Owain Glyn Dŵr
Owain ap Gruffydd (c. 1354 – c. 1415) a adnabyddir yn gyffredin heddiw fel Owain Glyn Dŵr, neu Owain Glyndŵr (Owain Glyndyfrdwy[1] gynt) oedd y Cymro olaf i gael ei alw yn Dywysog Cymru. Rhoddwyd iddo hefyd y llysenw "Y Mab Darogan".
Owain Glyn Dŵr | |
---|---|
Ganwyd | 1359 Castell Dolwyddelan |
Bu farw | c. 1415 Tywysogaeth Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person milwrol, tirddaliadaeth, gweinyddwr |
Cysylltir gyda | Bwrdd y Tri Arglwydd, Mab Darogan, Y Mab Darogan |
Tad | Gruffudd Fychan II |
Mam | Elen ferch Thomas ap Llywelyn ab Owain ap Maredudd |
Priod | Margaret Hanmer |
Plant | Maredudd ab Owain Glyn Dŵr, Gruffudd ab Owain Glyndŵr, Catrin ferch Owain Glyn Dŵr, Gwenllian ferch Owain Glyndŵr, Alys ferch Owain Glyndŵr, Ieuan ab Owain Glyndŵr, Sioned ferch Owain Glyn Dŵr |
Llinach | Llinach Mathrafal |
Ganwyd Owain Glyndyfrdwy yn 1359. Roedd yn etifedd llinach Powys Fadog ar ochr ei dad, a honnai ei fod yn ddisgynnydd i’r Arglwydd Rhys o’r Deheubarth ar ochr ei fam. Etifeddodd arglwyddiaethau Glyndyfrdwy a Chynllaith gyda'i ganolfan yn Sycharth, ger Llansilin, Powys. Astudiodd y gyfraith yn Llundain, a gwasanaethodd gyda lluoedd Henry Bolingbroke, gwrthwynebwr Rhisiart II, brenin Lloegr, a fyddai'n ddiweddarach Harri IV, brenin Lloegr.
Yn 1400 cododd helynt ynghylch tir rhwng Owain Glyn Dŵr a'r Arglwydd Grey o Ruthun, barwn pwerus o Loegr a oedd yn byw gerllaw. Pan ochrodd Harri IV â Grey, ymosododd Glyn Dŵr a’i ddilynwyr ar dref Rhuthun a threfi Cymreig eraill ger y ffin â Lloegr, gan achosi difrod mawr. Ddydd Gŵyl Mathew (23 Medi) 1400 llosgodd Owain dref Rhuthun i'r llawr, heblaw'r castell. Erbyn diwedd 1401 roedd yn ymddangos bod y rhan fwyaf o’r wlad yn cefnogi’r gwrthryfel. Rhwng 1401 ac 1404 ymledodd y gwrthryfel ar draws Cymru a ddatblygodd yn gyflym i fod yn wrthryfel dros annibyniaeth i Gymru. Cipiwyd cestyll Harlech ac Aberystwyth a threchwyd byddinoedd Lloegr yng Nghwm Hyddgen a Bryn Glas yng nghanolbarth Cymru. Gan sylweddoli y byddai’n rhaid iddo drechu’r Saeson mewn brwydr fawr, cynhaliodd Glyn Dŵr, a oedd yn galw ei hun yn Dywysog Cymru, senedd arbennig ym Machynlleth i godi arian ar gyfer yr achos (y senedd gyntaf o’i bath yng Nghymru). Yn y Senedd a gynhaliwyd ym Machynlleth roedd cynrychiolwyr o Ffrainc, yr Alban a Sbaen. Ffurfiodd gynghreiriau â Dug Northumberland ac Edmund Mortimer, gelynion Harri IV, a lluniodd gynghrair ffurfiol â Brenin Ffrainc.
Am gyfnod roedd yn rheoli bron y cyfan o Gymru, ond erbyn 1405, fodd bynnag, roedd y llanw wedi dechrau troi a threchwyd byddinoedd Glyn Dŵr yn y Grysmwnt a Brynbuga. Ni ddaeth cymorth gan y Ffrancwyr a’r Albanwyr, ac ildiodd dynion Morgannwg, Gŵyr, Tywi, Ceredigion ac Ynys Môn i frenin Lloegr. Erbyn 1408 roedd cadarnleoedd pwysig Harlech ac Aberystwyth wedi eu hadennill a daeth y gwrthryfel i ben. Cafwyd rhai cyrchoedd ar ôl hyn ond erbyn 1415 daeth y gwrthryfel i ben, a diflannodd Glyn Dŵr. Roedd llawer o ddifrod wedi ei wneud a nifer fawr wedi marw, a daeth pethau’n anodd pan gyflwynwyd cyfreithiau gwrth-Gymreig gan Harri IV. I rai teuluoedd cyfoethog, daeth y gwrthryfel â’u hawdurdod i ben. Newidiodd eraill eu teyrngarwch i Harri IV ac aeth llawer o’r dynion a oedd wedi ymladd ochr yn ochr â Glyn Dŵr ymlaen i ymladd yn erbyn y Ffrancwyr yn Agincourt (1415). Ond yn ystod y gwrthryfel, roedd y Cymry wedi uno o dan arweinydd cenedlaethol gan blannu gweledigaeth o Gymru annibynnol.
Mae Owain Glyn Dŵr yn sefyll fel unigolyn pwysig yn hanes Cymru, nid yn unig fel un oedd yn cael ei weld fel arweinydd cenedlaethol ond hefyd fel gwleidydd a oedd yn gweld rôl i Gymru o fewn cyd-destun Ewropeaidd. Yn Llythyr Pennal a ysgrifennwyd yn 1406 mae’n ceisio llunio cysylltiadau gyda Ffrainc drwy ddangos cefnogaeth i Bab Avignon, yn hytrach na Phab Rhufain a gefnogwyd gan Loegr. Yn y llythyr mae Glyn Dŵr hefyd yn amlinellu ei syniad am sut byddai’n creu Cymru annibynnol drwy sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru (yn y de a’r gogledd), Eglwys annibynnol i Gymru gyda'i chronfa arian ei hunan a Chymry Cymraeg yn cael eu penodi i swyddi uchel yn yr Eglwys.
