Deall sgiliau a
llythreneddau digidol
pobl amgueddfeydd y
DU
Adroddiad Cyfnod Dau
Cyhoeddwyd yn gyntaf Mai 2019
gan Brifysgol Caerlŷr
University Road, Caerlŷr LE1 7RH
©2019 Prifysgol Caerlŷr
ISBN: 978-1-912989-00-3
DOI: https://doi.org/10.29311/2019.01
Cydnabyddiaeth am y lluniau: Amgueddfa Llundain; Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban; Connor
Carter.
Lluniwyd gan:
Sejul Malde ac Anra Kennedy
Culture24
Ross Parry (Arweinydd y Prosiect)
Yr Ysgol Astudiaethau Amgueddfeydd, Prifysgol Caerlŷr
Cynorthwyydd ymchwil
Peter Alfano
Prifysgol Caerlŷr
Cydnabyddiaeth
Mae’r awduron yn ddiolchgar i Gyngor Ymchwil Celfyddydau a Dyniaethau’r DU (AHRC) am eu cyllid
hael ar gyfer prosiect llythrennedd digidol cenedlaethol ‘One by One’ (2017-2020).
Hoffem fynegi’n gwerthfawrogiad i’r canlynol a fu’n ganolog i’r gwaith maes ar gyfer Cyfnod Dau ‘One
by One’, yn benodol y sawl a fu’n gyfrifol am gynnal y tri Labordy Llythrennedd, sef Dafydd James a’i
gydweithwyr, Amgueddfa Cymru; Rob Cawston a’i gydweithwyr, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr
Alban; Kevin Bacon a’i gydweithwyr, Pafiliwn Brenhinol ac Amgueddfeydd Brighton a Hove. Diolch yn
ogystal i Peter Alfano, Rosie Clarke, Bridget McKenzie, Kate McNab, Ian Maine, Isobel Woodliffe ac i
bawb a fynychodd y Labordai Llythrennedd (a enwir yn Adran 2).
Prosiect ymchwil cenedlaethol yw ‘One by One’ sy’n bwriadu helpu amgueddfeydd y
Deyrnas Unedig o unrhyw faint i ddiffinio, gwella, mesur a sefydlu llythrennedd digidol
eu staff a’u gwirfoddolwyr yn well ym mhob swyddogaeth ac ar bob lefel.
Drwy gyflwyno ymagwedd newydd at ddeall a datblygu llythrennedd digidol, nod y prosiect yw creu
meddylfryd sefydliadol newydd mewn amgueddfeydd i helpu i gefnogi eu hanghenion trawsnewid
digidol.
Mae’r prosiect yn arddel defnydd egwyddorion dylunio sydd â phobl wrth eu canol, a gwelir hyn o
fewn methodoleg y prosiect ei hun: mae empathi at anghenion amgueddfeydd, drwy ymchwilio i
ddarpariaeth bresennol sgiliau digidol mewn amgueddfeydd; diffinio pa lythreneddau digidol mae eu
hangen i fodloni anghenion amgueddfeydd; canfod a rhoi cynnig ar fodel ymarferol o greu
llythrennedd digidol o fewn amgueddfeydd; profi’r model prototeip o fewn amgueddfeydd partner o
wahanol swyddogaethau, meintiau a lleoliadau; ac yna rhannu’r fframwaith llythrennedd digidol
arfaethedig terfynol â’r sector.
Mae ‘One by One’ yn cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a’i
arwain gan Brifysgol Caerlŷr mewn partneriaeth â Culture24, ynghyd ag ystod o bartneriaid
amgueddfa ac academaidd: Amgueddfa Cymru; Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban; Amgueddfa
Genedlaethol y Fyddin; Amgueddfa Llundain; Amgueddfeydd Derby; Pafiliwn Brenhinol ac
Amgueddfeydd Brighton a Hove; CAMEo (y Sefydliad
Ymchwil dros Economïau Diwylliannol a Chyfryngau),
Prifysgol Caerlŷr; a’r Sefydliad dros Ymchwil i
Gyflogaeth, Prifysgol Warwick.
Yn ogystal, mae’r prosiect wedi dod â grŵp
pwysig o randdeiliaid strategol ynghyd i
gynrychioli anghenion pob amgueddfa, cynnig
cymorth cynghorol hanfodol, a rhannu a
gweithredu canfyddiadau pennaf y prosiect:
Cyngor Celfyddydau Lloegr; Cymdeithas yr
Amgueddfeydd; Cymdeithas yr Amgueddfeydd
Annibynnol; y Rhwydwaith Datblygu
Amgueddfeydd; Cronfa Dreftadaeth y Loteri;
Cyngor Cenedlaethol Cyfarwyddwyr
Amgueddfeydd; yr Ymddiriedolaeth Gasgliadau; a
Nesta.
Dechreuodd y prosiect ym Medi 2017 a’r bwriad yw ei
gwblhau ym Mawrth 2020.
Cynnwys
Crynodeb ................................................................................................................................................. ii
Canfyddiadau allweddol ...................................................................................................................... ii
1
Cwestiwn ymchwil.......................................................................................................................... 1
2
Dulliau.............................................................................................................................................. 2
Ymchwil desg .............................................................................................................................. 2
Ymgynghori â’r sector ................................................................................................................ 3
Arolwg ar-lein ......................................................................................................................... 4
Trafodaeth Twitter ................................................................................................................ 5
Labordai Llythrennedd ................................................................... Error! Bookmark not defined.
