Adam West
Gwedd
Adam West | |
---|---|
Ffugenw | Adam West |
Ganwyd | William West Anderson 19 Medi 1928 Walla Walla |
Bu farw | 9 Mehefin 2017 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor llais, digrifwr, cyflwynydd, actor teledu, actor |
Adnabyddus am | Batman, Family Guy, The Simpsons, Tylwyth Od Timmy, The Big Bang Theory, season 9 |
Arddull | y Gorllewin Gwyllt |
Gwobr/au | TV Land Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Inkpot |
Gwefan | http://www.adamwest.com |
Roedd Adam West (19 Medi 1928 – 9 Mehefin 2017) yn actor, cyfarwyddwr ac artist llais Americanaidd. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Batman yn y gyfres deledu Batman o’r 1960au ac fel tros-lesisydd cymeriad y maer Adam West yn y gyfres cartŵn Family Guy.
Bywyd Personol
Ganwyd West yn Walla Walla, Washington yn fab i Otto West Anderson, ac Audrey Speer ei wraig. Roedd ei mam o dras Gymreig. Ffermwr oedd ei dad a chantores opera oedd ei fam.[1]
Cafodd ei addysg yn ysgol uwchradd Walla Walla, a Choleg Whitman.
Bu’n briod i Billie Lou Yeager o 1950 hyd eu hysgariad ym 1955. Yna priododd Frisby Dawson ym 1957 cyn ei hysgaru ym 1962 , a phriodi Marcella Tagland Lear ym 1970. Bu’n dad i chwech o blant.
Cyfeiriadau
- ↑ Tooley, James E. (director) (2013). Starring Adam West (Documentary). Unol Daleithiau America: Chromatic Films.