Gruffudd Llwyd
Gruffudd Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 14 g |
Bu farw | 1410 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1380 |
- Gweler hefyd Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan a Gruffudd Llwyd ap Rhys.
Un o Feirdd yr Uchelwyr o Bowys a ystyrid gan ei gyfoeswyr yn un o feirdd mwyaf dawnus yr oes oedd Gruffudd Llwyd neu Gruffudd Llwyd ap Dafydd ab Einion Lygliw (fl. chwarter olaf y 14g - chwarter cyntaf yr 15g).[1] Mae ei gerddi yn cynnwys dau gywydd mawl i Owain Glyn Dŵr sy'n dyddio i'r cyfnod cyn ei wrthryfel mawr. Bu'n athro barddol i Rhys Goch Eryri (fl. 1385 - 1448). Roedd ei ewythr ar ochr ei dad, sef Hywel ab Einion Lygliw, yn fardd hefyd.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ychydig a wyddys am fywyd personol Gruffudd Llwyd, ond cedwir ei achrestr yn y llawysgrifau, er bod y manylion yn angytuno. Hanodd o deulu o feirdd a gysylltir â Powys Wenwynwyn. Roedd ei gartref ym mhlwyf Llangadfan, Maldwyn. Bu ganddo dri mab, sef Maredudd, Dafydd ac Einion. Ni wyddys pryd y ganwyd Gruffudd Llwyd, ond ymddengys y bu farw erbyn y 1420au, ar sail tystiolaeth ei gerddi.
Cerddi
[golygu | golygu cod]Cedwir deunaw o gerddi yn y llawysgrifau y gellir eu derbyn fel gwaith dilys y bardd. Canodd gerddi serch a chrefydd a mawl i uchelwyr Powys. I Rys Goch Eryri, bardd serch oedd Gruffudd Llwyd yn bennaf, ac mae'n bosibl fod llawer o'i gerddi serch ar goll erbyn heddiw, er eu bod yn ffurfio traean o'r cerddi ganddo sydd ar glawr. Roedd ei noddwyr yn cynnwys Owain Glyn Dŵr a'i dad-yng-nhyfraith Syr David Hanmer, Owain ap Maredudd o'r Neuadd-wen, Hywel ap Meurig Fychan a'i frawd Meurig Llwyd o Nannau (ger Dolgellau), Gruffudd ab Ieuan Llwyd o blwyf Mathafarn, a dau deulu o ardal Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.[1]
Ceir sawl cyfeiriad yn ei waith at y chwedlau Cymraeg am gymeriadau fel Arthur, Rhita Gawr ac Uthr Pendragon ac at Drioedd Ynys Prydain.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gwaith Gruffudd Llwyd a'r Llygliwiaid eraill, gol. Rhiannon Ifans (Aberystwyth, 2000)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd