James Stewart (actor)

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Indiana County yn 1908

Actor o'r Unol Daleithiau oedd James Stewart (20 Mai 19082 Gorffennaf 1997). Roedd yn adnabyddus i'w ffrindiau a'i ffans fel Jimmy Stewart. Cafodd yrfa hir yn gwneud ffilmiau a daeth yn un o actorion mwyaf adnabyddus Hollywood. Gwyddai sut i bortreadu cymeriadau y gallai pobl gyffredin uniaethu â hwy yn hawdd, yn arbennig yn ei gomedïau. Daeth ei wyneb a'i lais cyfareddol yn un o eiconau ei gyfnod.

James Stewart
GanwydJames Maitland Stewart Edit this on Wikidata
20 Mai 1908 Edit this on Wikidata
Indiana Edit this on Wikidata
Bu farw2 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon, ataliad y galon, emboledd ysgyfeiniol, thrombosis Edit this on Wikidata
Beverly Hills Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Princeton University School of Architecture
  • Mercersburg Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethswyddog milwrol, hedfanwr, actor ffilm, cyfarwyddwr teledu, sgriptiwr, person milwrol, actor llwyfan, bardd, actor llais, cyfarwyddwr ffilm, actor, llenor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amIt's a Wonderful Life, Vertigo, Rear Window, Rope, You Can't Take It With You, Mr. Smith Goes to Washington, The Philadelphia Story, The Man Who Shot Liberty Valance, Winchester '73, Harvey, Anatomy of a Murder, How The West Was Won, The Naked Spur, The Shootist, The Man Who Knew Too Much, Destry Rides Again, Broken Arrow, Bend of The River, Two Rode Together, The Man From Laramie, The Glenn Miller Story, The Shop Around The Corner, Shenandoah, Mr. Hobbs Takes a Vacation, The Far Country, The Rare Breed Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin gwyllt, ffilm gyffro, Ffilm gyffro seicolegol, ffilm ddrama, film noir, ffilm gomedi, ffilm ffantasi, ffilm am ddirgelwch, ffilm drosedd, ffilm llawn cyffro, ffilm ryfel, ffilm epig, crime drama film, ffilm ramantus, war drama, ffilm gyffrous am drosedd, ffilm antur Edit this on Wikidata
Taldra191 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
TadAlexander Maitland Stewart Edit this on Wikidata
MamElizabeth Ruth Stewart Edit this on Wikidata
PriodGloria Hatrick McLean Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroix de guerre 1939–1945, Y Groes am Hedfan Neilltuol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Aer, Commendation Medal, Armed Forces Reserve Medal, Croix de guerre, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Golden Globe Cecil B. DeMille, Gwobr Cyflawniad Urdd yr Actorion Sgrîn, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Anrhydedd y Kennedy Center, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Gwobr 'Hall of Fame' am Hedfan, Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, Silver Bear, Medal Gwasanaethau Difreintiedig, Medal Ymgyrch Ewropeaidd-Affricanaidd-Dwyrain Canol, Gwobr Golden Boot, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Ours d'or d'honneur Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd ei eni yn Indiana, Pennsylvania ym 1908. Priododd Gloria Hatrick McLean ar 9 Awst 1949. Daeth i amlygrwydd fel actor comedi ac actor mewn ffimiau Western ddiwedd y 1930au a'r 1940au. Serenodd gyda rhai o actorion mwyaf y dydd, yn cynnwys Katharine Hepburn (The Philadelphia Story) a Marlene Dietrich (Destry Rides Again).

Cymerodd ei yrfa dro newydd pan gafodd ei ddewis gan y cyfarwyddwr Alfred Hitchcock i serennu mewn cyfres o ffilmiau arloesol fel Rope (1948), Vertigo (1958, gyda Kim Novak) a Rear Window (1954). Ystyrir yr olaf yn un o'i ffilmiau gorau. Ar ôl cyfnod y ffilmiau Hitchcock dychwelodd i fyd y Western a gwnaeth gyfres o ffilmiau nodedig gan gynnwys How the West Was Won (1962).

Ffilmiau (detholiad)

golygu