Ceir y cofnod olaf am Owain yn 1412, ac nid oes neb yn sicr beth ddigwyddodd iddo ar ôl hynny. Saif, fodd bynnag, yng nghof y Gymru gyfoes fel un o arwyr pwysicaf y genedl ac mae cerflun ohono yn oriel yr arwyr cenedlaethol Neuadd y Ddinas, Caerdydd.[2][3]
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
HWB | |
Datblygu Rhyfela | |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Owain Glyndŵr (Bywgraffiadur) | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Bywyd cynnar
golyguMae ansicrwydd ynghylch blwyddyn geni Owain. Awgryma cofnod achos cyfreithiol Grosvenor v Scrope, lle'r ymddangosodd fel tyst, ei fod wedi ei eni yn 1359. Rhydd un llawysgrif ddyddiad pendant: 28 Mai, 1354, tra ceir traddodiad iddo gael ei eni yn 1349, blwyddyn y Pla Du.[4] Nid oes sicrwydd ymhle y ganwyd ef chwaith; mae'n bosib mai Sycharth, ger Llansilin yw'r lle mwyaf tebygol. Bu farw ei dad rywbryd cyn 1370 gan adael ei fam yn weddw. Etifeddodd Glyndyfrdwy a Chynllaith oddi wrth ei dad, a thiroedd yng nghymydau Gwynionydd ac Iscoed Uch Hirwern yng Ngheredigion oddi wrth ei fam.[5] Mae'n debyg bod Owain wedi treulio rhywfaint o'i blentyndod yng nghartref Syr David Hanmer. Bu yn Llundain yn astudio'r gyfraith am rai blynyddoedd, yn ôl pob tebyg ym mlynyddoedd olaf teyrnasiad Edward III.[6] Mae'n bur debyg ei fod yn Llundain adeg Gwrthryfel y Werin yn 1381. Roedd yn ôl yng Nghymru erbyn 1383, a phriododd Margaret Hanmer, a oedd yn ferch i Syr David Hanmer.
Gwyddys iddo ymladd yn yr Alban dros Rhisiart II, brenin Lloegr; ceir y cofnod cyntaf amdano fel milwr yn 1384, pan oedd yn aelod o arsiwn Berwick-upon-Tweed, gyda charfan o Gymry dan Syr Gregory Sais. Yn 1385 roedd yn ymladd yn Ffrainc yn y Rhyfel Can Mlynedd, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno roedd yn yr Alban eto dan John o Gaunt. Yn 1386 cofnodir iddo gael ei alw fel tyst yn achos Scrope v. Grosvenor yng Nghaer. Yn 1387, roedd yn ne-ddwyrain Lloegr yn gwasanaethu dan Richard FitzAlan, 11eg Iarll Arundel, a chymerodd ran mewn brwydr ar y môr oddi ar arfordir Caint, pan orchfygwyd llynges o Ffrainc, Sbaen a Fflandrys. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, bu farw ei dad-yng-nghyfraith, Syr David Hanmer, a dychwelodd Owain i Gymru i fod yn ysgutor ei ystâd.
Treuliodd Owain y blynyddoedd nesaf ar ei stad. O'r cyfnod yma, yn ôl pob tebyg, y mae cywydd enwog Iolo Goch yn canmol ei lys yn Sycharth yn dyddio. Roedd Gregory Sais wedi marw yn 1390, a thua'r un adeg, dechreuodd Iarll Arundel golli dylanwad; dienyddiwyd ef yn 1397. Yn 1399, cipiwyd grym Lloegr gan Henry Bolingbroke, a ddiorseddodd y brenin Rhisiart II a dod yn frenin fel Harri IV. Carcharwyd Rhisiart, a llofruddiwyd ef yn Chwefror 1400. Datblygodd cweryl rhwng Owain a Reginald Grey, arglwydd Dyffryn Clwyd, a hawliai gyfran o diroedd Owain Glyn Dŵr. Yn ystod teyrnasiad Rhisiart II, penderfynwyd yr achos o blaid Owain, ond wedi i Harri IV gipio'r orsedd, ail-agorodd de Grey yr achos, gan fanteisio ar y ffaith ei fod yn gyfaill i'r brenin. Dywed rhai ffynonellau fod de Grey wedi oedi gyrru gwŷs gan y brenin i Owain yn hawlio cymorth milwrol yn yr Alban. Erbyn i Owain dderbyn y wŷs, roedd yn rhy hwyr iddo ymateb.
Y Gwrthryfel, 1400–1415
golyguDechrau'r gwrthryfel 1400–1401
golyguAr 16 Medi, 1400, gweithredodd Owain, a chafodd ei gyhoeddi'n Dywysog Cymru gan ei gefnogwyr. Roedd hyn yn ddatganiad chwyldroadol ynddo'i hun. Ymledodd yr ymgyrch drwy'r gogledd-ddwyrain. Erbyn 19 Medi, ymosodwyd ar Ruthun, cadarnle de Grey, a bu bron iawn iddo gael ei dinistrio'n llwyr. Ymosodwyd ar Ddinbych, Rhuddlan, castell y Fflint, Penarlâg, a Holt yn fuan ar ôl hynny. Ar 22 Medi cafodd tref Croesoswallt ei difrodi mor ddrwg gan gyrch Owain fel y bu rhaid ei hail-siarteru yn ddiweddarach. Erbyn y 24ain, roedd Owain yn symud i'r de drwy Bowys a dinistriodd y Trallwng. Ar yr un pryd lansiodd nifer o aelodau teulu Tuduriaid Penmynydd o ynys Môn, gyfres o ymosodiadau "guerilla" yn erbyn y Saeson. Roedd y Tuduriaid yn deulu blaenllaw o Fôn ac wedi mwynhau perthynas agos â Rhisiart II (bu Gwilym a Rhys ap Tudur yn gapteiniaid saethwyr bwa yn ystod ymgyrchoedd Rhisiart yn Iwerddon. Newidiasant eu teyrngarwch i Owain Glyn Dŵr wrth i'r rhyfel ymledu.