Labordy Llythrennedd Brighton.............................................................................................. 7
Labordy Llythrennedd Caeredin ................................................. Error! Bookmark not defined.
Labordy Llythrennedd Caerdydd ................................................ Error! Bookmark not defined.
3
Canfyddiadau ................................................................................................................................. 11
Canolbwyntio ar bobl .................................................................... Error! Bookmark not defined.
Bwriadol a'u harwain gan werthoedd ............................................ Error! Bookmark not defined.
Mireiniedig a gweddu i’r cyd-destun ............................................. Error! Bookmark not defined.
Eglurdeb a chysondeb .............................................................................................................. 13
Ymatebion strategol ac ymarferol ............................................................................................ 19
Creu amodau ar gyfer newid .................................................................................................... 20
Cymorth, offer ac adnoddau ymarferol .................................................................................... 21
4
Allbynnau a’r camau nesaf ............................................................................................................. 22
Egwyddorion ............................................................................................................................ 22
Nodweddion ............................................................................................................................. 23
Cyd-destunau ................................................................................. Error! Bookmark not defined.
Fy Sgiliau digidol ................................................................................................................... 24
Fy Ngweithgarwch Digidol .................................................................................................... 25
Fy Safbwyntiau ..................................................................................................................... 27
Camau gweithredu ................................................................................................................... 29
Amodau sefydliadol .............................................................................................................. 29
Ysgogiadau, offer ac adnoddau ............................................................................................ 29
Y camau nesaf .......................................................................................................................... 30
5
Cyfeiriadau ..................................................................................................................................... 31
i
Crynodeb
Edrychodd Cyfnod Dau o brosiect One by One ar y sgiliau a’r llythreneddau digidol mae
eu hangen ar bobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli mewn amgueddfeydd. Edrychom ar
ddulliau o ddiffinio, mynegi a deall yr anghenion hynny, gan adeiladu ar ganfyddiadau
Cyfnod Un a defnyddio ystod o ddulliau ymchwil ac ymgynghori.
Canfyddiadau allweddol:
Canfu Cyfnod Dau fod angen y rhinweddau canlynol ar ymagweddau’r sector amgueddfeydd at ddeall
ac adeiladu sgiliau a llythreneddau digidol:
Canolbwyntio ar bobl, wedi eu harwain gan anghenion unigolion yn hytrach na thechnolegau
na chymhellion allanol eraill;
Bwriadol a’u harwain gan werthoedd, yn gysylltiedig yn eglur â chenadaethau sefydliadol; a
Mireiniedig a gweddu i’r cyd-destun – gan helpu pobl i ddeall a chysylltu sgiliau â’u harfer a’u
lleoliad eu hun.
Canfu Cyfnod Dau fod angen y canlynol ar bobl amgueddfeydd:
Termau a diffiniadau clir, cyson a gydnabyddir yn eang mewn perthynas â sgiliau a
llythreneddau digidol, ond nid un rhestr benodedig yn unig;
Ymatebion sy’n strategol ac yn ymarferol – gan eu helpu i bennu blaenoriaethau a chynllunio
ac olrhain cynnydd a hyfedredd;
Cefnogaeth i gydnabod ac yna creu a galluogi’r amodau mae eu hangen er mwyn i newid
sefydliadol ddigwydd a ffynnu; ac
Arweiniad, offer ac adnoddau i’w cefnogi wrth feithrin eu sgiliau a llythrennedd digidol yn
effeithiol.
ii
1 Cwestiwn ymchwil
Nod penodedig Cyfnod Dau, ar ddechrau prosiect One by One, oedd ‘manylu ar yr ystod
benodol o sgiliau a llythreneddau digidol mae eu hangen ar sector amgueddfeydd y DU’.
Mapiodd cyfnod cyntaf1 y prosiect ecosystem sgiliau digidol cyfredol sector amgueddfeydd y DU, gan
edrych ar y cyflenwad, galw, datblygiad a defnydd. Dau o’r canfyddiadau allweddol, a fanylwyd yn
Adroddiad Cyfnod Un (Barnes, Kispeter, Eikhof, Parry, 2018), oedd: ym mha ddulliau mae’r galw am
sgiliau digidol yn y sector amgueddfeydd yn newid, gyda sgiliau cyffredinol ac arbenigol yn ofynnol ar
draws set ehangach o rolau a gweithgareddau; ac yn Ail, er bod sgiliau technegol yn dal i fod yn
berthnasol, bod llythreneddau digidol hefyd yn dod yn hanfodol bwysig.
Gan adeiladu ar y canfyddiadau hynny, nod ymchwil Cyfnod Dau oedd deall sut roedd yr anghenion
sgiliau a llythrennedd digidol hynny’n gysylltiedig â’i gilydd a sut mae eu dadansoddi, eu trafod a’u
mynegi. Hefyd newidiom y pwyslais o ‘sector amgueddfeydd y DU’ y nodau gwreiddiol i bwyslais mwy
penodol ar bobl sef ‘pobl amgueddfeydd’.
Y cwestiwn ymchwil felly oedd ‘Sut allwn fynegi anghenion sgiliau digidol pobl amgueddfeydd?’
Wrth ‘bobl amgueddfeydd’ rydym yn golygu’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio neu wedi eu
contractio am holl amgueddfeydd, orielau neu safleoedd treftadaeth y DU. Gan fod ymchwil Cyfnod
Un wedi awgrymu bod angen llythrennedd digidol, i wahanol raddau, ar draws holl weithgareddau a
gweithrediadau amgueddfeydd, mae ‘pobl amgueddfeydd’ yn cwmpasu’r ystod lawn o rolau
amgueddfa gan gynnwys ymddiriedolwyr a staff cymorth fel garddwyr, diogelwch a blaen y tŷ.
