Rhisierdyn
Rhisierdyn | |
---|---|
Ganwyd | 14 g |
Galwedigaeth | bardd |
Un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14g oedd Rhisierdyn (bu farw yn y 1410au efallai). Mae'n debygol ei fod yn frodor o Ynys Môn.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ni wyddys dim o gwbl bron am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi ei hun a cherdd ymddiddan iddo gan ei gydfardd Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed. Noda William Salesbury, mewn rhestr o feirdd a luniwyd tua 1574, fod Rhisierdyn yn fardd o Fôn. Er nad oes modd cadarnhau hynny, mae'r ffaith fod nifer uchel o'i noddwyr naill ai'n byw ar yr ynys neu'n aelodau o deuluoedd o'r ynys yn tueddu i ategu'r awgrym, ond canodd y bardd i sawl noddwr arall yng ngogledd Gwynedd hefyd.[1]
Cerddi
[golygu | golygu cod]Pedair awdl ac un cywydd o waith y bardd sydd ar glawr. Canodd i rai o bobl pwysicaf ei gyfnod yng ngogledd-orllewin Cymru, sef Goronwy Fychan ap Tudur o Benmynydd (Môn) a'i wraig Angharad, Hywel ap Gruffudd o Eifionydd, Hwlcyn ap Hywel o Brysaeddfed (hefyd ym Môn), a Ieuan ap Rhys, Abad Aberconwy. Ei awdl i Ieuan ap Rhys yw'r cynharaf sydd ar glawr o gyfres ddiddorol o gerddi i abadau Aberconwy. Ymddengys mai Tuduriaid Môn, ac yn enwedig Goronwy ap Tudur, oedd prif gynheiliaid y bardd.[1]
Canu mawl traddodiadol, amhersonol braidd ond o safon uchel, yw trwch a sylwedd gwaith Rhisierdyn. Er iddo ganu yn Oes y Cywyddwyr, glynu wrth arddull y Gogynfeirdd a wnaeth y bardd, gan bentyrru ansoddeiriau a thynnu ar eirfa hynafol. Ymhlith ei hoff fesurau y mae'r rhupunt a'r englyn unodl union.[1]
Cedwir ei waith yn Llyfr Coch Hergest, yn llaw Hywel Fychan.[1]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Nerys Ann Jones (gol.), 'Gwaith Rhisierdyn', yn Gwaith Sefnyn, Rhisierdyn, Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed a Llywarch Bentwrch (Aberystwyth, 1995). 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr'.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Bedo Hafesb · Bleddyn Ddu · Cadwaladr Cesail · Casnodyn · Rhisiart Cynwal · Wiliam Cynwal · Dafydd ab Edmwnd · Dafydd Alaw · Dafydd ap Gwilym · Dafydd ap Siencyn · Dafydd Benwyn · Dafydd Ddu o Hiraddug · Dafydd Gorlech · Dafydd Llwyd o Fathafarn · Dafydd Nanmor · Dafydd y Coed · Edward Dafydd · Deio ab Ieuan Du · Lewys Dwnn · Edward Maelor · Edward Sirc · Edward Urien · Einion Offeiriad · Gronw Ddu · Gronw Gyriog · Gruffudd ab Adda ap Dafydd · Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan · Gruffudd ap Dafydd ap Tudur · Gruffudd ap Llywelyn Lwyd · Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd · Gruffudd ap Tudur Goch · Gruffudd Fychan ap Gruffudd ab Ednyfed · Gruffudd Gryg · Gruffudd Hiraethog · Gruffudd Llwyd · Gruffudd Llwyd ap Llywelyn Gaplan · Guto'r Glyn · Gutun Owain · Gwerful Fychan · Gwerful Mechain · Gwilym Ddu o Arfon · Gwilym Tew · Hillyn · Huw Cae Llwyd · Huw Ceiriog · Huw Cornwy · Huw Llŷn · Huw Pennant (I) · Huw Pennant (II) · Hywel ab Einion Lygliw · Hywel ap Mathew · Hywel Cilan · Hywel Ystorm · Ieuan ap Huw Cae Llwyd · Ieuan ap Hywel Swrdwal · Ieuan Brydydd Hir · Ieuan Du'r Bilwg · Ieuan Dyfi · Ieuan Gethin · Ieuan Llwyd ab y Gargam · Ieuan Tew Ieuanc · Iocyn Ddu ab Ithel Grach · Iolo Goch · Iorwerth ab y Cyriog · Iorwerth Beli · Iorwerth Fynglwyd · Ithel Ddu · Lewis ab Edward · Lewys Daron · Lewys Glyn Cothi · Lewys Môn · Lewys Morgannwg · Llywarch Bentwrch · Llywelyn ab y Moel · Llywelyn ap Gwilym Lygliw · Llywelyn Brydydd Hoddnant · Llywelyn Ddu ab y Pastard · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Foelrhon · Llywelyn Fychan ap Llywelyn Goch · Llywelyn Goch ap Meurig Hen · Llywelyn Goch y Dant · Llywelyn Siôn · Mab Clochyddyn · Madog Benfras · Maredudd ap Rhys · Meurig ab Iorwerth · Morus Dwyfech · Owain Gwynedd · Owain Waed Da · Prydydd Breuan · Tomos Prys · Gruffudd Phylip · Phylip Siôn Phylip · Rhisiart Phylip · Rhys Cain · Rhys Nanmor · Siôn Phylip · Siôn Tudur · Raff ap Robert · Robert ab Ifan · Robin Ddu ap Siencyn · Rhisierdyn · Rhisiart ap Rhys · Rhys ap Dafydd ab Einion · Rhys ap Dafydd Llwyd · Rhys ap Tudur · Rhys Brydydd · Rhys Goch Eryri · Sefnyn · Simwnt Fychan · Siôn ap Hywel ap Llywelyn Fychan · Siôn ap Hywel Gwyn · Siôn Brwynog · Siôn Cent · Siôn Ceri · Sypyn Cyfeiliog · Trahaearn Brydydd Mawr · Tudur Aled · Tudur ap Gwyn Hagr · Tudur Ddall · Wiliam Llŷn · Y Mab Cryg · Y Proll · Yr Ustus Llwyd