Madame Bovary
Tudalen teitl y rhifyn Ffrangeg gwreiddiol, 1857 | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Gustave Flaubert |
Cyhoeddwr | Revue de Paris (cyfres) & Michel Lévy Frères (ar ffurf llyfr, 2 Gyfrol) |
Gwlad | Ffrainc |
Rhan o | Index Librorum Prohibitorum |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1857 |
Dechrau/Sefydlu | 1856 |
Genre | Nofel realydd, Llenyddiaeth erotig |
Cymeriadau | Emma Bovary, Q64895263 |
Lleoliad cyhoeddi | Ffrainc |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Yonville |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nofel enwocaf Gustave Flaubert ydy Madame Bovary; cyhoeddwyd pennod gyntaf y stori ar 1 Hydref 1856 yn La Revue de Paris. Cafwyd sgandal fawr pan gyhoeddwyd y nofel ac achos llys yn erbyn Flaubert a'r cyhoeddwyr am "lygru moesoldeb y cyhoedd".[1]
Cynllun
[golygu | golygu cod]Lleolir y nofel yn nhref ddychmygol 'Yonville' ger Rouen, Normandi. Mae arwres y nofel, Emma Roualt, yn cael ei magu mewn cwfaint ac mae'n ei adael gyda'i phen yn llawn o grefyddoldeb sentimental a breuddwydion rhamantaidd am fywyd moethus a chariadon Byronaidd. Mae hi'n priodi Charles Bovary, meddyg gwledig mewn tref fach ger Rouen, ond yn syrffedu ar fywyd mewn lle mor ddinod a chwmni gŵr addolgar ond diddychymyg, sef y gwrthwyneb i'r syniadau rhamantaidd am briodas a chariad a gafodd yn y nofelau poblogaidd a ddarllenai yn y cwfaint. Mae'n syrthio mewn cariad a sgwier lleol golygus ond cyn hir mae ef yn diflasu ar ei chwmni ac yn ei gadael. Caiff garwriaeth arall gyda chlerc i gyfreithwyr ond ni all ef ddioddef ei syniadau rhamantaidd pen yn y gwynt. Yn y cyfamser mae hi wedi disgyn mewn dyled sylweddol trwy wario'n afradlon er mwyn plesio ei chariad ac mae'r un â'r dyled iddo yn bygwth datgelu popeth i'w gŵr os na chaiff ei dalu. Mewn braw a digalondid, mae hi'n lladd ei hun trwy gymryd arsenig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Syr Paul Harvey (gol.), The Oxford Campanion to French Literature (1969).