Aberaeron

tref a chymuned yng Ngheredigion, Cymru
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:17, 5 Mai 2004 gan Gareth Wyn (sgwrs | cyfraniadau)
Aberaeron
Ceredigion

Mae Aberaeron yn dref arfordirol yng Ngheredigion. Adeiladwyd y dref gan y Parch Alban Thomas Jones-Gwynne ym 1805. Mae'r tai wedi'u gosod mewn patrwm ffurfiol -- o dan ddylanwad y pensaer John Nash, medd rhai.

Crewyd harbwr ar geg yr afon Aeron, ac yn fuan daeth y dref yn ganolfan bysgota bwysig. Erbyn hyn, cychau hwylio sydd i'w gweld yn harbwr Aberaeron.

Gan fod Aberaeron rhwng de a gogledd Ceredigion, yma bellach mae pencadlys y Cyngor Sir.

Cysylltiadau allanol