Bydd canfyddiadau Cyfnod Dau:
1
Yn helpu pobl amgueddfeydd i fynegi eu hanghenion sgiliau a llythrennedd digidol;
Yn llywio meddwl a chynllunio am Gyfnod Tri One by One; ac
Yn llywio’r allbynnau sgiliau a llythrennedd digidol y bydd One by One yn eu creu ar gyfer
sector amgueddfeydd y DU.
Gweler: https://one-by-one.uk/2018/03/20/phase-1-summary/
1
2 Dulliau
Y tri dull pennaf a ddefnyddiom yng Nghyfnod Dau i’n helpu i ymchwilio a mynegi
anghenion sgiliau a llythrennedd digidol pobl amgueddfeydd oedd ymchwil desg,
ymgynghori a Labordai Llythrennedd.
Ymchwil desg
Edrychodd ein hymchwil desg ar y deunydd argraffedig sy’n bodoli ar draws y sector amgueddfeydd
(a’r sector diwylliannol ehangach) a ddangosodd yr angen am sgiliau a llythrennedd digidol.
Edrychodd hefyd ar ddeunydd o sectorau eraill gan ganolbwyntio ar ddatblygu fframweithiau ar gyfer
sgiliau a llythrennedd digidol. Ceisiodd pob un o’r fframweithiau hyn resymoli, disgrifio, cysylltu a
mynegi’r sgiliau a’r llythreneddau hynny.
Yn gyfan gwbl, gwnaethom nodi a dadansoddi 61 o destunau a oedd yn ymwneud â sgiliau a
fframweithiau digidol.2 O’r rhain, pennodd hanner cant fframweithiau penodol tra roedd y gweddill yn
ymchwil ehangach neu’n sylwebaeth fwy cyffredinol. Roedd y sefydliadau tu ôl iddynt, a restrir isod yn
Nhabl I, yn gysylltiedig yn fras â phedwar sector: Prifysgolion, Llywodraeth, NGOs/Elusennau a
Chorfforaethol.
Tabl 1 Ffynonellau fframweithiau presennol sgiliau digidol, fesul math o sector
Prifysgol
Llywodraeth
NGOs/Elusennau
Corfforaethol
Prifysgol Caerlŷr
UNESCO
Jisc
Mozilla
Y Brifysgol Agored
Adran Addysg a Sgiliau,
Iwerddon
Llyfrgell Genedlaethol
Seland Newydd
Insight for
Professionals
Llyfrgell Prifysgol
Queensland
Bwrdd Addysg British
Columbia, Canada
Media Smarts (Canada)
Barclays
Prifysgol Dundee
Y Comisiwn
Ewropeaidd
PDST Technology in
Education
Prifysgol Melbourne
Adroddiad Sgiliau
Digidol DCMS
New Media Consortium
(a gafaelwyd gan
EDUCAUSE)
Allabord HE
Llywodraeth Cymru
Cymdeithas
Llyfrgelloedd Coleg ac
2
Gweler Adran 5 am y set lawn o gyfeiriadau a ffynonellau fframwaith.
2
Ymchwil
Llyfrgell Prifysgol
Virginia Tech
Llywodraeth y DU
NCVO
Prifysgol Greenwich
Cyngor Cyrff
Gwirfoddol yr Alban
Llyfrgell Prifysgol
Sheffield
Sheffield Digital
Prifysgol Brighton
DigiLit Leicester
Prifysgol Anglia Ruskin
FutureLab
Prifysgol Deakin
Prifysgol Caerfaddon
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Maynooth
Prifysgol Gatholig
Awstralia
Prifysgol Nottingham
Trent
Trafododd yr hanner cant o fframweithiau hynny dri grŵp bras o sgiliau a llythreneddau digidol: y rhai
ar gyfer dysgu, y rhai ar gyfer gwaith a’r rhai ar gyfer bywyd. Nid oedd yr un yn ymwneud yn benodol
â sector amgueddfeydd y DU.
Cafodd pob fframwaith ei ddadansoddi mewn tair ffordd, sef:
Locws: deall eu cyd-destun, rhesymeg a’u cymhwysedd;
Rhesymeg: deall eu hierarchaeth, strwythur, a dyluniad ar gyfer eu defnydd; ac
Iaith: deall eu dosbarthiadau a’u disgrifiadau o sgiliau digidol.
Ymgynghori â’r sector
Ffocws One by One yw deall anghenion sgiliau a llythrennedd digidol pobl amgueddfeydd o safbwynt
unigolion. Mae hyn yn wahanol i lawer o’r ymchwil ddiweddar a welsom ynghylch sgiliau a
llythrennedd digidol amgueddfeydd sefydliadau diwylliannol eraill, sy’n tueddu i ganolbwyntio ar, neu
bwysleisio’r angen am, nodi bylchau mewn sgiliau technegol ar lefelau sectorol neu sefydliadol. Mae
hyn yn cynnwys adroddiad Culture is Digital Llywodraeth y DU (yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau
a Chwaraeon (DCMS), 2018), Tailored Review of Arts Council England y Llywodraeth (yr Adran
Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), 2017), ymchwil Digital Culture Nesta a Chyngor
Celfyddydau Lloegr (Nesta ac ACE, 2017) a’r adroddiad gan Warwick Commission on the Future of
Cultural Value (Warwick Commission 2015).
