Defnyddiwr:Jason.nlw/Pwll Tywod
Rhestr Wicidata:
Enw | Math | Uchder uwch na lefel y môr | Delwedd |
---|---|---|---|
Yr Wyddfa | mynydd copa |
1085 | |
Y Grib Goch | mynydd copa |
923 | |
Garnedd Ugain | mynydd copa |
1065 | |
Glyder Fawr | mynydd copa |
1000.9 | |
Y Lliwedd | mynydd copa |
898 | |
Tryfan | mynydd copa |
917 | |
Castell y Gwynt | copa bryn |
972 | |
Gallt yr Wenallt | copa bryn |
619 | |
Gallt yr Ogof | mynydd copa |
763 | |
Glyder Fach | mynydd copa |
994 | |
Llechog | copa bryn |
720 | |
Lliwedd Bach | copa bryn |
818 | |
Y Foel Goch | mynydd copa |
805 | |
Y Lliwedd (copa dwyreiniol) | copa bryn |
893 | |
Y Garn (Glyderau) | mynydd copa |
947 | |
Craig Fach | copa bryn |
608.75 | |
Carnedd y Cribau | copa bryn |
591 | |
Bryn Tryfan | copa bryn |
830.8 | |
Moel Berfedd | bryn copa |
482 | |
Cerrig Cochion | bryn copa |
550 | |
Clogwyn Bwlch-y-maen | bryn copa |
548 | |
Clogwyn Pen Llechen | bryn copa |
421 |
Fformat yr erthyglau
[golygu | golygu cod]Mae erthyglau Wicipedia yn erthyglau gwyddoniadurol sydd wedi'u chreu ar gyfer gynulleidfa eang, nid plant yn unig. Yn hytrach na mynd ar drywydd creu Wicipedia ar wahân i blant, a fyddai’n ymestyn y gymuned olygu yn rhy denau, y nod yw creu cynnwys sydd wedi’i anelu at bob oedran. Bydd y cynnwys yn cael ei strwythuro mewn ffordd sy'n ei gwneud hi'n hawdd i ddisgyblion iau gael gafael ar wybodaeth allweddol, gan gynnwys gwybodaeth fanylach ar gyfer disgyblion hŷn ac oedolion pe byddent ei eisiau.
Cynnwys
[golygu | golygu cod]Bydd erthyglau yn ail defnyddio testun sy'n bodoli yn barod lle bynnag y bo modd. Byddwn yn gweithio gyda CBAC, HWB ac adran addysg LLGC i nodi ac addasu'r cynnwys hwn. Gellir cyfieithu ac addasu cynnwys o'r Saesneg hefyd.
Bydd dyfyniadau Cymraeg a chysylltiadau i adnoddau dysgu pellach fel CBAC a BBC Bitesize yn cael eu cynnwys lle bynnag y bo modd, ynghyd â rhestrau darllen a gymeradwywyd gan CBAC.
Mynediad
[golygu | golygu cod]Yn gyntaf, dyle fod modd darganfod erthyglau gyda'u henwau Saesneg a Chymraeg. Er enghraifft, dylai defnyddwyr allu chwilio am ‘Henry I’ neu ‘Harri I’, ‘Industrial Revolution’ neu ‘Y Chwyldro Diwydiannol’ i gallu darganfod yr erthygl Gymraeg. Bydd hyn yn gwneud cynnwys yn haws i ddarganfod ac yn rhoi hyder i ddysgwyr neu'r rheini sydd â sgiliau iaith is i ddefnyddio'r cynnwys Cymraeg. Gall darparu ailgyfeiriadau o deitlau Saesneg hefyd wneud y cynnwys yn fwy gweladwy trwy beiriannau chwilio.
Ar gyfer pynciau eang fel y Rhyfel Byd Cyntaf neu'r Tuduriaid, byddwn yn creu erthyglau cryno sy'n amlinellu'r pwnc cyfan, gan gynnwys ffigurau, digwyddiadau ac ystyriaethau allweddol, gyda dolennu i erthyglau mwy manwl ar gyfer pobl neu gysyniadau penodol. Y nod yma fydd helpu disgyblion i ddeall pwnc ar lefel uchel a rhoi cyd-destun i'r bobl, y lleoedd a'r digwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r pwnc hwnnw. Gall yr erthyglau hyn weithredu fel pwynt mynediad at gynnwys mwy manwl.