Moel Famau
bryn (554.8m) yn Sir Ddinbych
Bryn ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint yw Moel Famau. Y bryn yma yw copa uchaf Bryniau Clwyd. Mae'n ganolbwynt Parc Gwledig Moel Famau.
Math | copa, bryn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Uwch y môr | 554.8 metr |
Cyfesurynnau | 53.1545°N 3.2559°W |
Cod OS | SJ1612462674 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 278 metr |
Rhiant gopa | Moel y Gamelin |
Cadwyn fynydd | Bryniau Clwyd |
Ar y copa ceir Tŵr y Jiwbili, a adeiladwyd yn 1818 i ddathlu jiwbili y brenin Sior III. Chwalwyd y rhan uchaf o'r tŵr gan storm fawr yn 1862. Ar ddiwrnod clir gellir gweld yr Wyddfa, Ynys Manaw, Cader Idris a rhan helaeth o ogledd-orllewin Lloegr cyn belled a Cumbria o'r copa.
Galeri
golygu-
Moel Famau o gyfeiriad Moel y Gaer, Dyffryn Clwyd.
-
Moel Famau a'i chywion o Fwlch Gwyn ger Wrecsam
-
Tŵr y Jiwbili a godwyd i ddathlu 50 mlynedd Sior lll fel brenin Lloegr; ni chafodd y tŵr mo'i orffen
-
Moel Famau o Fwlchgwyn ger Wrecsam
Bywyd gwyllt
golyguDyma gynefin y rugiar ddu brin, adar ysglyfaethus ac adar megis clochdar y cerrig sy'n nodweddiadol o ucheldir o'r math hwn.
Gweler hefyd
golyguDolenni allanol
golyguGolygfeydd panorama o'r copa:
- Moel Famau Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback
- Mynegai
- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map[dolen farw]
- Copaon ar yr awyr Archifwyd 2016-03-24 yn y Peiriant Wayback