Harri Pritchard Jones
Harri Pritchard Jones | |
---|---|
Ganwyd | 3 Hydref 1933 Dudley |
Bu farw | 10 Mawrth 2015 Penarth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, seiciatrydd |
Plant | Guto Harri |
Pabydd selog ac awdur o Gymru oedd Harri Pritchard Jones (10 Mawrth 1933 - 10 Mawrth 2015), a alwyd hefyd yn 'Harri Pi-Je' gan ei gyfeillion. Fe'i ganwyd yn Dudley yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr cyn symud i Ynys Môn. Bu'n weithgar iawn gyda phrotestiadau cynharaf Cymdeithas yr Iaith ym Mangor yn y 1960au.
Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn, Iwerddon ac yno y daeth i gysylltiad a'r ffydd Gatholig.[1] Dychwelodd i Gymru i fagu teulu a bu'n seiciatrydd yn Ysbyty Meddwl Hensol ger Caerdydd. Roedd yn briod a Lenna a roedd ganddo ddau fab, y newyddiadurwr Guto Harri, Illtud a merch Nia. Roedd yn byw yn yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Ar ddiwedd ei fywyd roedd wedi dioddef o gancr a bu farw yn Hospis Marie Curie, Penarth yn 81 oed.[2][3]
Gyrfa feddygol
[golygu | golygu cod]Yn ôl ei fab Guto, trodd ei dad at feddygaeth oherwydd dylanwad ei dad yntau sef William Alfred Pritchard Jones, athro o Borthaethwy a orfodwyd i ymuno â byddin Lloegr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fel aelod o'r uned ambiwlans. Yn dyst i gyflafan y Somme, roedd yn aelod o Royal Army Medical Corps. Er mai ffuglen y gelwir y nofel Darnau’n disgyn i’w lle (neu Disgyn i'w Lle) cred Guto mai sôn am ei dad oedd Harri mewn gwirionedd.[4] Dylanwad mawr arall arno oedd Tynged yr Iaith a'i hawdur Saunders Lewis.
Llenor
[golygu | golygu cod]Mae'n awdur pymtheg o lyfrau, gyda rhai o'r rheiny wedi eu cyfieithu i saith o ieithoedd.[5] Bu'n Gadeirydd 'Yr Academi Gymreig' fel y'i gelwid; Llenyddiaeth Cymru, bellach. Roedd hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig. Gwnaeth rai addasiadau ar gyfer y teledu gan gynnwys addasiad o Brad gan Saunders Lewis ar gyfer S4C.
Dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru:
“ | Cyfrannodd yn sylweddol i’r broses o sefydlu presenoldeb i lenyddiaeth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac yn fwy diweddar bu Harri o gymorth mawr wrth greu’r sefydliad newydd, Llenyddiaeth Cymru, gan uno Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ac Academi.[6] | ” |
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]-
Ar y Cyrion
-
Saunders Lewis (Saesneg)
-
Freud
-
Cyffes Pabydd wrth ei Ewyllys
- Dychwelyd (Gwasg Gomer, 1972)
- Pobl (Gwasg Gomer, 1978)
- Freud, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1982)
- Ust! Gwylia!, cerdd gan Endre Gyárfás o'r Hwngareg, Taliesin cyf 51 (Ebrill 1985)
- Illtud yr Indiad Bach a Storïau Eraill (Gwasg y Dref Wen, 1990)
- Corner People (Gwasg Gomer, 1991)
- Saunders Lewis (Templegate, 1991)
- Bod yn Rhydd (Gwasg Gomer, 1992)
- Ar y Cyrion (Gwasg Gomer, 1994)
- Cyffes Pabydd wrth ei Ewyllys (Gwasg Gomer, 1996)
- Goreuon Storïau Kate Roberts (Gwasg Gee, 2000)
- Disgyn i'w Lle (Gwasg Gomer, 2014)
Golygydd
[golygu | golygu cod]- Goreuon storiau Kate Roberts, wedi'u dethol, ynghyd â rhagymadrodd gan Harri Pritchard Jones (Dinbych: Gwasg Gee, 1997)
- Saunders Lewis: Letters to Margaret Gilcriest, gol. Mair Saunders Jones, Ned Thomas a Harri Pritchard Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1993)
- Murray Watts, Gŵr y gwyrthiau sgript, addasiad Cymraeg gan Harri Pritchard Jones (Caerdydd: S4C, 1999)
- Storïau'r dydd, wedi'u dethol a'u golygu gan Islwyn Jones a Gwilym Rees Hughes; rhagymadrodd gan Harri Pritchard Jones (Llandysul: Gwasg Gomer, 1968)
Addasiadau ffilm
[golygu | golygu cod]- Sigaret? (1991) addasiad o ddrama Saunders Lewis; Ffilmiau Tŷ Gwyn / S4C
- Brad (1994) addasiad o ddrama Saunders Lewis Ffilmiau Tŷ Gwyn / S4C
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan BBC Cymru; adalwyd 13 Mawrth 2015
- ↑ Doctor Harri Pritchard Jones: Psychiatrist and author whose writing and activism made him a giant of Welsh literature and language Archifwyd 2016-01-03 yn y Peiriant Wayback; The Independent; Adalwyd 5 Ionawr 2016
- ↑ Colofn marwolaethau[dolen farw], Media Wales; Adalwyd 5 Ionawr 2016
- ↑ Gwefan Wales On Line; adalwyd 13 Mawrth 2015
- ↑ Gwefan Llenyddiaeth Cymru; Archifwyd 2014-05-23 yn y Peiriant Wayback adalwyd 13 Mawrth 2015
- ↑ Gwefan Golwg360; adalwyd 13 mawrth 2015