Tîm pêl-droed cenedlaethol Nigeria
Mae Tîm pêl-droed cenedlaethol Nigeria yn cynrychioli Nigeria yn y byd pêl-droed ac maent yn dod o dan reolaeth Ffederasiwn Pêl-droed Nigeria (NFF), corff llywodraethol y gamp yn y wlad. Mae'r NFF yn aelodau o gonffederasiwn pêl-droed Affrica, (CAF).
Delwedd:NIG-ARG (2).jpg, Argentina-Nigeria (8).jpg | |
Math o gyfrwng | tîm pêl-droed cenedlaethol |
---|---|
Math | tîm pêl-droed cenedlaethol |
Perchennog | Nigeria Football Federation |
Gwladwriaeth | Nigeria |
Gwefan | https://www.thenff.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Super Eagles wedi chwarae yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar bump achlysur ers ymddangos am y tro cyntaf ym 1994. Nigeria ydy pencampwyr presennol Pencampwriaeth Pêl-droed Affrica, cystadleuaeth maent wedi ennill ar dri achlysur.