Troes Harri IV - oedd ar ei ffordd i geisio goresgyn yr Alban – ei fyddin tuag at Gymru ac erbyn 26 Medi roedd wedi cyrraedd Amwythig ac yn barod i ymosod ar Gymru. Mewn cyrch cyflym ond di-fudd arweiniodd Harri ei fyddin o amgylch gogledd Cymru. Cafodd ei boeni'n gyson gan dywydd drwg ac ymosodiadau guerilla gwŷr Owain. Erbyn 15 Hydref, roedd yn ôl yn Amwythig, heb fawr i'w ddangos am ei ymdrechion.
Prif arweinydd yr ymgyrch yn erbyn Owain yng ngogledd Cymru oedd Henry Percy ("Hotspur"), mab hynaf Henry Percy, Iarll 1af Northumberland. Cynigiodd ef bardwn i bawb o ddilynwyr Owain Glyn Dŵr, ac eithrio Owain eu hun a dau o Duduriaid Penmynydd, Rhys ap Tudur a'i frawd Gwilym ap Tudur. Am rai misoedd, ymddangosai fod y gwrthryfel yn dirwyn i ben. Fodd bynnag, ar ddydd Gwener y Groglith 1401, cipiodd Rhys a Gwilym ap Tudur gastell Conwy. Tua mis Mehefin yr un flwyddyn ymladdwyd brwydr Hyddgen yn uchel ar lethrau Pumlumon, ar y ffin rhwng Powys a Cheredigion. Trechodd byddin fach Owain Glyn Dŵr lu mawr o Saeson a Fflemingiaid oedd yn ceisio cyrraedd castell Aberystwyth. Arweiniodd Harri IV gyrch i dde Cymru, a dienyddiwyd un o gefnogwyr Owain, Llywelyn ap Gruffudd Fychan o Gaeo yn Llanymddyfri ar 9 Hydref. Ddiwedd Tachwedd, gyrrodd Owain lythyrau at Robert III, brenin yr Alban ac at benaethiaid Iwerddon yn gofyn am gymorth.[7] Daeth y flwyddyn i ben gyda Brwydr Twthil ar 2 Tachwedd 1401, rhwng llu Owain Glyn Dŵr ac amddiffynwyr Caernarfon.
Anterth 1402–1405
golyguYmddangosodd comed yn ystod misoedd Chwefror a Mawrth 1402, a ystyrid gan lawer yn argoel o fuddugoliaeth Owain Glyn Dŵr.[8] Tua chanol mis Ebrill, cymerwyd gelyn Owain, Reginald de Grey o Ruthun, yn garcharor ganddo gerllaw Rhuthun. Bu raid i de Grey dalu 10,000 o farciau am ei ryddid. Enillodd Owain fuddugoliaeth bwysig ym Mrwydr Bryn Glas ar 22 Mehefin 1402, ger pentref Pilalau, ar odre gogleddol Fforest Faesyfed, ger Llanandras a'r ffin rhwng Swydd Henffordd a Powys. Cymerwyd arweinydd y fyddin Seisnig, Syr Edmund Mortimer, yn garcharor. Yn nes ymlaen byddai'n priodi Catrin, ferch Owain, ac yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r Mab Darogan yn erbyn brenin Lloegr. Yn 1402 hefyd, pasiodd Senedd Lloegr y Deddfau Penyd, cyfres o ddeddfau yn erbyn y Cymry. Dan y deddfau hyn, gwaherddid unrhyw Gymro, heblaw esgobion, rhag dal unrhyw swydd gyhoeddus, rhag dwyn arfau a rhag byw mewn unrhyw fwrdeistref Seisnig. Roedd y gwaharddiad ar ddal swydd gyhoeddus hefyd yn ymestyn i unrhyw Sais oedd yn briod a Chymraes.
Yn 1403, cododd Henry Percy (Hotspur) mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin, a gwnaeth gytundeb ag Owain. Lladdwyd Hotspur yn ymladd yn erbyn byddin y brenin ym Mrwydr Amwythig ar 21 Gorffennaf. Nid oedd Owain a'i fyddin yn bresennol, er bod rhai o'i gefnogwyr yno. Roedd Owain ei hun yn ymgyrchu yn Sir Gaerfyrddin, lle cododd Cymry Dyffryn Tywi i'w gefnogi, ac ym mis Gorffennaf ildiwyd castell a thref Caerfyrddin iddo.[9] Ym mis Mai 1404, gyrrodd Owain lythyr at Siarl VI, brenin Ffrainc, gan ei arwyddo fel Owynus dei gratia princeps Wallie. Cludwyd y llythyr i Baris gan ddau lysgennad, ei frawd-yng-nghyfraith, John Hanmer, a'i ganghellor, Gruffudd Yonge. Rywbryd yn ystod 1404, syrthiodd Castell Harlech a Chastell Aberystwyth i Owain, gan gryfhau ei afael ar ganolbarth Cymru. Yr un flwyddyn, cofnodir gan Adda o Frynbuga i Owain gynnal senedd ym Machynlleth.[10]
Ar 12 Ionawr 1405 arwyddwyd cytundeb ffurfiol gyda brenin Ffrainc, i gynghreirio yn erbyn Harri IV, brenin Lloegr. O fewn wythnosau, glaniodd byddin enfawr o Ffrancwyr yn Aberdaugleddau, Sir Benfro heddiw. Gorymdeithio y Ffrancwyr ochr-yn-ochr â byddin Cymru, trwy Swydd Henffordd ac ymlaen i Swydd Gaerwrangon. Fe wnaethant gyfarfod â byddin Lloegr ddim ond deng milltir o Gaerwrangon. Cymerodd y ddwy fyddin eu safleoedd yn barod i frwydro, a hynny gan wynebu ei gilydd filltir i ffwrdd, ond ni fu unrhyw ymladd. Yna, am resymau nad ydyn nhw erioed wedi dod yn amlwg, enciliodd y Cymry, a throdd y Ffrancwyr adref ychydig wedyn.