Cafodd ein hymgynghoriad â phobl amgueddfeydd yng Nghyfnod Dau ei gynnal mewn dwy ffordd sef
arolwg ar-lein a sgwrs Twitter.
3
Arolwg ar-lein
Canolbwyntiodd cwestiwn cyntaf yr arolwg yn gadarn ar ddeall anghenion sgiliau a llythrennedd
digidol, gan ofyn ‘Petaech yn recriwtio person newydd i’ch amgueddfa (mewn unrhyw rôl), beth yw’r
tri sgil neu lythrennedd digidol pennaf y byddai eu hangen arnyn nhw yn eich barn chi?’ Cafodd y
cwestiwn ei lunio yn y ffordd agored hon, gyda phwyslais ar berson newydd ac mewn unrhyw rôl, am
ein bod yn awyddus i ymatebwyr gymryd y dehongliad ehangaf y gallent o’r sgiliau a llythreneddau
digidol mae eu hangen, ac nid cael eu cyfyngu i feddwl amdanynt yng nghyd-destun prosiect neu rôl
benodol.
Gofynnodd yr ail gwestiwn ‘gan anwybyddu cyrsiau hyfforddiant ffurfiol, pa ddulliau ymarferol o
ddatblygu sgiliau a llythreneddau digidol pobl ydych chi wedi dod ar eu traws o fewn amgueddfeydd?’
Gofynnwyd hyn i gasglu awgrymiadau o ddulliau ymarferol o feithrin sgiliau a llythrennedd digidol a
allai lywio cyfnodau’r prosiect yn y dyfodol a’r allbynnau terfynol.
Casglwyd wyth a deugain o ymatebion oddi wrth unigolion a weithiai mewn amrediad o rolau a
sefydliadau ar draws y sector amgueddfeydd.3
Am restr lawn o’r ymatebion gweler https://www.keepandshare.com/doc/8237232/one-by-one-digitalliteracy-needs-consultation-xlsx-21k?da=y
3
4
Sgwrs Twitter
Cynhaliodd Culture24 sesiwn Holi ac Ateb #MuseumHour a ddigwyddodd am awr nos Lun 21 Mai
2018. Mae #MuseumHour yn fforwm poblogaidd am drafodaethau ar ystod o bynciau cyfredol ar
draws y sector amgueddfeydd. Er bod #MuseumHour ar agor i unrhyw un ymuno, yn nodweddiadol
mae’n denu cymuned fuddiant o amgylch thema benodol sy’n cael ei thrafod. Roeddem yn meddwl y
byddai hyn yn gyfle amhrisiadwy i gasglu ymatebion cymuned fuddiant o amgylch sgiliau digidol.
5
Yn unol ag egwyddorion #MuseumHour, cafodd y sesiwn ei chynllunio gyda’r bwriad o hwyluso
trafodaeth agored, gan gefnogi cyfranogwyr ar yn un pryd gydag awgrymiadau ymarferol defnyddiol
ar y pwnc dan sylw. Gan hynny cafodd ei gynnal gan Culture24 yn eu rhinwedd fel Corff Cymorth
Strategol a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Lloegr ar gyfer amgueddfeydd, a chanolbwyntiodd ar
adeiladu sgiliau a llythrennedd digidol yn fwy cyffredinol yn y sector, gan ofyn ystod eang o
gwestiynau am drafodaeth ehangach. O’r rhain, cafodd un cwestiwn ei ddylunio hefyd i ddenu
mewnwelediadau penodol ar gyfer One by One, gan ailadrodd cwestiwn cyntaf yr arolwg ar-lein.
Labordai Llythrennedd
Roedd ‘Labordai Llythrennedd’ Cyfnod Dau yn weithdai â’r nod o adlewyrchu’r wybodaeth a gasglwyd
drwy’r ymchwil desg a’r ymgynghoriad, ac i dreiddio i elfennau mynegiant o anghenion sgiliau a
llythrennedd digidol posibl pobl amgueddfeydd.
Y nod oedd cael mewnwelediadau cyfoethog, ansoddol i’r themâu perthnasol o nifer o safbwyntiau
gwahanol, bob tro gyda grŵp bach a phrofiadol o bobl sy’n gysylltiedig ag amgueddfeydd gyda
diddordeb mewn arfer digidol. Cafodd y Labordai hyn eu cynnal yn Brighton, Caeredin a Chaerdydd a
chynhwysant naw a deugain o gyfranogwyr.
6
Mae’n bwysig cofnodi yma ein diolch i bob un o gydweithwyr yn y sector a roddodd eu hamser, eu
mewnwelediad, eu profiad a’u harbenigedd mor hael i’r Labordai hyn. Rhoddodd eu cyfraniad
ddyfnder dealltwriaeth a dilysrwydd gwerthfawr at y broses hon.
Cafodd y Labordai eu cynllunio a’u harwain gan Culture24, gan ddod â’u profiad, yn enwedig drwy eu
rhaglen waith Let’s Get Real4, o gynnal gweithdai cydweithredol mewn dulliau creadigol, cyfranogol i
gasglu syniadau ar yr arfer digidol myfyriol a phrofiad unigolion o fewn sefydliadau’r celfyddydau a
threftadaeth. Cafodd pob Labordy ei ddylunio a’i gynnal yn wahanol, bob un yn adeiladu ar wersi’r un
blaenorol. Bathom ni’r term ‘Labordy Llythrennedd’ i adlewyrchu’r dull cydweithredol ac esblygol, ac i
bwysleisio bod hyn yn fwy na chyfres o grwpiau ffocws a fabwysiadodd ddulliau holi ac ymateb syml.
