Dinas hynafol yng ngogledd Syria yw Aleppo (Arabeg حلب ['ħalab]; Ffrangeg, Alep; hefyd Halep neu Haleb). Mae'n brifddinas talaith Aleppo sy'n ymestyn o gwmpas y ddinas am dros 16,000 km² gyda phoblogaeth o 4,393,000. Gall Aleppo hawlio fod yn un o'r dinasoedd hynaf yn y byd, gyda thystiolaeth fod pobl yn byw yno ers tua 11,000 CC. Roedd yn cael ei hadnabod yn yr Henfyd fel Khalpe, Khalibon, Beroea (Veroea) (i'r Groegiaid), a Halep (i'r Tyrciaid); Alep yw'r enw Ffrangeg. Gorwedd ar safle strategol ar groesffordd bwysig lle cwrdd hen lwybrau masnach rhwng India a'r Lefant, hanner ffordd rhwng Môr y Canoldir i'r gorllewin ac Afon Ewffrates i'r dwyrain; rhedai llwybr arall i Asia Leiaf i'r gogledd a Damascus i'r de. Rhed afon Quweiq (قويق) trwy'r ddinas.

Golygfa ar Aleppo
Caer Aleppo

Tyfodd y ddinas hynafol ar y bryniau isel o gwmpas y bryn dominyddol lle codwyd Caer Aleppo yn ddiweddarach. Yn yr Oesoedd Canol, roedd y gaer anferth honno yn ganolfan bwysig i'r Mwslimiaid yn ystod y Croesgadau ac fe'i defnyddiwyd gan Saladin ac eraill fel canolfan. Lleihaodd pwysigrwydd Aleppo fel canolfan fasnachol gyda datblygu llwybr arforol Penrhyn Gobaith Da ac agor Camlas Suez yn ddiweddarach, a effeithiodd ar y fasnach â'r Dwyrain, ac erbyn heddiw mae'n ganolfan allforio cynnyrch amaethyddol yr ardal amgylchynnol; gwenith, cotwm, cnau pistachios, ffrwyth olewydd, a defaid.

Ystyrir hen bazaar Aleppo yn un o ryfeddodau'r Dwyrain Canol, gyda rhwydwaith dan do o filltiroedd o strydoedd culion a souks o bob math. Mae Caer Aleppo yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO. Mae'r ddinas yn enwog yn y byd Arabaidd am ei byrth niferus hefyd ac fel canolfan ddiwylliannol unigryw.

Pyrth Aleppo

  • Bab al-Hadid (Y Porth Haearn)
  • Bab al-Maqam (Porth y Gysegrfan)
  • Bab Antakeya (Porth Antioch)
  • Bab al-Nasr (Porth y Fuddugoliaeth)
  • Bab al-Faraj (Porth y Rhyddhad)
  • Bab Qinnasrin (Porth Qinnasrin)
  • Bab al-Jnean (Porth y Gerddi)
  • Bab al-Ahmar (Y Porth Coch)


  Eginyn erthygl sydd uchod am Syria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato

Nodyn:Link FA