Aberaeron

tref a chymuned yng Ngheredigion, Cymru
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:18, 16 Chwefror 2007 gan TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
Aberaeron
Ceredigion

Tref arfordirol yng Ngheredigion yw Aberaeron. Adeiladwyd y dref gan y Parch Alban Thomas Jones-Gwynne ym 1805. Mae'r tai wedi'u gosod mewn patrwm ffurfiol -- o dan ddylanwad y pensaer John Nash, medd rhai.

Crëwyd harbwr ar geg Afon Aeron, ac yn fuan daeth y dref yn ganolfan bysgota bwysig. Erbyn hyn, cychau hwylio sydd i'w gweld yn harbwr Aberaeron.

Gan fod Aberaeron rhwng de a gogledd Ceredigion, yma bellach mae pencadlys Cyngor Sir Ceredigion.

Cysylltiadau allanol