Dyluniwyd Labordy Brighton i archwilio ymatebion cyfranogwyr i fframweithiau sgiliau a
llythrennedd digidol presennol, yng nghyd-destun anghenion pobl amgueddfeydd.
Edrychodd Labordy Caeredin ar ddulliau i fynegi anghenion sgiliau a llythrennedd digidol gyda
mannau cychwyn a ddeilliodd o Gyfnod Un ac o Labordy Brighton.
Manteisiodd Labordy Caerdydd ar ddwy set o fewnwelediadau’r Labordai blaenorol gan
archwilio sut allwn ni bennu a threfnu fframwaith â ffocws ar amgueddfeydd.
Cafodd y cyfranogwyr eu gwahodd ar sail eu gwybodaeth, eu profiad neu eu diddordeb mewn
adeiladu sgiliau a llythrennedd digidol mewn amgueddfeydd, yn ogystal â gwybodaeth benodol o
waith a swyddogaethau un neu fwy o amgueddfeydd. Roedd llawer mewn rolau ‘digidol’ ffurfiol
mewn amgueddfeydd; ond roedd pobl mewn rolau curadur, arwain, gwasanaethau ymwelwyr a rolau
eraill yn cael eu cynrychioli hefyd. Roedd ystod eang o amgueddfeydd dan sylw, a amrywiodd o
sefydliadau bach i amgueddfeydd cenedlaethol mawr, yn ogystal â nifer o gyrff treftadaeth. Roedd
cyfranogwyr hefyd o asiantaethau a lenwai rolau cymorth digidol i amgueddfeydd, a rhai o
brifysgolion.
At ei gilydd, roedd y cyfranogwyr yn dod o sefydliadau yn lleoliad pob Labordy Llythrennedd neu’n
agos ato, felly roedd cynrychiolaeth dda o bobl o amgueddfeydd a sefydliadau Cymru a’r Alban. Er ein
bod yn awyddus i sicrhau lledaeniad rhesymol o amgueddfeydd ar sail ddaearyddiaeth, maint a math,
ni fwriadwyd i ddewis cyfranogwyr y Labordai Llythrennedd gynrychioli’r sector yn gyflawn. Byddai
hynny wedi bod yn anodd ei gyflawni, ond yn bwysicach, nod y Labordai oedd casglu dirnadaeth
ddwys, ansoddol yn hytrach na chynrychioli adborth ystadegol.
Labordy Llythrennedd Brighton
Digwyddodd Labordy Llythrennedd Brighton ddydd Iau 7 Mehefin 2018, a’i gynnal yn y Pafiliwn
Brenhinol yn Brighton.
Yr un ar bymtheg a oedd yn bresennol oedd:
-
4
Anooshka Rawden – Rheolwr Datblygu Amgueddfa, South East Museum Development
Dan Robertson – Curadur, Pafiliwn Brenhinol ac Amgueddfeydd, Brighton
Ioanna Zouli – Cynhyrchydd Prosiectau Digidol, The Photographers’ Gallery
Jenny Siung – Pennaeth Dysgu, Amgueddfa Chester Beatty
John Stack – Ditchling Digital, Grŵp Amgueddfeydd Gwyddoniaeth
Gweler: https://weareculture24.org.uk/lets-get-real/
7
-
Kati Price – Pennaeth Cyfryngau Digidol a Chyhoeddi, V&A
Kevin Bacon – Rheolwr Digidol Manager, Pafiliwn Brenhinol ac Amgueddfeydd, Brighton
Kevin Gosling – CEO, Yr Ymddiriedolaeth Gasgliadau
Kirsty Bell – Swyddog Prosiect Casgliadau Digidol, Cyngor Dinas Southampton
Krystyna Pickering – Swyddog Datblygiad Digidol, Pafiliwn Brenhinol ac Amgueddfeydd,
Brighton
Oonagh Murphy – Darlithydd, Goldsmiths, Prifysgol Llundain
Peter Pavement – CEO, Surface Impression
Rosie Cardiff – Uwch Gynhyrchydd Digidol, The Serpentine
Simon Clabby – Cydlynydd Marchnata Digidol, Mary Rose
Steph Fuller – Cyfarwyddwr, Amgueddfa Ditchling.
Edrychodd y Labordy ar ymatebion y cyfranogwyr i fframweithiau sgiliau a llythrennedd digidol
presennol, yng nghyd-destun anghenion pobl amgueddfeydd.
Cafodd y cyfranogwyr eu rhannu’n bedwar grŵp, a chafodd pob grŵp
ddau fframwaith sgiliau a llythrennedd digidol gwahanol a rôl neu
weithgaredd penodol amgueddfa (marchnata, dehongli a dysgu,
curadur neu gyfarwyddwr), yn ogystal â thri chyd-destun amgueddfa
gwahanol (bach a redir gan wirfoddolwyr, amgueddfa awdurdod lleol
ac amgueddfa genedlaethol/ranbarthol fawr).
