Cymdeithas yr Iesu
Enghraifft o'r canlynol | urdd Gatholig, sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1540 |
Prif bwnc | lifestance organisation |
Lleoliad yr archif | Archiepiscopal Archive of Mechelen |
Pennaeth y sefydliad | Superior General of the Society of Jesus |
Prif weithredwr | Arturo Sosa Abascal, Adolfo Nicolás |
Sylfaenydd | Ignatius of Loyola, Francis Xavier, Peter Faber, Holy Companions |
Isgwmni/au | Jesuit Refugee Service, Jesuit Volunteer Corps |
Rhiant sefydliad | Latin Church |
Pencadlys | Church of the Gesù, Superior General of the Society of Jesus |
Gwefan | https://www.jesuits.global/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Urdd o fewn yr Eglwys Gatholig yw Cymdeithas yr Iesu (Societas Jesu, S.J.). Gyda bron 19,000 o aelodau, mae ymhlith y mwyaf o'r urddau Catholig. Cyfeirir at yr aelodau fel Jeswitiaid. Amcanion yr urdd yw efengylu'r byd ac amddiffyn y ffydd Gatholig. Mae'r cyfnod o hyfforddi cyn dod yn aelod llawn yn 12 hyd 14 mlynedd.
Fe'i sefydlwyd yn 1534, yn ninas Paris, gan Sant Ignatius Loyola. Ar 27 Medi 1540, derbyniwyd y gymdeithas yn swyddogol gan y Pab Pawl III. Erbyn marwolaeth Ignatius yn 1556, roedd ganddi 1,000 o aelodau. Bu'n cenhadu mewn nifer fawr o wledydd, yn cynnwys India, lle cafodd gryn lwyddiant yn Goa, a Tsieina. Un o'i meysydd cenhadol mwyaf oedd De America, lle sefydlwyd nifer fawr o genhadaethau i efengylu'r trigolion brodorol, a hefyd i'w hamddiffyn rhag rhai o'r Ewropeaid oedd yn dymuno eu troi yn gaethweision. Gwnaeth hyn y Gymdeithas yn amhoblogaidd gyda rhai o'r awdurdodau. Yn 1773, dan bwysau gan frenhinoedd Sbaen, Portiwgal a Ffrainc, cyhoeddodd y Pab Clement XIV fod yr urdd yn cael ei diddymu. Parhaodd yn weithgar yn nwyrain Ewrop a Rwsia, gan i Ffrederic Fawr, brenin Prwsia, a Catrin Fawr, ymerodres Rwsia, wrthod diddymu'r urdd. Yn 1814, cyhoeddodd y Pab fod y gwaharddiad ar yr urdd yn cael ei ddiddymu.
Aelodau enwog
[golygu | golygu cod]- Franciscus Xaverius (Ffransis Xavier) (1508–1552))
- Juluan Maner (1606–1683), "Apostol Llydaw"
- David Lewis (1616–1679), merthyr o Gymro
- Gerard Manley Hopkins (1844–1889), bardd ac offeiriad