Alun Llywelyn-Williams
bardd a beirniad llenyddol
Llenor a beirniad llenyddol o Gymru oedd Alun Llywelyn-Williams (27 Awst 1913 - 9 Mai 1988).
Alun Llywelyn-Williams | |
---|---|
Ganwyd | 27 Awst 1913 Caerdydd |
Bu farw | 9 Mai 1988 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Tad | David Llewelyn Williams |
Ganed ef yng Nghaerdydd yn fab i feddyg, ac addysgwyd ef yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, gan raddio mewn Cymraeg a hanes. Ymunodd â staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1936. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, bu'n swyddog gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, a chlwyfwyd ef yn ddifrifil mewn brwydr yn yr Ardennes.
Yn 1948, daeth yn Gyfarwyddwr Efrydiau Allanol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.
Cyhoeddiadau
golygu- Cerddi 1934-42 (1944)
- Pont y Caniedydd (1956)
- Crwydro Arfon (1959)
- Crwydro Brycheiniog
- Y Nos, Y Niwl a'r Ynys (1960)
- Y Llenor a'i Gymdeithas (1963)
- Nes na'r Hanesydd? (1968)
- Gwanwyn yn y Ddinas (1975)
- Golau yn y Gwyll (1979)
Astudiaethau
golygu- Gwyn Thomas, Llên y Llenor: Alun Llywelyn-Williams (Gwasg Pantycelyn, 1988)