Lucy R. Lippard
Lucy R. Lippard | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ebrill 1937 Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Galisteo, New Orleans, Charlottesville |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd celf, llenor, newyddiadurwr, curadur, beirniad celf, ymgyrchydd, curadur, damcaniaethwr celf |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Printed Matter, Inc., Pueblo Chico: Land and Lives in Galisteo Since 1814 |
Priod | Robert Ryman |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Clymblaid Menywod am Gyflawniad Oes mewn Gwaith Celf, Gwobr am Wasanaeth Anrhydeddus yn y Celfyddydau Gweledol, Gwobr CAA am Ragoriaeth, Audrey Irmas Award for Curatorial Excellence |
Awdur a beirniad celf Americanaidd yw Lucy R. Lippard (ganwyd 14 Ebrill 1937) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hanesydd celf, newyddiadurwr, actifydd a churadur.
Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd[1] ar 14 Ebrill 1937. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Smith, Massachusetts,Sefydliad celfyddydau Cain, Prifysgol Efrog newydd a Phrifysgol Efrog Newydd.[2][3][4][5][6]
Roedd Lippard ymhlith yr ysgrifenwyr cyntaf i ddadlau dros 'dadfateroli (dematerialization) ofewn celf gysyniadol ac roedd yn hyrwyddwr cynnar o gelf ffeministaidd. Yn 2019 roedd yn awdur 21 o lyfrau ar gelf gyfoes ac wedi derbyn nifer o wobrau ac anrhydeddau gan feirniaid llenyddol a chymdeithasau celf.
Magwraeth ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Lucy Lippard yn Ninas Efrog Newydd cyn symud i New Orleans a Charlottesville, Virginia, cyn cofrestru yn Academi Abbot ym 1952. Mynychodd Goleg Smith ac ennill radd B.A. ym 1958. Ym 1962, enillodd radd M.A. mewn hanes celf gan Sefydliad y Celfyddydau Cain ym Mhrifysgol Efrog Newydd. [7][8][9][10]
Wedi gadael coleg, ym 1958, dechreuodd Lippard weithio yn llyfrgell yr Amgueddfa Celf Fodern lle, yn ogystal ag ail-gartrefu'r llyfrgell ar ôl tân, cafodd ei "ffermio allan" i wneud ymchwil i guraduriaeth.[11] Yn MoMA gweithiodd gyda churaduron fel Bill Lieberman, Bill Seitz a Peter Selz. Yn MoMA cyfarfu Lippard â Sol LeWitt a oedd yn gweithio wrth y ddesg nos. Roedd gan John Button, Dan Flavin, Al Held, a Robert Ryman i gyd swyddi yn yr amgueddfa yn ystod yr amser hwn hefyd.[11]
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]- Undermining: A Wild Ride Through Land Use, Politics, and Art in the Changing West. Efrog Newydd: The New Press. 2014. ISBN 9781595586193
- 4,492,040. Los Angeles: New Documents. 2012. ISBN 9781927354001
- Weather Report. Boulder, C.O.: Boulder Museum of Contemporary Arts. 2007. ISBN 0979900700
- On the beaten track: tourism, art and place. Efrog Newydd: New Press. 1999. ISBN 1565844548
- The Lure of the Local: Senses of Place in a Multicentered Society. Efrog Newydd: New Press. 1998. ISBN 1565842480
- The Pink Glass Swan. Efrog Newydd: New Press, 1995. ISBN 1565842138
- Mixed blessings: new art in a multicultural America. Efrog Newydd: Pantheon Books. 1990. ISBN 0394577590
- A different war: Vietnam in art. Bellingham, Wash: Whatcom Museum of History and Art. 1990. ISBN 0941104435
- Get the message?: a decade of art for social change. Efrog Newydd: E.P. Dutton. 1984 ISBN 0525480374
- Overlay: contemporary art and the art of prehistory. Efrog Newydd: Pantheon Books. 1983 ISBN 0394518128
- Eva Hesse. Efrog Newydd: New York University Press. 1976.
- From the center: feminist essays on women's art. Efrog Newydd: Dutton. 1976.ISBN 0525474277
- Six years: the dematerialization of the art object from 1966 to 1972; a cross-reference book of information on some esthetic boundaries. Efrog Newydd: Praeger. 1973. ISBN 0289703328
- Changing: essays in art criticism. Efrog Newydd: Dutton. 1971.ISBN 0525079424
- Surrealists on art. Englewood Cliffs, N.J.: Prentice-Hall. 1970. ISBN 0138780900
- Pop art. Efrog Newydd: Praeger. 1966.
- The Graphic Work of Philip Evergood. Efrog Newydd: Crown, 1966.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1968), Gwobr Clymblaid Menywod am Gyflawniad Oes mewn Gwaith Celf (2007), Gwobr am Wasanaeth Anrhydeddus yn y Celfyddydau Gweledol (1999), Gwobr CAA am Ragoriaeth (2012), Audrey Irmas Award for Curatorial Excellence (2010)[12][13] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Biography at arthistorians.info". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-07. Cyrchwyd 2019-08-07.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: http://artistarchives.hosting.nyu.edu/DavidWojnarowicz/KnowledgeBase/index.php/Lippard,_Lucy.html.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: https://dictionaryofarthistorians.org/lippardl.htm. "Lucy Lippard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Union List of Artist Names. dyddiad cyhoeddi: 23 Ionawr 2018. dyddiad cyrchiad: 11 Hydref 2018.
- ↑ Galwedigaeth: https://cs.nyu.edu/ArtistArchives/KnowledgeBase/index.php?title=Lippard,_Lucy. https://cs.nyu.edu/ArtistArchives/KnowledgeBase/index.php?title=Lippard,_Lucy. https://cs.nyu.edu/ArtistArchives/KnowledgeBase/index.php?title=Lippard,_Lucy. https://cs.nyu.edu/ArtistArchives/KnowledgeBase/index.php?title=Lippard,_Lucy.
- ↑ Aelodaeth: https://hyperallergic.com/117621/art-in-the-1980s-the-forgotten-history-of-padd/.
- ↑ Anrhydeddau: http://www.collegeart.org/programs/awards/feminist. https://ccs.bard.edu/visit/award-for-curatorial-excellence/.
- ↑ "Pioneering Author, Activist, Critic, and Curator Lucy Lippard to Receive Honorary Degree". OTIS College of Art and Design. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-07. Cyrchwyd February 13, 2015.
- ↑ 11.0 11.1 Obrist, Hans Ulrich (2008). A Brief History of Curating. Zurich: JRP Ringier. ISBN 9783905829556.
- ↑ http://www.collegeart.org/programs/awards/feminist.
- ↑ https://ccs.bard.edu/visit/award-for-curatorial-excellence/.