Ar 28 Chwefror 1405, arwyddwyd y Cytundeb Tridarn rhwng Owain a'i gynghreiriad Henry Percy, Iarll 1af Northumberland (tad Hotspur) ac Edmund Mortimer. Roedd y cytundeb yma'n rhannu Ynys Brydain (heb gynnwys yr Alban) rhyngddynt fel penaethiaid sofran, annibynnol. Yn ôl y ddogfen, roedd Owain Glyn Dŵr a phob Tywysog Cymru ar ei ôl, i gael:
- "The whole of Cambria or Wales divided from Leogria now commonly called England by the following borders, limits, and bounds: from the Severn estuary as the River Severn flows from the sea as far as the northern gate of the city of Worcester; from that gate directly to the ash trees known in Cambrian or Welsh language as Onennau Meigion which grow on the high road from Bridgnorth to Kinver; then directly along the highway... to the head or source of the River Trent; thence to the head or source of the river commonly known as the Mersey and so along to the sea".[11]
Ym mis Mawrth 1405 roedd Rhys Gethin yn y de, yn ymosod yn aflwyddiannus ar dref Y Grysmwnt a'i chastell; curwyd ei fyddin o tua 8,000 o wŷr Gwent a Morgannwg gan fyddin gref a anfonwyd o Henffordd i godi'r gwarchae. Ym mis Mai'r un flwyddyn, gorchfygwyd byddin Owain ym Mrwydr Pwll Melyn gerllaw Brynbuga, Sir Fynwy. Lladdwyd ei frawd, Tudur, a chymerwyd ei fab, Gruffudd yn garcharor. Tua 1 Awst, cynhaliwyd ail senedd Owain yn Harlech. Yn fuan wedyn, cyrhaeddodd byddin Ffrengig o tua 2,600 o wŷr dan Jean de Hangest i Aberdaugleddau, Sir Benfro, i gynorthwyo Owain.[12] Ymunodd cefnogwyr Owain â hwy, a chipiwyd tref Hwlffordd, ond nid y castell, yna cipiwyd tref a chastell Caerfyrddin ac Aberteifi. Erbyn diwedd Awst, roeddynt gerllaw Caerwrangon, yn wynebu byddin y brenin. Nid oedd yr un o'r ddwy fyddin yn barod i ymosod, ac ymhen wythnos, enciliodd byddin Owain. Ymosododd y brenin ar Sir Forgannwg, ond roedd y tywydd yn ddrwg, a bu raid iddo yntau encilio.[13]
Y llanw'n troi 1406–1412
golyguCynhaliwyd cynulliad o'r Cymry ym Mhennal, ger Machynlleth ym mis Mawrth, 1406, ac yno lluniwyd dogfen yn gosod allan bwriadau'r tywysog ynghyd â llythyr i'r Brenin Siarl VI o Ffrainc; adnabyddir y dogfennau pwysig hyn fel Polisi Pennal. Roedd Owain wedi derbyn llythyr gan Siarl VI ar ddechrau Mawrth, yn ei annog i drosglwyddo ei deyrngarwch i Bab Avignon, Bened XIII. Yn y llythyr a anfonodd Owain yn ôl at frenin Ffrainc ar 31 Mawrth, cytunodd i wneud hynny ar rai amodau. Yn eu plith, roedd rhaid i Bened XIII gytuno i sefydlu eglwys Gymreig, yn atebol i Dyddewi yn hytrach nag i Archesgob Caergaint, a sefydlu dwy brifysgol, neu studia generalia, yng Nghymru, un yn y gogledd ac un yn y de.[14]
Fodd bynnag, roedd llanw'r gwrthryfel eisoes ar drai. Yn yr un flwyddyn (1406) cofnodir fod Penrhyn Gŵyr, Dyffryn Tywi a rhan helaeth o Geredigion wedi ymostwng i'r Saeson. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd nifer fawr o gefnogwyr Owain at Ynys Môn wedi ymostwng hefyd.[15]
Yn ystod haf 1407, gwnaeth byddin brenin Lloegr, dan y tywysog Harri (yn ddiweddarach Harri V, brenin Lloegr), ymdrech i ail-gipio Castell Aberystwyth, oedd yn cael ei gadw dros Owain gan Rhys Ddu. Wedi trafodaethau heddwch, cytunodd Rhys i ildio'r castell erbyn dyddiad penodol os nad oedd y gwarchae Seisnig wedi ei godi. Fodd bynnag, pan aeth at Owain i ofyn am ganiatâd i ildio'r castell, daeth Owain i Aberystwyth ei hun, a bygwth torri pen unrhyw un a geisiai ildio'r castell, yn cynnwys Rhys. Methodd yr ymgais yma ar ran y Saeson, ond ymosododd byddin Harri eto yn 1408, a syrthiodd y castell iddynt y tro hwn.
Yn 1409 syrthiodd Castell Harlech i'r Saeson. Roedd Edmund Mortimer wedi marw yn ystod y gwarchae, a chymerwyd Margaret, gwraig Owain, a dwy o'i ferched, yn cynnwys Catrin, gwraig Mortimer, yn garcharorion.
Dienyddiwyd nifer o gefnogwyr amlwg Owain yr un flwyddyn neu yn 1410; Rhys Ddu yn Llundain, Philip Scudamore yn Amwythig a Rhys ap Tudur yng Nghaer.
Diflaniad
golyguNid oes cofnod pendant am hanes Owain ar ôl 1412, gan gymerodd Dafydd Gam, un o gefnogwyr Cymreig amlycaf Harri IV, yn garcharor gerllaw Aberhonddu. Dyma'r tro olaf i Owain gael ei weld gan ei elynion. Yn ôl llawysgrif Peniarth 135, a ysgrifennwyd yn fuan ar ôl 1422:
- MCCCCxv y ddaeth Owain mewn difant y gwyl Vathe yn y kyngayaf o hynny allan ni wybuwyd i ddifant rrann vawr a ddywaid i varw y brudwyr a ddywedant na bu [16]
- 1415 – Diflannodd Owain ar Ŵyl Sant Matthew yn amser cynhaeaf. O hynny allan ni wybuwyd i ble y diflannodd. Dywed llawer ei fod wedi marw, ond dywed y brudwyr na fu.
