Afon Waikato
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Waikato Region |
Gwlad | Seland Newydd |
Cyfesurynnau | 37.3694°S 174.7081°E |
Tarddiad | Llyn Taupo |
Aber | Môr Tasman |
Llednentydd | Afon Waipa, Afon Waipakihi, Afon Wairakei, Afon Whangamarino, Afon Mangatawhiri, Tutaenui Stream |
Dalgylch | 13,701 cilometr sgwâr |
Hyd | 425 cilometr |
Arllwysiad | 340 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Llyn Taupo, Llyn Ohakuri, Llyn Atiamuri, Llyn Whakamaru, Llyn Maraetai, Llyn Waipapa, Llyn Arapuni, Llyn Karapiro |
Yr afon hiraf yn Seland Newydd yw Afon Waikato. Mae'n 425 km (264 mi) o'i tharddle i'r môr ac mae ganddi ddalgylch o 14,260 cilometr sgwâr. Mae'n tarddu 2,797 metr uwch na lefel y môr ar ochr ddwyreiniol Mynydd Ruapehu ac yn llifo i Lyn Taupo, wedyn dros Raeadrau Huka, trwy Cambridge, Hamilton (Seland Newydd), Ngaruawahia a Huntly, cyn cyrraedd Môr Tasman ym Mhorthladd Waikato.[1]
Daw'r enw, Waikato o'r term Māori am 'ddŵr sy'n llifo'.[2] Cred llawer o'r brodorion fod rhinweddau dwyfol i'r afon ac mai hon yw tarddiad eu balchder.