Ysgol Syr Hugh Owen
Mae Ysgol Syr Hugh Owen yn ysgol uwchradd Cymraeg yng Nghaernarfon, Gwynedd. Fe agorwyd yr ysgol yn 1894, y gyntaf i'w hadeiladu yn ôl Deddf Addysg Ganolraddol Cymru yr addysgwr enwog Syr Hugh Owen.[1]
Ysgol Syr Hugh Owen | |
---|---|
Arwyddair | Hau Hadau'r Dyfodol |
Sefydlwyd | 1894 |
Math | Cyfun |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Clive Thomas |
Lleoliad | Bethel Road, Caernarfon, Gwynedd, Cymru, LL55 1HW |
AALl | Cyngor Gwynedd |
Disgyblion | 900~ |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Glas tywyll a coch |
Gwefan | http://ysgolsyrhughowen.org/eng/index.html |
Fe leolir yr ysgol ger y Ganolfan Hamdden yng Nghaernarfon. Mae dros 800 o ddisgyblion yn yr ysgol; y pennaeth ar hyn o bryd yw Mr Clive Thomas.[2] Cynhigir addysg i blant o flwyddyn saith i'r chweched dosbarth mewn amrywiaeth o bynciau gan gynnwys Cymraeg, Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth, Hanes, Daearyddiaeth, Celf, Graffeg, Cerddoriaeth, Busnes, Twristiaeth, Ffrangeg, Addysg Grefyddol, Addysg Gorfforol, Technoleg, Arlwyo.
Cyn ddisgyblion nodedig
golygu- Gweler y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Syr Hugh Owen
Ysgolion cynradd yn nalgylch yr ysgol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Hanes yr ysgol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-02. Cyrchwyd 2008-04-10.
- ↑ "Cyngor Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-07-08. Cyrchwyd 2004-07-08.
Dolenni allanol
golygu- Tudalen yr ysgol ar wefan Cyngor Gwynedd Archifwyd 2008-06-30 yn y Peiriant Wayback