Gofynnwyd i bob grŵp ystyried a thrafod defnyddioldeb a
pherthnasedd y fframweithiau hyn mewn perthynas â’u rôl benodol a
chyd-destunau amgueddfa, mewn cyfres o arferion strwythuredig. Yna
cyflwynodd y cyfranogwyr eu meddwl cyffredinol (a’u teimladau drwy emojis) i’r
grŵp ehangach, gan edrych ar gwestiynau penodol pob fframwaith fel ‘beth sydd ar goll?’, ‘beth sy’n
bositif?’, ‘beth sy’n negyddol?’ a ‘pha un sy’n fwy defnyddiol?’ cyn cymryd rhan yn y diwedd mewn
trafodaeth ehangach, wedi ei hwyluso, am gyfleoedd a heriau defnyddio fframweithiau sgiliau a
llythrennedd digidol i’r sector amgueddfeydd.
Labordy Llythrennedd Caeredin
Digwyddodd Labordy Llythrennedd Caeredin ddydd Iau 27 Mehefin 2018, a’i gynnal yn Amgueddfa
Genedlaethol yr Alban yng Nghaeredin. Cafodd ei fynychu gan bedwar ar bymtheg o gynrychiolwyr:
-
Chad McGitchie – Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr, Oriel Whitworth ac Amgueddfa
Manceinion
David McNeill – Cyfarwyddwr Digidol, Cyngor Cyrff Gwirfoddol yr Alban
Kathryn Smith – Pennaeth Marchnata, An Lanntair
Michelle Sweeney – Cyfarwyddwr Datblygu a Chyflenwi Creadigol, On Fife
Rob Cawston – Pennaeth Digidol, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban
Elaine MacIntyre – Rheolwr Cynnwys Cyfryngau Digidol, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban
Adam Coulson – Rheolwr Cynnyrch Digidol, Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban
Jamie Gray – Rheolwr Digidol, V&A Dundee
Tessa Quinn – Ymgynghorydd Strategaeth a Rhaglen Ddigidol, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
yr Alban
Jen Ross – Uwch Ddarlithydd – Addysg Ddigidol, Prifysgol Caeredin
David Scott – Rheolwr Digidol, Casgliad Burrell
Chris Ganley – Rheolwr Cynnwys a Dylunio Digidol, Orielau Cenedlaethol yr Alban
Lindsey Green – Cyd-sylfaenydd, Frankly Green and Webb
Beverley Donaldson – Curadur, Amgueddfa Forol yr Alban
Kirsty Earley – Coleg Brenhinol y Meddygon a’r Llawfeddygon
Kelly Forbes – Rheolwr Digidol, Amgueddfeydd ac Orielau’r Alban
8
-
Gareth Jackson-Hunt – Oriel Gelf ac Amgueddfa McManus
Julia Morrison – Swyddog Cynnwys Digidol, Amgylchedd Hanesyddol yr Alban
Sarah Younas – Cynhyrchydd Digidol, Archifau ac Amgueddfeydd Tyne & Wear
Treiddiodd Labordy Llythrennedd Caeredin yn ddwfn i elfen ‘mynegi’ ein hymchwil - sut fyddai pobl
amgueddfeydd yn disgrifio ac yn trafod eu hanghenion sgiliau a llythrennedd digidol, yn eu cyddestunau penodol iawn hwy? Pa eiriau fyddent yn eu defnyddio a pha feysydd fyddai’n cael sylw?
Roedd mannau cychwyn y Labordy hwn yn cynnwys canfyddiadau Cyfnod Un, yr ymgynghoriad
ehangach hyd yma a chanfyddiadau Labordy Brighton.
Gan weithio mewn grwpiau bach, canolbwyntiodd y cyfranogwyr ar achosion neu gyd-destunau
penodol defnydd amgueddfa (rheoli casgliadau, hybu ymwelwyr, dehongli ac adrodd straeon neu
arweinyddiaeth) a gweithio drwy ymarferion i nodi’r ystod o sgiliau a llythreneddau digidol perthnasol
y byddai eu hangen. Yna cafodd y rhain eu trafod ar draws y grŵp ehangach er mwyn nodi themâu
a/neu fylchau cyffredin. Yn olaf gofynnwyd i bob grŵp ganolbwyntio ar gyd-destun amgueddfa
gwahanol a llunio mynegiant argyhoeddiadol o sgiliau a llythrennedd digidol a allai gael eu cyflwyno i
gyfarwyddwr amgueddfa o’r fath. Yr amgueddfeydd cyd-destunol oedd:
Amgueddfa ranbarthol/genedlaethol fawr, adrannau lluosog, 300+ o staff;
Amgueddfa ganolig sydd wedi’i lleoli o fewn cyfarwyddiaeth celfyddydau a diwylliant
awdurdod lleol, gan rannu llawer o wasanaethau, 40+ o staff;
Amgueddfa annibynnol fach, 2.5+ aelod staff sy’n cael eu talu, llawer o wirfoddolwyr
gweithredol; ac
Amgueddfa wledig sy’n ymgorffori adeiladau treftadaeth, casgliad a thiroedd, 15+ o staff.
Yna cafodd y cyflwyniadau hyn eu rhoi ar brawf drwy chwarae rôl i weld y ‘mynegiant’ hwn ar waith
mewn cyd-destun ymarferol.
