Aberaeron

tref a chymuned yng Ngheredigion, Cymru
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 05:00, 22 Mai 2013 gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)

Gweler hefyd Aeron (gwahaniaethu).

Cyfesurynnau: 52°14′31″N 4°15′33″W / 52.24204°N 4.25921°W / 52.24204; -4.25921
Aberaeron

Tai ar y cei
Aberaeron is located in Ceredigion
Aberaeron

 Aberaeron yn: Ceredigion
Poblogaeth 1,520 
Cyfeirnod grid yr AO SN458628
Sir Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost ABERAERON
Rhanbarth cod post SA46
Cod deialu 01545
Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Ceredigion
Cynulliad Cymru Ceredigion
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ceredigion

Tref arfordirol yng Ngheredigion yw Aberaeron. Saif ar briffordd yr A487 tua hanner ffordd rhwng Aberteifi ac Aberystwyth. Mae lôn arall, yr A482, yn cysylltu'r dref â Llanbedr Pont Steffan i'r dwyrain. Mae Caerdydd 112.8 km i ffwrdd o Aberaeron ac mae Llundain yn 297.2 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 70.6 km i ffwrdd.

Adeiladwyd y dref gan y Parch Alban Thomas Jones-Gwynne ym 1805. Mae'r tai wedi'u gosod mewn patrwm ffurfiol — o dan ddylanwad y pensaer John Nash, medd rhai.

Crëwyd harbwr ar geg Afon Aeron, ac yn fuan daeth y dref yn ganolfan bysgota bwysig. Erbyn hyn, cychau hwylio sydd i'w gweld yn harbwr Aberaeron. Mae'r traeth yn braf ac wedi ennill baner las am ei lendid.

Gan fod Aberaeron rhwng de a gogledd Ceredigion, yma bellach mae pencadlys Cyngor Sir Ceredigion. Mae tua 1,520 o bobl yn byw yn y dref ac mae dros 70% ohonyn nhw yn siaradwyr Cymraeg (2001); un o'r canrannau uchaf ar arfordir Ceredigion heddiw.

Gerllaw ceir plasdy hynafol Llannerch Aeron, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Lleolir Ysgol Gyfun Aberaeron yn y dref.

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberaeron (pob oed) (1,422)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberaeron) (832)
  
59.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberaeron) (936)
  
65.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sy'n ddiwaith (Aberaeron) (370)
  
50.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Enwogion

  • Syr Geraint Evans - bu'r canwr opera enwog yn byw yn Aberaeron am dros ddeng mlynedd ar hugain.

Cyfeiriadau

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.