Roedd Harri IV wedi marw yn 1413, a'i fab wedi ei olynu ar yr orsedd fel Harri V. Ail-ddechreuodd ef yr ymladd yn y Rhyfel Can Mlynedd yn erbyn Ffrainc, ac yn haf 1415 gofynnodd y brenin newydd i Gilbert Talbot gysylltu ag Owain, a chynnig pardwn iddo. Ni chafwyd ymateb, ac yn 1416 gofynnwyd i Talbot geisio eto, trwy fab Owain, Maredudd ab Owain Glyn Dŵr, y tro hwn. Unwaith eto, ni chafwyd ymateb.[17] Derbyniodd Maredudd bardwn ar 8 Ebrill, 1421. Nid oedd sôn am ei dad, sy'n awgrymu efallai ei fod yn farw erbyn hynny. Buasai Owain Glyn Dŵr ymhell yn ei chwedegau erbyn hynny, pe bai dal yn fyw; gwth o oedran yn yr Oesoedd Canol.
Ceir nifer o draddodiadau lleol yn Swydd Henffordd sy'n awgrymu ei fod wedi cael lloches gyda'i ferch Alys, oedd yn briod a Syr John Scudamore, ym Monnington Stradel, ac iddo farw yno, a'i gladdu yno neu yn Kentchurch gerllaw. Roedd traddodiad arall yn yr ardal mai Owain oedd y bardd Siôn Cent, y bu teulu Scudamore yn un o'i noddwyr.
Yn 2015 cyhoeddodd Gruffydd Aled Williams gyfrol Dyddiau Olaf Owain Glyn Dŵr (Gwasg y Lolfa) ac ynddo mae'n awgrymu dau bosibilrwydd: yn gyntaf, sonia fod llawysgrif a fu ym meddiant Robert Vaughan o'r hengwrt yn allweddol wrth geisio ateb i'r cwestiwn ym mhle y claddwyd Owain. Mae'r cofnod, sydd yn llaw Vaughan, yn awgrymu iddo gael ei gladdu ym mynwent eglwys fechan iawn pewn pentref yn Swydd Amwythig: Cappel Kimbell lle i claddwyd Owen Glyn: yn sir Henffordd. Yn ôl Gruffydd Aled Williams, mynwent Eglwys Sant Iago, ym mhentref Kimbolton yw'r fan. Yr ail bosibilrwydd mae'n ei gynnig yw i Owain gael ei gladdu ger cartref un o'i ferched yn Monnington Straddle (Alys, a briododd Syr John Scudamore), eto yn Swydd Henffordd, gan fod traddodiad cryf yn yr ardal iddo'i gladdu yno mewn hen domen gladdu. Bu'r tir yma'n rhan o dir cysegredig a gwyddys fod ar draws y cae i'r domen dŷ o'r enw Chapel Cottage, a oedd yn y 14g yn gapel anwes.
Owain a Chenedlaetholdeb Cymreig
golyguYchydig o gyfeiriadau sydd at Owain gan y beirdd yn y cyfnod ar ôl ei ddiflaniad, ond cadwyd nifer fawr o chwedlau a thraddodiadau gwerin o'i gwmpas. Gwelwyd Owain fel y Mab Darogan, ac fel enghraifft o thema'r Brenin yn y mynydd neu'r Arwr Cwsg, gyda'r gred ei fod yn cysgu mewn ogof, i ddeffro ryw ddydd pan fydd angen Cymru fwyaf a gorchfygu ei gelynion. Ceir traddodiadau tebyg am Owain arall, Owain Lawgoch, ac ânt aml mae ansicrwydd at ba un y cyfeirir.
Cofnododd Elis Gruffydd ("Y Milwr o Galais"), chwedl am Owain yn 1548. Roedd Abad Abaty Glyn y Groes wedi codi yn fore, ac yn cerdded ar y Berwyn. Cyfarfu ag Owain Glyn Dŵr, a'i cyfarchodd ef "Syr Abad, rydych wedi codi yn rhy fore". "Na", atebodd yr abad, "chychwi a godasoch yn rhy fore, o gan mlynedd".[18]
Anffafriol bu barn haneswyr Cymreig ar Owain yn y canrifoedd nesaf, er enghraifft David Powel yn ei Historie of Cambria, now called Wales yn y 16g. Y rheswm pennaf am hynny oedd eu bod yn dibynnu ar lyfrau am y cyfnod gan haneswyr Seisnig a chofnodion swyddogol Coron Lloegr sy'n portreadu Owain fel "bradwr" penboeth a chreulon a ddaeth a gwae a dioddef i Gymru. Rhoddwyd darlun mwy ffafriol ohono gan Thomas Pennant yn ei Tours in Wales yn 1778.[19] Gyda datblygiad y mudiad Cymru Fydd yn niwedd y 19g, cynyddodd diddordeb yn hanes Owain Glyn Dŵr. Ceir portread ffafriol iawn ohono yn y cylchgrawn Cymru gan O. M. Edwards. Yn 1905, cyhoeddodd Owen Rhoscomyl ei gyfrol ddylanwadol Flame-Bearers of Welsh History sy'n disgrifio Owain fel arwr a ymgeleddai'r werin bobl: yn ateb i'r cwestiwn "ble gladdwyd Glyn Dŵr?" ceir yr ateb ei fod yn gorffwys yng nghalon pob gwir Gymro lle bydd yn aros yn ysbrydoliaeth i'r genedl am byth.[20] Yn 1931, cyhoeddodd John Edward Lloyd yr astudiaeth safonol gyntaf o fywyd a gwrthryfel Owain, Owen Glendower. Diweddodd y llyfr gyda'r farn:
For the Welshmen of all subsequent ages, Glyn Dŵr has been a national hero, the first, indeed, in the country's history to command the willing support alike of north and south, east and west, Gwynedd and Powys, Deheubarth and Morgannwg. He may with propriety be called the father of modern Welsh nationalism".[21]
Yn ddiweddar mae Diwrnod Owain Glyn Dŵr wedi dod yn ddydd gŵyl answyddogol a ddethlir yng Nghymru ar 16 Medi, y dyddiad y cyhoeddwyd Owain Glyn Dŵr yn Dywysog Cymru yn 1400. Cytunwyd i hedfan baner Glyn Dŵr ar furiau Castell Caerdydd ar 16 Medi 2006, mewn ymateb i bwysau gan y cyhoedd.[22] Yn 2008, gydag Alun Ffred Jones AC (Plaid Cymru) yn Weinidog Treftadaeth yn Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Cadw eu bod am chwifio baner Glyn Dŵr ar gestyll Caernarfon, Caerffili, Conwy a Harlech.
