Washington, D.C.
Prifddinas Unol Daleithiau America yw Washington, D.C. (District of Columbia: Ardal Columbia)[1]. Fe'i henwir ar ôl George Washington, ac mae'r 'DC' yn cyfeirio at ddalgylch Columbia lle lleolir y ddinas. Yn y cyfrifiad diwethaf, roedd gan y ddinas boblogaeth o 689,545 (1 Ebrill 2020)[2] - llai na dwywaith maint Caerdydd. Dyma oedd y ddinas 24ain fwyaf poblog yn yr Unol Daleithiau yn 2010. Yn sgil cymudwyr sy'n byw yn y maestrefi, cynydda boblogaeth Washington D.C. i dros filiwn yn ystod yr wythnos waith. Mae ardal ddinesig di-dor Washington Fwyaf yn ymestyn i Maryland, Virginia, a Gorllewin Virginia, ac yn cynnwys poblogaeth o bron 5,600,000.
Arwyddair | Justitia Omnibus |
---|---|
Math | prifddinas ffederal |
Enwyd ar ôl | George Washington, Christopher Columbus |
Poblogaeth | 689,545 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Muriel Bowser |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00, America/Efrog Newydd |
Gefeilldref/i | Rhanbarth Brwsel-Prifddinas, Bangkok, Dakar, Beijing, Athen, Pretoria, Seoul, Accra, Sunderland, Ankara, Brasília, Addis Ababa, Paris, Rhufain, San Salvador, City of Tshwane Metropolitan Municipality |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | taleithiau cyfagos UDA, Canolbarth yr Iwerydd, rhaniad ddinesig Washington–Arlington–Alexandria |
Sir | District of Columbia |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 177 km² |
Uwch y môr | 72 metr |
Gerllaw | Afon Potomac, Afon Anacostia, Rock Creek |
Yn ffinio gyda | Arlington County, Alexandria, Prince George's County, Montgomery County, Fairfax County, Bethesda, Silver Spring |
Cyfesurynnau | 38.895°N 77.0367°W |
Cod post | 20001–20098, 20201–20599 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Dosbarth Columbia |
Pennaeth y Llywodraeth | Muriel Bowser |
Fe'i lleolwyd ar Afon Potomac sy'n ffinio â Maryland a Virginia, a chynhaliodd y Gyngres ei sesiwn gyntaf yno ym 1800. Enwyd y ddinas ar ôl George Washington, arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau ac un o'r "Tadau Sylfaenol", sef sefydlwyr yr Unol Daleithiau.[3] Enwir yr ardal ffederal ar ôl Columbia, personoliad benywaidd o'r genedl (a'r enw "Columbus"), fel a welir yn y Cerflun Rhyddid (Statue of Liberty) a llawer o enwau llefydd. Fel sedd llywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau a sawl sefydliad rhyngwladol, mae'r ddinas yn brifddinas wleidyddol bwysig yn y byd.[4] Mae'n un o'r dinasoedd yr ymwelir â hi fwyaf yn yr Unol Daleithiau, gyda dros 20 miliwn o ymwelwyr yn 2016.[5][6]
Mae'r ddinas wedi'i rhannu'n chwarteri (neu'n 'gwadrantau') sydd wedi'u canoli ar Adeilad y Capitol, ac mae cymaint â 131 o gymdogaethau (neighborhoods). Mae maer a etholwyd yn lleol a chyngor 13-aelod wedi llywodraethu'r ardal ers 1973. Cadwa'r Gyngres yr awdurdod goruchaf dros y ddinas a gallant wyrdroi deddfau lleol. Ethola preswylwyr D.C. un dirprwy di-bleidlais, i Dŷ'r Cynrychiolwyr, ond nid oes gan yr ardal gynrychiolaeth yn y Senedd. Mae pleidleiswyr y dosbarth (district) yn dewis tri etholwr arlywyddol yn unol â'r Trydydd Gwelliant ar hugain i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau, a gadarnhawyd ym 1961.
Lleolir tair cangen o lywodraeth ffederal yr Unol Daleithiau yn yr ardal: y Gyngres (deddfwriaethol), yr arlywydd (gweithredol), a’r Goruchaf Lys (barnwrol). Mae Washington yn gartref i lawer o henebion ac amgueddfeydd cenedlaethol, wedi'u lleoli'n bennaf ar neu o amgylch y National Mall. Ceir yn y ddinas 177 o lysgenadaethau tramor yn ogystal â phencadlys llawer o sefydliadau rhyngwladol, undebau llafur, grwpiau di-elw, grwpiau lobïo, a chymdeithasau proffesiynol, gan gynnwys Grŵp Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Sefydliad Taleithiau America, yr AARP, y Gymdeithas Ddaearyddol Genedlaethol, yr Ymgyrch Hawliau Dynol, y Gorfforaeth Cyllid Rhyngwladol, a Chroes Goch America.
