Gwlff Gini
Gwlff sy'n rhan o Fôr Iwerydd ar arfordir gorllewinol Affrica yw Gwlff Gini.[1] Ystyrir bod Bae Benin yn y gogledd-orllewin a Gwlff Bonny yn y gogledd-ddwyrain yn ffurfio rhannau ohono.
Math | bae |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd |
Gwlad | Liberia, Y Traeth Ifori, Ghana, Togo, Benin, Nigeria, Camerŵn, Gini Gyhydeddol, Gabon, São Tomé a Príncipe |
Uwch y môr | 0 metr |
Gerllaw | De Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Port Harcourt, Osu |
Cyfesurynnau | 1°N 4°E |
Mae'r gwlff yn cynnwys nifer o ynysoedd o darddiad folcanig. Y prif ynysoedd yw Bioko, Príncipe, São Tomé, Annobon a Corisco. Y prif afonydd sy'n aberu yn y gwlff yw afon Niger, afon Volta ac afon Sanaga. Mae'r Gwlff o bwysigrwydd economaidd mawr oherwydd fod olew i'w gael yma.
Y gwledydd sydd ag arfordir ar Gwlff Gini, o'r gorllewin hyd y de-ddwyrain, yw:
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 82.