Cloroffyl
Cloroffyl yw'r cyfansawdd ffotosynthetig gwyrdd a geir mewn planhigion, algâu, a syanobacteria. Daw'r enw o'r iaith Groeg hynafol: chloros = gwyrdd and phyllon = deilen. Mae cloroffyl yn amsugno goleuni o donfeddi coch a glas y sbectrwm electromagnetig yn gryf iawn, ond ychydig iawn o'r tonfeddi golau gwyrdd. Dyma sydd yn esbonio lliw gwyrdd meinweoedd sy'n cynnwys cloroffyl, megis dail planhigion.