Teutones
Enghraifft o'r canlynol | grwp ethnig hanesyddol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llwyth Almaenig yn wreiddiol o Jutland (Denmarc heddiw) oedd y Teutones. Credir eu bod wedi rhoi eu henw i ardal Thy yng ngogledd Denmarc. Tua diwedd yr ail ganrif CC ymfudodd nifer fawr o’r Teutones gyda llwythau y Cimbri a’r Ambrones tua’r de i chwilio am diriogaethau newydd i’w sefydlu. Efallai fod hyn oherwydd effeithiau llifogydd yn ei tiriogaethau eu hunain.
Yn 113 CC daethant i gysylltiad a’r Rhufeiniaid am y tro cyntaf, ac enillasant fuddugoliaeth dros fyddin Rufeinig dan y conswl Papirius Carbo. Enillasant hwy a'r Cimbri nifer o fuddugoliaethau eraill dros y Rhufeiniaid; yn 105 CC ym Mrwydr Arausio roedd colledion y Rhufeiniaid yn fwy nag mewn unrhyw frwydr ers Brwydr Cannae.
Yn y blynyddoedd nesaf bu’r llwythau Almaenig yn crwydro o gwmpas Sbaen, cyn symud yn ôl tua’r Eidal. Yma, ymwahanodd y Teutones a’r Ambrones oddi wrth y Cimbri. Yn 102 CC gorchfygwyd y Teutones a’r Ambrones gan fyddin Rufeinig dan Gaius Marius ym Mrwydr Aquae Sextiae gyda lladdfa enfawr. Cymerwyd eu brenin, Teutobod, yn garcharor.