Mohammed Ali Jinnah

Sefydlydd gwladwriaeth annibynnol Pacistan oedd Mohammed Ali Jinnah (Wrdw: محمد على جناح neu Muhammad Ali Jinnah) (25 Rhagfyr 187611 Medi 1948).

Mohammed Ali Jinnah
Ganwyd1870s Edit this on Wikidata
Karachi Edit this on Wikidata
Bu farw11 Medi 1948 Edit this on Wikidata
Karachi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPacistan, y Raj Prydeinig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr, bargyfreithiwr, ymladdwr rhyddid Edit this on Wikidata
SwyddGovernor-General of Pakistan, Speaker of the National Assembly of Pakistan, President of the Constituent Assembly of Pakistan, member of the Central Legislative Assembly Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCyngres Genedlaethol India, All India Muslim League, Muslim League Edit this on Wikidata
TadJinnahbhai Poonja Edit this on Wikidata
MamMitthibai Jinnahbhai Edit this on Wikidata
PriodEmibai Jinnah, Rattanbai Jinnah Edit this on Wikidata
PlantDina Wadia Edit this on Wikidata
PerthnasauNeville Wadia Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://majinnah.com.pk Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Jinnah yn Karachi yn 1876. Astudiodd y gyfraith yn Lloegr ac am gyfnod hir bu ganddo bractis cyfreithiwr llwyddiannus yn India cyn iddo droi ei law at wleidyddiaeth.

Fel aelod o'r Cynghair Mwslemaidd yn ogystal â Chyngres Genedlaethol India, roedd yn gryf o blaid undeb Hindŵ-Fwslemaidd hyd 1930 pan ymddeolodd o'r Gyngres mewn protest yn erbyn polisïau Mahatma Gandhi.

Roedd yn arlywydd y Cynghair Mwslemaidd yn 1916 a 1920 ac wedyn o 1934 ymlaen. Yn ystod y cyfnod olaf hwnnw daeth i gefnogi a hyrwyddo'r polisi o greu gwladwriaeth Fwslim ar wahân i Fwslemiaid India. Gwireuddwyd y breuddwyd yn 1947 ond am gost uchel mewn bywydau coll yn ystod ymraniad India.

Bu farw yn 1948 a chodwyd beddrod ysblennydd iddo (Mazar-e-Quaid) yn ei ddinas enedigol.