Dameg
Stori fer alegorïaidd ac iddi bwrpas addysgol neu foesol yw dameg. Fel rheol, bodau dynol ydy cymeriadau dameg;[1] gelwir stori debyg sydd yn cynnwys anifeiliaid neu fodau eraill yn gymeriadau dynweddol yn ffabl. Nod y ddameg yw llunio cydweddiad rhwng esiampl o ymddygiad dynol ac ymddygiad y ddynolryw yn gyffredinol. Gellir olrhain y ddameg yn ôl i draddodiadau llên lafar cynllythrennog fel modd o drosglwyddo doethineb y werin o oes i oes.[2]
Geirdarddiad
golyguTalfyriad o "adameg" yw'r gair dameg.[3] Ceir enghreifftiau o "adameg" yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr yn y 14g a'r 15g. Ansicr yw bôn ieithyddol y gair,[4] er ei fod yn bosib ei fod yn rhannu'r un gwreiddyn Celteg â "gofeg", sef *meigh- neu meik- sy'n golygu disgleirio neu belydru.[5]
Llenyddiaeth Roeg-Rufeinig
golyguTechneg rethregol boblogaidd yn llenyddiaeth yr hen Roegiaid a'r Rhufeinwyr oedd y ddameg. Esiamplau clir a draethir er mwyn egluro rhywbeth yn amlwg oeddynt yn hytrach na straeon trosiadol neu enigmataidd.
Damhegion crefyddol
golyguDamhegion yr Iesu
golyguTraethodir nifer o ddamhegion gan Iesu Grist yn yr Efengylau, yn bennaf yn Mathew a Luc. Ymhlith y rhain mae straeon y Samariad Trugarog a'r Mab Afradlon.
Llên Ewrop
golyguO ganlyniad i bwysigrwydd damhegion yr Iesu yn y ffydd Gristnogol, daeth damhegion moesol ac ysbrydol yn boblogaidd yn llên grefyddol ac athronyddol ar draws Ewrop. Dyfeisiodd pregethwyr ddamhegion eu hunain i ddysgu moeswersi i'r ffyddlon. Yn yr Oesoedd Canol, cesglid straeon o'r fath mewn llyfrau, megis y Gesta Romanorum a Livre pour l'enseignement de ses filles.
Yn y cyfnod modern, cafodd agweddau paradocsaidd y ddameg eu hadnewyddu gan yr athronydd Søren Kierkegaard, a ail-ddywedodd stori Abraham ac Isaac yn ei waith Frygt og Bæven (1843). Ysgrifennir straeon damhegol yn yr 20g gan Franz Kafka ac Albert Camus.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ H. J. Hughes, Gwerthfawrogi Lleyddiaeth (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1959), t. 166.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Fable, parable, and allegory. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Ionawr 2019.
- ↑ dameg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Ionawr 2019.
- ↑ adameg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Ionawr 2019.
- ↑ gofeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Ionawr 2019.