Gwirod
Gwedd
(Ailgyfeiriad o Diod ddistyll)
Hylif yfadwy sy'n cynnwys alcohol a gaiff ei gynhyrchu trwy ddistyllu grawn, ffrwyth, neu lysiau eplesedig yw gwirod (lluosog: gwirodydd), diod ddistyll, neu licar (lluosog: licars; o'r Saesneg liquor)[1] neu weithiau, yn Ne Cymru, licorach.[1] Mae'r categori gwirodydd yn cynnwys absinth, brandi, fodca, jin, rỳm, schnapps, tecila a wisgi.