Enwyd nifer o bethau ar ôl Owain Glyn Dŵr. Rhoddwyd yr enw Llwybr Glyn Dŵr ar y llwybr cerdded pellter hir ar draws canolbarth Cymru, sy'n ymweld â nifer o safleoedd cysylltiedig ag Owain megis safle brwydr Hyddgen a thref Machynlleth, lle cynhaliodd ei senedd gyntaf. Yn 2008, derbyniodd NEWI, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, statws prifysgol, a newidiodd ei enw i Brifysgol Glyn Dŵr. Dyfernir Gwobr Glyn Dŵr yn flynyddol am gyfraniadau arbennig i'r celfyddydau yng Nghymru. Fe'i rhoddir gan Ymddiriedolaeth Tabernacl Machynlleth i ffigyrau blaenllaw ym meysydd cerddoriaeth, celf a llenyddiaeth yn eu tro.
Defnyddiwyd enw Owain hefyd gan fudiad Meibion Glyn Dŵr, fu'n cynnal ymgyrch losgi tai haf o ddiwedd y 1970au ymlaen. Roedd rhai o'r negesau a anfonid i'r awdurdodau gan y mudiad yn dwyn enw Rhys Gethin. Daeth Owain yn ail yn yr arolwg barn ar-lein 100 o Arwyr Cymru a drefnwyd gan Culturenet Cymru yn 2004.
Owain mewn llenyddiaeth
golyguBarddoniaeth
golyguCanoloesol Roedd croeso i'r beirdd ar aelwyd llys Owain Glyn Dŵr yn Sycharth. Canodd Iolo Goch gerddi moliant i Owain Glyn Dŵr a llys Sycharth. Mae ei ddisgrifiad o lys Sycharth ymhlith y cerddi mwyaf adnabyddus o'r cyfnod. Ceir hefyd dwy gerdd o fawl i Owain gan Gruffudd Llwyd a gyfansoddwyd yn y 1380au. Mae'n amlwg o'u cynnwys fod y cerddi hyn i gyd wedi eu cyfansoddi cyn y gwrthryfel; nid erys yr un gerdd gan fardd adnabyddus a gyfansoddwyd yn ystod y gwrthryfel na marwnad i Owain[23] (ond gweler isod am y canu darogan).
Cedwir ar glawr gerddi i Rys Gethin, uchelwr o Nant Conwy a fu'n un o gapteiniaid blaenaf Owain Glyn Dŵr. Mae'n cael ei ddisgrifio mewn un gerdd fel hyn:
- Milwr yw â gwayw melyn
- Megis Owain glain y Glyn.[24]
Ceir cerdd arall i Hywel Coetmor, brawd Rhys Gethin, a chapten ym myddin Owain Glyn Dŵr fel ei frawd. Mae'r cerddi hyn, o awduriaeth ansicr, yn hynod wladgarol ac mae lle da i gredu eu bod yn perthyn i gyfnod y gwrthryfel.[24]
Gwyddys fod gan Owain fardd teulu o'r enw Crach Ffinnant gydag enw iddo'i hun fel brudiwr; bu gydag Owain yng ngarsiwn Berwick yn 1384 ac yng Nglyndyfrdwy pan gyhoeddwyd Owain yn Dywysog Cymru ym Medi 1400.
Ceir "Owain" fel enw am y Mab Darogan mewn nifer fawr o gerddi brud poblogaidd o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ond mae'n anodd eu dyddio yn fanwl. Mae'n bosibl fod rhai yn dyddio o gyfnod Owain Lawgoch ond mae'r mwyafrif i'w dyddio i'r 15g ac felly'n perthyn i gyfnod Owain Glyn Dŵr neu gyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau pan oedd y cof amdano fel arweinydd cenedlaethol yn fyw iawn. Mae cerdd rydd a briodolir i Taliesin yn perthyn i gyfnod y gwrthryfel, yn ôl pob tebyg. Cyfeiria at "arth (rhyfelwr) sych (Sycharth (?))" a rhyfelwr arall o Eryri yn codi yn erbyn y Saeson. Yna bydd:
- Llawer celain gan frain,
- Llawer cleddau heb wain,
- Llawer diras Sais heb gyweithas,
- A blaidd Glyndyfrdwy yn rhannu'r deyrnas.[25]
Mae'n bosibl fod "rhannu'r deyrnas" yma yn gyfeiriad at y Cytundeb Tridarn (gweler uchod).
Cyfnod diweddar Roedd "I Owain Glyn Dŵr" yn un o destunau Eisteddfod Corwen 1789 a drefnwyd gan y Gwyneddigion. Cafwyd cerddi ar y testun gan Twm o'r Nant a Gwallter Mechain. Diddorol nodi i'r eisteddfod gael ei chynnal yng Ngwesty Owain Glyn Dŵr. Ailgydiodd hanes gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn nychymyg y Cymry yn y 19g, ond arhosodd yng nghysgod y ddau Llywelyn tan ddiwedd y ganrif honno. Cyfansoddodd Felicia Hemans gerdd Saesneg ramantaidd amdano sy'n sôn am "the blazing star" yn rhagfynegi dyfodiad yr arwr. Cyfansoddodd Robert Davies (Bardd Nantglyn) "Gywydd o Hanes Owen Glyndyfrdwy" yn 1826. Yn Eisteddfod Caerfyrddin 1867 enillodd y bardd Hwfa Môn y tlws am ei gerdd "Owain Glyndwr".[26] Enillodd Eifion Wyn gadair Eisteddfod Llangollen 1895 gyda'i awdl am Owain. Yn Eisteddfod Corwen 1900 bu T. Twynog Jeffries yn fuddugol gyda'i awdl "Owain Glyn Dwr", sy'n gweld Owain fel math o ragflaenydd i'r mudiad gwladgarol Cymru Fydd.
