Pont Brooklyn
Mae Pont Brooklyn yn croesi Afon Dwyrain, yn cysylltu Manhattan a Brooklyn yn Ninas Efrog Newydd. Mae gan y bont 6 lôn ar gyfer cerbydau, a llwybr gerdded uwchben y ffordd.
Math | pont grog, pont gablau, pont aml-lefel, pont ddur, pont ffordd, pont reilffordd, atyniad twristaidd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Brooklyn |
Agoriad swyddogol | 24 Mai 1883 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Dinas Efrog Newydd, Manhattan, Brooklyn |
Sir | Manhattan, Brooklyn |
Gwlad | UDA |
Cyfesurynnau | 40.70567°N 73.99633°W |
Hyd | 5,989 troedfedd |
Arddull pensaernïol | yr Adfywiad Gothig |
Statws treftadaeth | Tirnod yn Ninas Efrog Newydd, National Historic Landmark, lleoliad ar Gofrestr Llefydd Hanesyddol Cenedlaethol UDA, Tentative World Heritage Site, New York State Register of Historic Places listed place, Historic Civil Engineering Landmark |
Manylion | |
Deunydd | dur, carreg |
Agorwyd y bont ar 24 Mai 1883, yn cymryd 14 mlynedd i'w hadeiladu ac yn costio $15 miliwn. Cynlluniwyd y bont gan John Augustus Roebling. Cyn iddo cynllunio Pont Brooklyn, roedd o wedi cynllunio pontydd dros Ceunant Niagara ac yr Afon Ohio yn Cincinnati. Cafodd o ei anafu ar ddechrau y prosiect, a bu farw 3 wythnos yn ddiweddar. Cymerodd ei fab, Washington Roebling drosodd.
Adeiladwyd ceson, blychau pren, i greu tyllau ar waelod yr afon, ac i'w llenwi efo llithfaen i roi sail i'r bont. Anadlodd y gweithwyr awyr gywasgedig yn y cesonau, a chawsont llawer ohonynt parlys môr fel canlyniad, gan gynnwys Washington Roebling; Cymerodd ei wraig Emily Roebling drosodd i orffen y prosiect.[1]