Hanes
golyguRoedd amryw o lwythau o'r brodorion Piscataway, sy'n siarad Algonquian, (a elwir hefyd yn Conoy) yn byw yn y tiroedd o amgylch Afon Potomac pan ymwelodd Ewropeaid â'r ardal am y tro cyntaf, ar ddechrau'r 17g. Roedd un grŵp o'r enw Nacotchtank (a elwir hefyd yn Nacostines gan genhadon Catholig) yn preswylio o amgylch Afon Anacostia yn Ardal Columbia heddiw. Oherwydd goresgyniad treisiol y gwladychwyr Ewropeaidd ffpd y brodorion Piscataway, a sefydlodd rhai ohonynt anheddiad newydd ym 1699 ger y fan a elwir heddiw yn Point of Rocks, Maryland.[7]
Pwysleisiodd Gwrthryfel Pennsylvania yn 1783 yr angen i'r llywodraeth genedlaethol beidio â dibynnu ar unrhyw wladwriaeth er ei diogelwch ei hun.[8] Mae Erthygl Un, Adran Wyth, o'r Cyfansoddiad yn caniatáu sefydlu "Dosbarth (heb fod yn fwy na deng milltir sgwâr) a all ddod yn sedd llywodraeth yr Unol Daleithiau".[9]
Sefydlu
golyguAr 9 Gorffennaf 1790, pasiodd y Gyngres y Ddeddf Breswylio, a gymeradwyodd greu prifddinas genedlaethol ar Afon Potomac. Roedd yr union leoliad i'w ddewis gan yr Arlywydd George Washington, a lofnododd y bil yn gyfraith ar 16 Orffennaf. Wedi'i ffurfio o dir a roddwyd gan daleithiau Maryland a Virginia, roedd siâp cychwynnol yr ardal ffederal yn sgwâr a oedd yn mesur 10 milltir (16 km ) ar bob ochr, cyfanswm o 100 milltir sgwâr (259 km2).[10]
Yn ystod 1791–92, bu tîm o dan Andrew Ellicott, gan gynnwys y brodyr Ellicott Joseph a Benjamin a’r seryddwr Affricanaidd-Americanaidd Benjamin Banneker, yn arolygu ffiniau’r ardal ffederal a gosodwyd cerrig terfyn ar bob pwynt milltir. Yn 2021, roedd llawer o'r cerrig yn dal i sefyll.[11][12]
Adeiladwyd dinas ffederal newydd ar lan ogleddol y Potomac, i'r dwyrain o Georgetown. Ar 9 Medi 1791, enwodd y tri chomisiynydd a oedd yn goruchwylio adeiladu'r brifddinas y ddinas er anrhydedd i'r Arlywydd Washington. Yr un diwrnod, enwyd yr ardal ffederal yn Columbia (ffurf fenywaidd o "Columbus"), a oedd yn enw barddonol ar gyfer yr Unol Daleithiau ac a oedd yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin bryd hynny.[13][14] Cynhaliodd y Gyngres ei sesiwn gyntaf yno ar 17 Tachwedd 1800.[15][16]
Atyniadau
golygu- Y Tŷ Gwyn
- Oriel Gelf Genedlaethol (UDA)
- Sefydliad Smithsonian
- Llyfrgell y Gyngres
- Cofeb Jefferson
- Cofeb Hen Filwyr Fietnam
- ↑ "Introduction: Where Oh Where Should the Capital Be?". WHHA (yn Saesneg).
- ↑ "QuickFacts: Washington city, District of Columbia". Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ebrill 2022. Cyrchwyd 22 Ebrill 2022.
- ↑ "Washington, D.C. History F.A.Q." The Historical Society of Washington, D.C. (yn Saesneg). May 27, 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Medi 2017. Cyrchwyd 7 Mawrth 2018.
- ↑ Broder, David S. (18 Chwefror 1990). "Nation's Capital in Eclipse as Pride and Power Slip Away". The Washington Post. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-08-10. Cyrchwyd 18 Hydref 2010.
In the days of the Truman Doctrine, the Marshall Plan and the creation of NATO, [Clark Clifford] said, we saved the world, and Washington became the capital of the world.
- ↑ "The 10 most-visited cities in the US this year". Insider. Cyrchwyd 6 Mawrth 2018.
- ↑ Cooper, Rebecca (9 Mai 2017). "D.C. breaks another domestic tourism record". www.bizjournals.com. Washington Business Journal.
- ↑ Humphrey, Robert Lee; Chambers, Mary Elizabeth (1977). Ancient Washington: American Indian Cultures of the Potomac Valley. George Washington University. ISBN 9781888028041. Cyrchwyd 6 Mawrth 2018.
- ↑ Crew, Harvey W.; Webb, William Bensing; Wooldridge, John (1892). "IV. Washington Becomes The Capital". Centennial History of the City of Washington, D.C. Dayton, OH: United Brethren Publishing House. t. 66.
- ↑ "Constitution of the United States". National Archives and Records Administration. Cyrchwyd 22 Gorffennaf 2008.
- ↑ Crew, Harvey W.; Webb, William Bensing; Wooldridge, John (1892). Centennial History of the City of Washington, D.C. Dayton, OH: United Brethren Publishing House. tt. 89–92.
- ↑ Bordewich, Fergus M. (2008). Washington: the making of the American capital. HarperCollins. tt. 76–80. ISBN 978-0-06-084238-3.
- ↑ "Boundary Stones of the District of Columbia". BoundaryStones.org. Cyrchwyd 27 Mai 2008.
- ↑ Crew, Harvey W.; Webb, William Bensing; Wooldridge, John (1892). Centennial History of the City of Washington, D.C. Dayton, OH: United Brethren Publishing House. t. 101. Cyrchwyd 1 Mehefin 2011.
- ↑ "Get to Know D.C." Historical Society of Washington, D.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Medi 2010. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2011.
- ↑ "The Senate Moves to Washington". United States Senate. 14 Chwefror 2006. Cyrchwyd July 11, 2008.
- ↑ Tom (24 Gorffennaf 2013). "Why Is Washington, D.C. Called the District of Columbia?". Ghosts of DC (yn Saesneg). Cyrchwyd 20 Chwefror 2019.