Labordy Llythrennedd Caerdydd
Digwyddodd Labordy Llythrennedd Caerdydd ddydd Gwener 3 Gorffennaf 2018, a chafodd ei gynnal
yn yr Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Roedd pedwar ar ddeg o gynrychiolwyr:
-
Tom Webster Deakin – Rheolwr Cynnwys Eiddo, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Canolbarth
Lloegr
Sarah Madden – Swyddog Datblygu Amgueddfa Ddigidol, De-orllewin Lloegr
Adam Koszary – Rheolwr Rhaglenni ac Arweinydd Digidol, Partneriaeth Amgueddfeydd
Reading
Zak Mensah – Pennaeth Trawsnewid, Bristol Culture
Rick Lawrence – Swyddog Cyfryngau Digidol, Amgueddfa Goffa Frenhinol Albert
Helen Adams – Arweinydd Ymgysylltu Digidol, Gardens Libraries and Museums (GLAM)
Rhydychen
Dafydd James – Pennaeth Cyfryngau Digidol a Gwasanaethau Technegol, Amgueddfa Cymru
Graham Davies – Rheolwr Rhaglenni Digidol, Amgueddfa Cymru
Katie Mortimer-Jones – Uwch Guradur, Amgueddfa Cymru
Victoria Rogers – Rheolwr Amgueddfa, Amgueddfa Stori Caerdydd a Ffederasiwn
Amgueddfeydd Cymru
Lisa Matthews-Jones – Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru
Ceri Williams – Rheolwr Dysgu ac Ymgysylltu, Oriel Ynys Môn
Dafydd Tudur – Pennaeth Adran Mynediad Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rheinallt Jones – Rheolwr Rhaglenni, Casgliad y Werin Cymru
Manteisiodd Labordy Caerdydd ar y gwersi a ddatblygwyd o’r ddau Labordy blaenorol a’r prosiect
ehangach hyd yma, gan edrych ar her mynegi sgiliau a llythreneddau digidol mewn dulliau defnyddiol,
9
strwythuredig. Edrychodd ar y gorgyffwrdd rhwng y fframweithiau llythrennedd digidol sy’n bodoli’n
barod o sectorau eraill a chyd-destunau penodol amgueddfeydd, gan feddwl am y ffyrdd y gallem
drefnu a gosod fframwaith sy’n canolbwyntio ar yr amgueddfa.
Cafodd y Labordy ei gynllunio mewn dwy ran. Yn gyntaf, gweithiodd y cyfranogwyr mewn grwpiau ar
ymarfer didoli cardiau. Cawsant nifer o gardiau, pob un yn cynnwys sgil neu lythrennedd digidol
amgueddfa gwahanol arno (a ddaeth o ymgynghoriad Cyfnod Dau a’r ymarfer taflu syniadau Labordy
Llythrennedd Caeredin). Eu tasg oedd trefnu’r cardiau gyda rhesymeg a wnaeth synnwyr iddynt hwy
ac yna esbonio hyn yn ôl i’r grŵp ehangach.
Am ail ran y Labordy, rhoddwyd cyd-destun amgueddfa gwahanol i bob cyfranogwr (yn debyg i’r rhai a
roddwyd i grŵp Caeredin) a chawsant eu herio i lunio eu modelau eu hun o anghenion sgiliau a
llythrennedd digidol ar gyfer amgueddfeydd.
Sylwch fod enwau ymatebwyr unigol a chyfranogwyr Labordai wedi eu tynnu o ddyfyniadau wrth eu
defnyddio yn yr adroddiad hwn.
10
3 Canfyddiadau
Arweiniodd ymchwil Cyfnod Dau ni at ystod o ganfyddiadau, sy’n cael eu harchwilio a’u
dadansoddi yma, a fyddai’n mynd yn eu blaen i lywio cynllun a ffocws Cyfnodau Tri a
Phedwar. Roeddent yn gymysgedd o anghenion ymarferol a gwerthoedd neu
egwyddorion sy’n llywio ymagweddau strategol.
Canfuom fod angen i ymagweddau’r sector amgueddfeydd at ddeall ac adeiladu sgiliau a
llythreneddau digidol gynnwys y rhinweddau canlynol:
Canolbwyntio ar bobl, wedi eu harwain gan anghenion unigolion yn hytrach na thechnolegau
na chymhellion allanol eraill;
Bwriadol a’u harwain gan werthoedd, yn gysylltiedig yn eglur â chenadaethau sefydliadol; a
Mireiniedig a gweddu i’r cyd-destun – gan helpu pobl i ddeall a chysylltu sgiliau â’u harfer a’u
lleoliad eu hun.
Canfuom fod angen y canlynol ar bobl amgueddfeydd:
Termau a diffiniadau clir, cyson a gydnabyddir yn eang mewn perthynas â sgiliau a
llythreneddau digidol, ond nid un rhestr benodedig yn unig;
Ymatebion sy’n strategol ac yn ymarferol – gan eu helpu i bennu blaenoriaethau a chynllunio
ac olrhain cynnydd a hyfedredd;
Cymorth wrth gydnabod ac yna creu a galluogi’r amodau mae eu hangen er mwyn i newid
sefydliadol ddigwydd a ffynnu; ac
Arweiniad, offer ac adnoddau i’w cefnogi i adeiladu eu sgiliau a llythrennedd digidol yn
effeithiol.
Edrychwn ar bob un o’r canfyddiadau hyn yn eu tro yma, gan ddechrau gyda’r rhai sy’n ymwneud ag
ymagweddau’r sector amgueddfeydd at ddeall ac adeiladu sgiliau a llythreneddau digidol.
