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Gogledd-orllewin Lloegr |
Poblogaeth | 2,867,800 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Andrew Burnham |
Gefeilldref/i | Peine |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,275.9821 km² |
Yn ffinio gyda | Swydd Gaer, Glannau Merswy, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Derby, Gorllewin Swydd Efrog |
Cyfesurynnau | 53.5025°N 2.31°W |
Cod SYG | E11000001 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Greater Manchester |
Pennaeth y Llywodraeth | Andrew Burnham |
Roedd Manceinion Fwyaf yn un o chwe sir fetropolitan a grëwyd yn 1974 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rhennir yr holl siroedd hyn yn fwrdeistrefi metropolitan. Yn wreiddiol roedd y siroedd a'r bwrdeistrefi yn gweithredu mewn strwythur dwy haen o lywodraeth leol, ond ar ôl diddymwyd cynghorau y siroedd metropolitan gan Deddf Llywodraeth Leol 1985 daeth y bwrdeistrefi metropolitan yn awdurdodau unedol sy'n annibynnol ar y sir i bob pwrpas.
Fe'i dynodwyd yn ddinas-ranbarth ar 1 Ebrill 2011.
Mae Manceinion Fwyaf yn cwmpasu un o'r ardaloedd metropolitan mwyaf yn y Deyrnas Unedig sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddinas Manceinion ei hun. Fe'i ffurfiwyd o rannau o siroedd hanesyddol Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaer a Swydd Efrog. Mae'n cynnwys deg bwrdeistref fetropolitan: Bolton, Bury, Oldham, Rochdale, Stockport, Tameside, Trafford, Wigan, a dinasoedd Manceinion a Salford.
Mae gan y sir arwynebedd o 1,276 km², gyda 2,812,569 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1]
Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth
golyguArdaloedd awdurdod lleol
golyguRhennir y sir yn ddeg bwrdeistref fetropolitan:
- Dinas Manceinion
- Bwrdeistref Fetropolitan Stockport
- Bwrdeistref Fetropolitan Tameside
- Bwrdeistref Fetropolitan Oldham
- Bwrdeistref Fetropolitan Rochdale
- Bwrdeistref Fetropolitan Bury
- Bwrdeistref Fetropolitan Bolton
- Bwrdeistref Fetropolitan Wigan
- Dinas Salford
- Bwrdeistref Fetropolitan Trafford
Etholaethau seneddol
golyguRhennir y sir yn 27 etholaeth seneddol yn San Steffan:
- Altrincham a Gorllewin Sale
- Ashton-under-Lyne
- Blackley a Broughton
- Canol Manceinion
- Cheadle
- De Bury
- De-ddwyrain Bolton
- Denton a Reddish
- Dwyrain Oldham a Saddleworth
- Gogledd Bury
- Gogledd-ddwyrain Bolton
- Gorllewin Bolton
- Gorllewin Oldham a Royton
- Hazel Grove
- Heywood a Middleton
- Leigh
- Makerfield
- Manceinion Gorton
- Manceinion Withington
- Rochdale
- Salford ac Eccles
- Stalybridge a Hyde
- Stockport
- Stretford ac Urmston
- Wigan
- Worsley a De Eccles
- Wythenshawe a Dwyrain Sale
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 23 Awst 2020
Dinasoedd
Manceinion ·
Salford
Trefi
Altrincham ·
Ashton-in-Makerfield ·
Ashton-under-Lyne ·
Atherton ·
Audenshaw ·
Blackrod ·
Bolton ·
Bramhall ·
Bredbury ·
Bury ·
Chadderton ·
Cheadle ·
Denton ·
Droylsden ·
Dukinfield ·
Eccles ·
Failsworth ·
Farnworth ·
Golborne ·
Heywood ·
Hindley ·
Horwich ·
Hyde ·
Ince-in-Makerfield ·
Kearsley ·
Leigh ·
Littleborough ·
Middleton ·
Milnrow ·
Mossley ·
Oldham ·
Partington ·
Pendlebury ·
Prestwich ·
Radcliffe ·
Ramsbottom ·
Rochdale ·
Royton ·
Sale ·
Shaw ·
Stalybridge ·
Standish ·
Stockport ·
Stretford ·
Swinton ·
Tottington ·
Tyldesley ·
Walkden ·
Westhoughton ·
Whitefield ·
Wigan ·
Worsley