yn yr 20g, canodd sawl bardd am Owain Glyn Dŵr. Ceir dwy gerdd nodedig gan Gwenallt, er enghraifft, cerdd i "Neuadd Glyn Dŵr" yn Sycharth gan John Penry Jones, "Bedd Owain Glyn Dŵr" gan Euros Bowen, "Breuddwyd Glyn Dŵr" gan Dewi Emrys James, a cherdd am Senedd-dŷ Owain Glyn Dŵr ym Machynlleth gan Cyril Jones.[27]
Drama
golyguYmddengys Owain fel cymeriad yn nrama William Shakespeare Henry IV Rhan Un. Mae'r cymeriad Glendower yn ymffrostgar ac yn haeru ei fod yn medru galw ysbrydion, ond ar y llaw arall disgrifir ef fel:
- "...worthy gentleman
- Exceedingly well-read, and profited
- In strange concealments, valiant as a lion
- And wondrous affable, and as bountiful
- As mines of India".
Ysgrifennodd Beriah Gwynfe Evans ei ddrama boblogaidd 'Owain Glyndwr' ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Llanberis 1879. Drama ramantus iawn ydyw, sy'n ddrych i'r cyfuniad o wladgarwch Cymreig a breningarwch Prydeinig sy'n mor nodweddiadol o'r 19g.
Ffuglen
golygu- John Cowper Powys – Owen Glendower (1940).
- Edith Pargeter: A Bloody Field by Shrewsbury (1972).
- Malcolm Pryce: A Dragon to Agincourt (Y Lolfa) ISBN 0-86243-684-2.
- J. G. Williams, Betws Hirfaen (Gwasg Gee, 1978). Nofel hanes am y gwrthryfel wedi'i lleoli yn Eifionydd yn bennaf.
Llinach
golyguGanwyd Owain Glyn Dŵr i deulu uchelwrol yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Roedd ei dad Gruffudd Fychan yn etifedd i dywysogion Powys Fadog, disgynyddion Madog ap Maredudd, rheolwr olaf Teyrnas Powys unedig. Ei fam oedd Elen ferch Tomos ap Llywelyn o linach tywysogion Deheubarth. Roedd hi'n ddisgynnydd i Rhys ap Gruffudd, (yr Arglwydd Rhys), felly gallai Owain hawlio bod yn etifedd Powys a Deheubarth. Roedd etifedd olaf Teyrnas Gwynedd yn y llinach wrywaidd uniongyrchol, Owain Lawgoch, wedi ei lofruddio yn 1378, ond trwy ei hen nain roedd Owain yn ddisgynnydd i Gruffudd ap Cynan.
Roedd Owain felly mewn sefyllfa gref, o ran llinach, i hawlio bod yn Dywysog Cymru, gan ei fod yn etifedd awdurdod y ddau Lywelyn, sef Llywelyn Fawr a Llywelyn II, sefydlwyr Tywysogaeth Cymru yn y 13g. Gweler hefyd llinach uniongyrchol ei fam a'i dad (isod).
Ei berthynas â Theulu'r Tuduriaid
golyguGoronwy ap Tudur Hen (Teulu Ednyfed Fychan) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd Fychan II m. cyn 1340 | Elen ferch Tomos | Marged ferch Tomos | Tudur ap Goronwy m. 1367 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Glyn Dŵr c. 1354 - c. 1414 | Maredudd m.1406 | Rhys m. 1409 | Gwilym m. 1413 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Tudur | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ei berthynas â'r Mortimer a'r Hanmeriaid
golyguPhylip Hanmer | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Syr David Hanmer Cefnogi OGD m. 1387 | Angharad merch Llywelyn Ddu | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Glyn Dŵr Tywysog Cymru | Margaret Hanmer 1370 – tua 1420) | John Cefnogi OGD | Phylip Cefnogi OGD | Gruffudd Cefnogi OGD | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd m. 1411 | Maredudd Yn dal yn fyw yn 1417 | Catrin ferch Owain Glyn Dŵr m. 1413 | Edmund Mortimer Cefnogi OGD m. 1409 | Roger Mortimer Iarll y Mers m 1398 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Plant a pherthnasau
golyguRoedd gan Owain o leiaf chwe mab a thair merch. Y rhai y ceir gwybodaeth ddibynadwy amdanynt yn yr achau a'r cofnodion hanesyddol yw:
- Gruffudd ab Owain (c. 1385–1411) oedd mab hynaf Owain Glyn Dŵr a'i wraig Margaret Hanmer. Ef oedd arweinydd y fyddin Gymreig a orchfygwyd ym Mrwydr Pwll Melyn ger Brynbuga, Sir Fynwy ar 5 Mai 1405. Cymerwyd Gruffudd yn garcharor, a chadwyd ef yn Nhŵr Llundain ar y cychwyn, yna mewn nifer o gaerau eraill. Bu farw o'r pla du yn 1411.
- Maredudd ab Owain ap Gruffudd oedd yr unig un o feibion Owain i oroesi ei dad. Nid oes llawer o fanylion am ei ran yn y gwrthryfel. Yn 1420 gwrthododd gynnig o bardwn gan y brenin Harri V, ond ar 8 Ebrill, 1421, derbyniodd bardwn. Nid oes gwybodaeth am ei hanes wedi hynny.
- Catrin ferch Owain; priododd Edmund Mortimer a chawsant nifer o blant. Cymerwyd Catrin a dau o'i phlant yn garcharor pan syrthiodd Castell Harlech i'r Saeson yn 1409. Mae'n debyg iddi farw mewn caethiwed.
- Gwenllian ferch Owain; priododd Phylib ap Rhys, arglwydd Cenarth yn Sant Harmon, Gwerthrynion, Powys.
