Ffynnon Bryn Bendigaid, Aberffraw
Gwedd
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Mae ffynnon Bryn Bendigaid wedi ei lleoli ym mhlwyf Aberffraw ar Ynys Môn.
Mae’r ffynnon rhyw hanner milltir i’r dwyrain o’r pentref ar y ffordd sydd yn croesi’r twyni i’r pentref nesaf, sef Llangadwaladr.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd y dŵr yn ddŵr gwerthfawr iawn am ei bod yn llesol at iachau nifer o anhwylderau ac felly penderfynodd Syr Arthur Owen, Bodeon yn y 18ed ganrif i adeiladu wal o’i chwmpas i rwystro’r anifeiliaid rhag yfed allan ohoni. Hesgeuluswyd y ffynnon ar ôl hyn ond fe’i hail-agorwyd yn y flwyddyn 1861.
Rhyw bedwar can llath o’r ffynnon hon roedd ffynhonnau iachusol eraill. Roedd y rhain wedi eu lleoli ger Croes Ladys. Merthyrwyd dynes o’r enw Gladys yn y pentref ac felly dyna sut cafwyd yr enw.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ffynhonnau Cymru - Cyfrol 2 - Ffynhonnau Caernarfon, Dinbych, Y Fflint a Môn (Llyfrau Llafar Gwlad 43)