Philipp Spener
Philipp Spener | |
---|---|
Ffugenw | Pius Desiderius, Philaletha Germanus, Martin Wahrmund |
Ganwyd | 13 Ionawr 1635 Ribeauvillé |
Bu farw | 5 Chwefror 1705 Berlin |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd |
Mudiad | Pietistiaeth |
Diwinydd Lutheraidd o'r Almaen oedd Philipp Jakob Spener (23 Ionawr 1635 – 5 Chwefror 1705) a ystyrir yn dad y mudiad Pietistaidd.
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd Philipp Jakob Spener yn Rappoltsweiler, Uwch Alsás (heddiw Ribeauvillé, Haut-Rhin, Ffrainc) ar 23 Ionawr 1635. Ers yr 11g, perchenogid y dref honno a'i chyrion gan Arglwyddi Rappoltstein, yn rhan o'r Ymerodraeth Lân Rufeinig. Yn 1639 daeth y rhan fwyaf o ranbarth Alsás dan reolaeth Teyrnas Ffrainc, sefyllfa a gadarnhawyd gan Gytundeb Heddwch Westfalen yn 1648. Er hynny, arhosodd diwylliant y rhanbarth yn Almaeneg a'i chrefydd yn Brotestannaidd. Yn 1680–81 daeth Rappoltsweiler hefyd dan sofraniaeth Ffrainc.
Astudiodd Spener hanes, athroniaeth, ieitheg, a diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Strasbwrg o 1651 i 1659. Aeth ati i astudio ym mhrifysgolion Basel, Tübingen, a Genefa. Yng Ngenefa fe ddaeth yn wybodus am ddysgeidiaethau'r eglwysi Diwygiedig, a gawsant argraff fawr arno er gwaethaf ei ffyddlondeb at yr Eglwys Lutheraidd.[1]
Gweinidogaeth
Dychwelodd Spener i Strasbwrg yn 1633 a fe'i penodwyd yn bregethwr cynorthwyol. Cafodd ei alw i Frankfurt am Main yn 1666 i dderbyn uwch weinidogaeth yr eglwys Lutheraidd yno. Wrth ei swydd, ymdrechodd Spener gryfhau disgyblaeth eglwysig, pwysleisiodd hyfforddiant yr ieuenctid a defnydd yr holwyddoreg, a sefydlodd gwasanaeth y conffyrmasiwn.[1]
Yn 1670 dechreuodd Spener gynnal cyfarfodydd o grwpiau bychain o ddilynwyr i astudio'r Beibl, gweddïo ar y cyd, a thrafod pregethau'r Sul. Rhoddwyd yr enw collegia pietatis ar y cyfarfodydd hyn, ac o hynny daw enw'r mudiad Pietistaidd a sbardunwyd gan weinidogaeth a dysgeidiaeth Spener. Yn 1675 cyhoeddodd Pia Desideria ("Dymuniadau Duwiol"), sy'n cynnwys ei gynigion er adfer yr eglwys Gristnogol, megis addysg ddiwinyddol, pwyslais ar ffydd bersonol ac arferion byw Cristnogol, pregethau o natur ymarferol, a mwy o ran i'r cynulleidfawyr yn y llywodraeth eglwysig. Trwy ddylanwad ei ysgrifeniadau a'i ddisgyblion, lledaenodd grwpiau ysbrydol diwygiedig ar draws tiroedd Protestannaidd yr Almaen.[1]
Yr erbyniad Pietistaiadd
Penodwyd Spener yn gaplan y llys yn Dresden yn 1686, ond cafodd ei wrthwynebu gan y glerigiaeth ac Etholydd Sachsen. Yn 1691 derbyniodd Spener reithoriaeth Eglwys Sant Nicolas ym Merlin, gyda chefnogaeth Ffredrig, Etholydd Brandenburg-Prwsia. Cynorthwyodd wrth sefydlu Prifysgol Halle yn Halle an der Saale yn 1694, ac yn ddiweddarach, trwy weithgareddau ei ddisgybl August Hermann Francke, daeth y ddinas honno yn ganolfan i Bietistiaeth.[1]
Yn 1695, cyhuddwyd Spener gan gyfadran ddiwinyddol Prifysgol Wittenberg o gyfeiliorni ar athrawiaethau'r Eglwys Lutheraidd. Er gwaethaf yr ymrysonau ffyrnig rhyngddo â'i wrthwynebwyr, parhaodd Spener i bregethu am weddill ei oes.[1] Ysgrifennodd mwy na 300 o weithiau crefyddol i gyd, gan gynnwys Das geistliche Priestertum ("Yr Offeiriadaeth Ysbrydol"; 1677) a Die allgemeine Gottesgelehrtheit ("Diwinyddiaeth Gyffredinol"; 1680).[2]
Diwedd ei oes
Bu farw ym Merlin, Prwsia, ar 5 Chwefror 1705.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) "Philipp Jakob Spener" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 21 Awst 2019.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Philipp Jakob Spener. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Awst 2019.
- Genedigaethau 1635
- Marwolaethau 1705
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Strasbwrg
- Diwinyddion yr 17eg ganrif o'r Almaen
- Diwinyddion Protestannaidd o'r Almaen
- Yr Eglwys Lutheraidd
- Llenorion ffeithiol yr 17eg ganrif o'r Almaen
- Llenorion ffeithiol Almaeneg o'r Almaen
- Pobl o Haut-Rhin
- Pobl fu farw ym Merlin
- Pregethwyr o'r Almaen