Pregeth
Araith ar bwnc diwinyddol neu foesol gan broffwyd, clerigwr neu berson crefyddol arall yw pregeth. Yn y Gorllewin tueddir i gysylltu'r gair â'r Gristnogaeth, ond gellir ei gymhwyso i ddisgrifio areithiau cyffelyb mewn crefyddau eraill yn ogystal, yn enwedig yn achos Iddewiaeth, Islam a Bwdiaeth.
Cristnogaeth
[golygu | golygu cod]Ceir sawl enghraifft o'r bregeth yn yr Hen Destament ac enwir un o'i lyfrau yn Llyfr y Pregethwr (Ecclesiastes). Y bregeth enwocaf yn y traddodiad Cristnogol yw'r Bregeth ar y Mynydd, a draddodwyd gan Iesu o Nasareth.
Yng Nghymru daeth y bregeth i fod yn un o brif ffurfiau llenyddol y Cyfnod Modern Cynnar a pharhaodd yn ffurf lenyddol bwysig ar ôl hynny. Ymhlith pregethwyr mwyaf dylanwadol Cymru gellid crybwyll Howel Harris, John Elias, Thomas Charles a Tanymarian. Cyhoeddodd y llenor gwladgarol Emrys ap Iwan sawl pregeth ar bynciau crefyddol, moesol a gwladol.
Islam ac Iddewiaeth
[golygu | golygu cod]Y Proffwyd Mohamed yw pregethwr enwocaf Islam, ond mae'r grefydd yn parchu'r rhan fwyaf o bregethwyr yr Hen Destament yn ogystal. Yr enw Arabeg am bregeth yw khutba (Arabeg: (خطبة khutbah). Traddodir khutba o flaen gweddïau dydd Gwener mewn mosgiau ac yn ystod Eid ul-Fitr. Ceir khutba fawr yn rhan o'r Hajj ar wastadeddau Arafat, tu allan i Fecca.
Ceir nifer o bregethau yn y llyfrau sanctaidd Iddewig, e.e. y Midrash. Mae Iddewiaeth yn rhannu â'r Gristnogaeth llyfrau'r Hen Destament yn ogystal.
Bwdiaeth
[golygu | golygu cod]Y bregeth enwocaf yn hanes Bwdiaeth yw pregeth gyntaf Siddhartha Gotama, y Bwdha, sef y Dhammacakkappavattana Sutta, a draddodwyd ym Mharc Ceirw Sarnath, gogledd India.