Rosalind Franklin
Biocemegydd o Loegr oedd Rosalind Franklin (25 Gorffennaf 1920 – 16 Ebrill 1958).[1] Roedd ei gwaith ymchwil i grisialograffeg pelydr-X yn ganolog i ddarganfod strwythur DNA.
Rosalind Franklin | |
---|---|
Rosalind Franklin gyda microsgop yn 1955. | |
Ganwyd | Rosalind Elsie Franklin 25 Gorffennaf 1920 Notting Hill |
Bu farw | 16 Ebrill 1958 o canser ofaraidd Chelsea, Royal Marsden Hospital |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cemegydd, biolegydd ym maes molecwlau, ffisegydd, biocemegydd, bioffisegwr, grisialegydd, academydd, genetegydd, biolegydd |
Cyflogwr | |
Tad | Ellis Arthur Franklin |
Gwobr/au | Gwobr Louisa Gross Horwitz |
Mynychodd St Paul's Girls' School, Llundain, cyn iddi fynd i Goleg Newnham, Caergrawnt yn 1938, lle bu'n astudio gwyddoniaeth naturiol. Yn 1942, er mwyn cyflawni gofynion y rheoliadau amser rhyfel ynghylch gwasanaeth cenedlaethol, ymynodd â'r British Coal Utilisation Research Association fel swyddog ymchwil. Roedd ei gwaith yno yn sail i’w thesis The physical chemistry of solid organic colloids with special reference to coal y dyfarnodd Prifysgol Caergrawnt PhD iddi yn 1945. Aeth i Baris yn 1947 i weithio dros y Centre national de la recherche scientifique ym maes crisialograffeg pelydr-X. Yn 1950 dyfarnwyd cymrodoriaeth iddi i Goleg y Brenin, Llundain, ac yno y dechreuodd ei gwaith ar DNA.
Roedd ei dadansoddiad o'r lluniau diffreithiant pelydr-X yr oedd wedi'u tynnu o DNA yn hollbwysig er mwyn deall strwythur y moleciwl fel helics dwbl. Diolch i Ffotograff 51, a dynnwyd yn 1952 gan Raymond Gosling, myfyriwr graddedig yn gweithio dan ei goruchwyliaeth, llwyddodd Francis Crick a James D. Watson i ddatblygu model cemegol y moleciwl DNA – ymchwil a gyhoeddwyd yn 1953. Gwnaeth Crick a Watson ddefnydd o waith gwyddonol Franklin heb roi clod dyledus iddi. Er bod canlyniadau ymchwil Franklin yn sail i ddadgodio DNA gan Watson a Crick ni chafodd Franklin na Gosling eu cydnabod am bwysigrwydd eu hymchwil tan rai blynyddoedd wedyn.
Symudodd Franklin i Birkbeck, Prifysgol Llundain yn 1953, ac yno arwain tîm ymchwil a wnaeth waith arloesol ym maes RNA yn bennaf trwy ymchwilio i strwythur firws clefyd dail brith tybaco. Yn 1957 dechreodd ymchwil i firws polio yn Birkbeck ond y flwyddyn ganlynol bu farw o ganser yr ofari yn 37 oed.
Yn 1962 dyfarnwyd Gwobr Nobel mewn Ffisioleg neu Feddygaeth i Crick, Watson a Maurice Wilkins am ddarganfod strwythyr DNA. Nid oedd Franklin yn dderbynnydd oherwydd bryd hynny roedd rheolau'r wobr yn mynnu mai dim ond pobl fyw y gellid eu henwebu.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Rosalind Franklin Papers", National Library of Medicine; adalwyd 11 Hydref 2024
Darllen pellach
golygu- Gibbons, Michelle G., "Reassessing Discovery: Rosalind Franklin, Scientific Visualization, and the Structure of DNA", Philosophy of Science 79 (2012): 63–80
- Watson, James D., The Double Helix: A Personal Account of the Discovery of the Structure of DNA (Llundain: Weidenfeld & Nicolson, 1968).
- Williams, Gareth, Unravelling the Double Helix (Efrog Newydd: Pegasus Books, 2019)