Neidio i'r cynnwys

William Huskisson

Oddi ar Wicipedia
William Huskisson
Ganwyd11 Mawrth 1770 Edit this on Wikidata
Birtsmorton Court Edit this on Wikidata
Bu farw15 Medi 1830 Edit this on Wikidata
Eccles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sir John Moore Church of England Primary School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, economegydd Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd y Bwrdd Masnach, Ysgrifennydd Gwladol dros Ryfel a'r Trefedigaethau, Arweinydd y Tŷ Cyffredin, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolTori Edit this on Wikidata
TadWilliam Huskisson Edit this on Wikidata
PriodEliza Emily Huskisson Edit this on Wikidata

Gwleidydd o Loegr oedd William Huskisson (11 Mawrth 177015 Medi 1830), oedd yn Aelod Seneddol dros amryw etholaethau, gan gynnwys Lerpwl.[1]

Fe'i ganwyd yn Birtsmorton Court, Malvern, Swydd Gaerwrangon. O 1783 hyd 1792 bu'n byw gyda'i hen-ewythr ym Mharis, a bu'n dyst i ddigwyddiadau'r Chwyldro Ffrengig. Daeth dan adain Ardylydd Stafford, llysgennad Prydain ym Mharis, a dychwelodd i Lundain gydag ef yn 1792. Yno derbyniodd nawdd dau ffigwr gwleidyddol pwerus ychwanegol: Henry Dundas, yr Ysgrifennydd Cartref, a William Pitt yr Ieuengaf, y Prif Weinidog. Roedd Huskisson yn weinyddwr galluog a phenodwyd ef yn Is-ysgrifennydd dros Ryfel yn 1795. Daeth yn Aelod Seneddol dros Morpeth yn 1796. Yn ddiweddarach roedd yn Aelod Seneddol dros Liskeard (1804–7), Harwich (1807–12), Chichester (1812–23) a Lerpwl (1823–30). Yn ystod y blynyddoedd hyn bu'n gwasanaethu mewn amrywiol swyddi gwleidyddol – Ysgrifennydd y Trysorlys (1804–6, 1807–9), Prif Gomisiynwyr Coedwigoedd a Choedwigoedd (1814–23), Llywydd y Bwrdd Masnach (1823–7), Trysorydd y Llynges (1823–7), Ysgrifennydd dros Ryfel a'r Trefedigaethau (1827–8).

Cafodd Huskisson ei ladd gan y locomotif Rocket yn ystod diwrnod agoriadol Rheilffordd Lerpwl a Manceinion.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) William Huskisson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Tachwedd 2024.