- Alys ferch Owain; priododd John Scudamore o Monnington Stradell yn Swydd Henffordd.
Mewn rhai ffynonellau achyddol diweddarach cofnodir meibion a merched eraill fel plant gordderch Owain Glyn Dŵr, ond gan nad oes cyfeiriadau atynt mewn dogfennau eraill ni ellir dibynnu ar hyn: roedd ffugio achau er mwyn dod â statws cymdeithasol i deulu o fân uchelwyr yn digwydd yn aml yng nghyfnod y Tuduriaid.
Roedd gan Owain Glyn Dŵr nifer o frodyr a chwiorydd:
- Madog ap Gruffudd Fychan, a fu farw'n ieuanc yn ôl pob tebyg;
- Gruffudd;
- Tudur; lladdwyd ym Mrwydr Pwll Melyn yn 1405;
- Lowri; priododd Robert Puleston;
- Isabel, priododd Adda ap Iorwerth Ddu.
Llyfryddiaeth
golyguHanes Owain a'r gwrthryfel
golygu- Dyddiau Olaf Owain Glyndŵr gan Gruffydd Aled Williams (Y Lolfa, 2016)
- D. Helen Allday, Insurrection in Wales (Lavenham, 1981)
- Chris Barber In search of Owain Glyn Dŵr (Y Fenni: Blorenge Books, 1998)
- A.G. Bradley, Owen Glyndwr and the Last Struggle for Welsh Independence (Efrog Newydd, 1902)
- R. R. Davies Owain Glyn Dŵr: trwy ras Duw, Tywysog Cymru (Talybont, Ceredigion: Y Lolfa, 2002)
- R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)
- Ian Fleming Glyn Dŵr's first victory: the Battle of Hyddgen 1401 (Talybont: Y Lolfa, 2001)
- Alex Gibbon The mystery of Jack of Kent and the fate of Owain Glyndwr (Stroud: Sutton, 2004)
- Geoffrey Hodges Owain Glyn Dŵr: (and) the war of independence in the Welsh Borders (Almeley: Logaston, 1995)
- Gwilym Arthur Jones Owain Glyn Dŵr (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1962)
- J.E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen: Clarendon Press, 1931)
- T.Mathews, Welsh Records in Paris (Caerfyrddin, 1910)
- D. Rhys Phillips A select bibliography of Owen Glyndwr (Abertawe: Cymdeithas Lyfryddol Cymru, 1915)
- Glanmor Williams Owain Glyn Dŵr (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1993)
Owain mewn llenyddiaeth a chwedloniaeth
golygu- Elissa R. Henken, National Redeemer: Owain Glyn Dŵr in Welsh Tradition (Caerdydd, 1996)
- E. Wyn James, Glyn Dŵr a Gobaith y Genedl: Agweddau ar y Portread o Owain Glyn Dŵr yn Llenyddiaeth y Cyfnod Modern (Aberystwyth: Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 2007)
- Williams, Gruffydd Aled Owain y beirdd (Aberystwyth: Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1998)
Gweler hefyd
golygu- Adda o Frynbuga, croniclydd sy'n cofnodi llawer o fanylion am gwrs y gwrthryfel.
- Cenedlaetholdeb Cymreig
- Ceubren yr Ellyll
- Diwrnod Owain Glyn Dŵr
- Llwybr Glyn Dŵr
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Rhyddid: traethawd a ennillodd ariandlws Cymdeithas y Gwyneddigion ar ei thestun i eisteddfod Llanelwy B.A. M, DCC, XC. Gan Walter Davies. 1791 : Davies, Walter. : Free Download, Borrow, and Streaming". Internet Archive (yn Saesneg). t. 73. Cyrchwyd 2024-05-29.
- ↑ "Datblygu Rhyfela" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 29 April 2020.
- ↑ "OWAIN GLYNDWR (c. 1354 - 1416), 'Tywysog Cymru' | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-04-29.
- ↑ Lloyd Owen Glendower t. 18
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein, "Owain Glyn Dŵr"
- ↑ Lloyd Owen Glendower t. 19
- ↑ Lloyd Owen Glendower t. 46
- ↑ Lloyd Owen Glendower t. 48
- ↑ Lloyd Owen Glendower t. 67
- ↑ Lloyd Owen Glendower t. 82
- ↑ Dyfynnwyd gan R. R. Davies yn The Revolt of Owain Glyn Dŵr tudalen 167.
- ↑ Lloyd Owen Glendower tt. 101-2
- ↑ Lloyd Owen Glendower tt. 103-6
- ↑ Lloyd Owen Glendower tt. 118-121
- ↑ Lloyd Owen Glendower tt. 129-30
- ↑ Dyfynnir yn Henkenm t. 64
- ↑ Lloyd Owen Glendower tt. 143-4
- ↑ Dyfynnir yn Henken tudalennau 72-3
- ↑ Lloyd Owen Glendower tt. 2-3
- ↑ Elissa R. Henken, National Redeemer, tud. 174.
- ↑ Lloyd Owen Glendower t. 146
- ↑ BBC Wales News
- ↑ Lloyd Owen Glendower t.146
- ↑ 24.0 24.1 (1937) gol. Ifor Williams: Cywyddau Iolo Goch ac eraill
- ↑ Williams, Owain y beirdd, tud. 11. Golygwyd y testun, sydd heb ei gyhoeddi eto, gan y Dr. Gruffydd Fôn Gruffydd.
- ↑ Williams, Owain y beirdd, tt. 16-20.
- ↑ Elwyn Edwards (gol.), Cadwn y Mur. Blodeugerdd Barddas o Ganu Gwladgarol (Cyhoeddiadau Barddas, 1990).
Dolenni allanol
golygu- Cymdeithas Owain Glyn Dŵr
- (Saesneg) "Glyndwr flag flies at city castle" – BBC News 12 Medi 2005
- (Saesneg) "Glyndwr's burial mystery 'solved'" – BBC News
Rhagflaenydd: Owain Lawgoch |
Tywysog Gwynedd a Chymru mewn enw 1400 – tua 1416 |
Olynydd: Gwag |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |