Thebes, Yr Aifft

dinas hynafol yn yr Aifft
(Ailgyfeiriad o Thebes, yr Aifft)

Mae Thebes neu Thebai yn Safle Treftadaeth y Byd yn yr Aifft. Thebai (Θῆβαι) Thēbai, (Arabeg: طيبة) yw'r enw Groeg am y ddinas hon, un o'r rhai pwysicaf yn yr Hen Aifft, a saif ar ochr ddwyreiniol Afon Nîl. Sefydlwyd hi tua 3200 CC. Daeth yn brifddinas yr Hen Aifft yn y 11ed frenhinlin ac wedyn yn y 18fed frenhinlin pan adeiladwyd llynges a phorthladd gerllaw gan y Frenhines Hatshepsut yn Elim. Roedd Thebai yn enwog drwy'r Henfyd a chyfeiria Homer ati yn yr Iliad (Llyfr IX).

Thebes
Delwedd:Luxor temple27.JPG, SFEC AEH -ThebesNecropolis-2010-RamsesIII045-2.jpg
Mathdinas hynafol, safle archaeolegol, emporia, grwp o adeiladau neu strwythurau diwydiannol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
SirLuxor Governorate, Qena Governorate Edit this on Wikidata
GwladYr Aifft Edit this on Wikidata
Arwynebedd7,390.16 ha, 443.55 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr78 ±1 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Nîl Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau25.7206°N 32.6103°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Saif Luxor ar yr un safle heddiw.

O'r enw Copteg Ta-Opet ("teml") daeth yr enw Thebai i'r Roeg ond niwt-imn ("Dinas Amun") oedd hi yn yr Eiffteg a dyma'r enw Beiblaidd yn Hebraeg, sef נא אמון nōˀ ˀāmôn (Nahum 3:8), neu נא ("No") (Eseciel 30:14). Troswyd hyn yn llythrennol i'r Roeg fel Διόσπολις Diospolis ("Dinas Zeus") neu weithiau Διόσπολις μεγάλη Diospolis megale ("Dinas Fawr Zeus") rhag drysu rhwng y gwahanol Diospolisau eraill. Y fersiwn Lladin a arferid gan y Rhufeiniaid oedd Diospolis Magna.

Erbyn heddiw mae dwy dref ar safle Thebai sef Luxor (Arabeg: الأقصر, Al-Uqṣur, "Y Palasau") ac al-Karnak (الكرنك).

Ffynonellau

golygu
  • Henri Gauthier, Dictionnaire des noms géographiques contenus dans les textes hieroglyphiques (Cairo, 1925–31; R/Osnabrück: Otto Zeller Verlag, 1975), cyf.3, tt.75–6.
  • Donald Bruce Redford, "Thebes", yn The Anchor Bible Dictionary, gol. David Noel Freedman (Efrog Newydd: Doubleday, 1992), cyf.6, tt.442–3
  • Nigel C. Strudwick a Helen Strudwick, Thebes in Egypt: A Guide to the Tombs and Temples of Ancient Luxor (Llundain: British Museum Press, 1999)
  • Daniel C. Polz, "Thebes". Yn The Oxford Encyclopedia of ancient Egypt, gol. Donald Bruce Redford (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001), cyf.3, tt. 384–8

Dolenni allanol

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am yr Aifft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.