Nerva
Nerva | |
---|---|
Ganwyd | Marcus Cocceius Nerva 8 Tachwedd 0030 Narni |
Bu farw | 27 Ionawr 0098 Gardens of Sallust |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, Conswl Rhufeinig, seneddwr Rhufeinig |
Tad | Marcus Cocceius Nerva |
Mam | Octavia Sergia Plotilla |
Plant | Trajan |
Llinach | Nerva–Antonine dynasty |
Nerva Caesar Augustus neu Nerva (8 Tachwedd 30 OC – 27 Ionawr 98 OC) oedd Ymerawdwr Rhufain o 18 Medi 96 OC hyd ei farwolaeth. Ganwyd Marcus Cocceius Nerva.
Roedd Nerva yn aelod o deulu bonheddig o ddinas Narnia i'r gogledd o Rufain. Gwasanaethodd fel Conswl gyda Vespasian yn 71 OC a gyda Domitian yn 90 OC. Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Domitian yn 96 penodwyd Nerva yn ymerawdwr dan y Senedd, dan ddylanwad y blaid oedd wedi cynllwynio yn erbyn Domitian. Rhyddhaodd Nerva lawer o garcharorion Domitian, ac ysgafnhaodd y trethi. Roedd Nerva eisoes yn oedrannus a heb fab, felly dewisodd Trajan fel ei olynydd.
Nerva oedd y cyntaf o bedwar ymerawdwr oedd heb blant. Oherwydd hyn, dewisodd pob un ohonynt y person oedd yn ymddangos fel yr olynydd mwyaf addas, a'i fabwysiadu. Roedd y cyfnod yma yn oes aur i Rufain, gyda pob un o'r gwŷr a ddewiswyd yn llywodraethu'n dda ac yn gydwybodol. Roedd gan y pumed ymerawdwr yn y llinach yma, Marcus Aurelius, fab, a daeth yr oes aur i ben.
-
Penddelw o Nerva, Narni, Yr Eidal
-
Penddelw unigryw o Nerva o gasgliad preifat
Rhagflaenydd: Domitian |
Ymerawdwr Rhufain 18 Medi 96 OC – 17 Ionawr 98 OC |
Olynydd: Trajan |