Canolbwyntio ar bobl
Roedd yr angen i ymagwedd y sector ganolbwyntio ar bobl, wedi eu harwain gan anghenion unigolion
yn hytrach na thechnolegau na chymhellion allanol eraill yn ymhlyg yn y rhesymeg gyffredinol tu ôl i
brosiect One by One, ond daeth i’r amlwg yn benodol yn ystod trafodaethau yn Labordai
Llythrennedd y cyfnod hwn. Dilysodd canfyddiadau’r Labordai’r rhagdybiaethau roedd y prosiect wedi
eu gwneud am yr angen i ganolbwyntio ar bobl ond hefyd cododd bwysigrwydd cysylltu hyn â chyddestun anghenion sefydliadol, fel a ddangosir yn sylw’r cyfranogwr hwn:
Rwy’n poeni bod y ffocws ar yr unigolyn (er ei fod yn hanfodol) yn golygu bod y newid sefydliadol
angenrheidiol ar goll o’r darlun, ac na fydd y buddsoddiad mewn pobl yn cael effaith mor fawr
ag y gallai. Fy ofn i yw y bydd efallai’n rhyddhau’r sefydliad o’i ymrwymiad i drawsnewid digidol.
Cafodd y pryder hwn ei godi hefyd pan drafododd cyfranogwyr Labordai Llythrennedd y rhyngddibyniaeth rhwng newid sefydliadol a newid unigol – yn enwedig o ran yr amodau sefydliadol sy’n
angenrheidiol i gefnogi pobl unigol amgueddfeydd i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau a llythreneddau
digidol perthnasol.
11
Bwriadol a’u harwain gan werthoedd
Roedd yr angen i ymagwedd y sector at ddeall ac adeiladu sgiliau a llythreneddau digidol fod yn
fwriadol a’i harwain gan werthoedd, yn gysylltiedig yn eglur â chenadaethau sefydliadol, yn ymhlyg yn
yr ymagwedd gyffredinol at brosiect One by One. Yn yr un modd â’r angen am ddull a ganolbwyntiai
ar bobl, cafodd ei dilysu a’i thanlinellu drwy gydol Cyfnod Dau.
Yn Labordy Llythrennedd Brighton, arweiniodd dadansoddiad o fframweithiau sgiliau a llythrennedd
digidol presennol yng nghyd-destun gwaith amgueddfa at lawer o heriau. Yn benodol, teimlai’r
cyfranogwyr fod diffyg eglurdeb yn y mwyafrif o fframweithiau cyfredol. Teimlent hefyd fod y
fframweithiau yn brin o gysylltiad amlwg â llawer o gyd-destunau gwaith amgueddfa presennol, yn
arbennig ffocws amgueddfeydd ar gynulleidfaoedd, creadigedd ac adrodd straeon, a’u diben
cymdeithasol a sifig.
Mae’r pwynt olaf hwn yn arbennig yn bwysig. Wrth geisio mynegi anghenion sgiliau a llythrennedd
digidol yn well, mae’n hawdd canolbwyntio ar eu diben gweithredol neu fusnes – er enghraifft, sut
allai amgueddfeydd feithrin arfer arloesol neu greu modelau busnes newydd. Mae’n hanfodol cymryd
cam yn ôl ac edrych ar y darlun ehangach, gan nodi’r gwerthoedd cymdeithasol-gwleidyddoldiwylliannol penodol sy’n gyrru’r angen i ddatblygu sgiliau a llythrennedd digidol amgueddfeydd yn y
lle cyntaf.
Un o’r testunau dadansoddol allweddol mewn perthynas â datblygu fframweithiau sgiliau a
llythrennedd digidol a nodwyd gennym yn ystod yr ymchwil desg oedd ‘A Critical Review of
Frameworks for Digital Literacy: Beyond the Flashy, Flimsy and Faddish’ gan yr Athro Mark Brown
(2017) o’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ddysgu Digidol, Prifysgol Dinas Dulyn. Yma mae’n herio’r diben
sy’n gyrru llawer o’r fframweithiau hyn:
We need to ask who is shaping the current movement and for what purpose. What is missing in
the discourse? What theory and research underpins specific frameworks? Whose interests are
being served when particular frameworks are being promoted? (Brown, 2017).
Mae’n gosod her ailddychmygu sut allai sgiliau digidol gael eu defnyddio i siapio dyfodol gwell yn
hytrach na dim ond i fodloni galwadau mwy uniongyrchol economi wybodaeth heddiw:
How might we reimagine digital literacies to promote critical mindsets and active citizenry in
order to reshape our societies for new ways of living, learning and working for a better future –
for all? (Ibid.)
Mae’r her hon yn arbennig o berthnasol i’r sector amgueddfeydd. Mae amgueddfeydd wedi bod yn
sefydliadau cyhoeddus a sifig pwysig erioed, ac mae llawer o drafodaeth ddiweddar o fewn y sector yn
gofyn beth mae amgueddfeydd yn ei gynrychioli yng nghymdeithas heddiw sy’n newid mor gyflym
(Dodd, 2015; Cymdeithas yr Amgueddfeydd 2017; Latchford 2018). Mae hyn yn herio rhagdybiaethau
gan rai mai actorion niwtral yw amgueddfeydd, neu eu bod yn creu gwerth cymdeithasol dim ond
drwy fodoli. Yn hytrach, mae’r ffocws ar sut mae angen iddynt fynd ati’n amlwg i fod yn fwy bwriadol
er mwyn ymdrin ag ystyriaethau cymdeithasol allweddol.
Nid yw sgiliau a llythrennedd digidol yn gallu bodoli mewn gwacter, a chael eu gweld fel bod ar wahân
i’r drafodaeth bwysig hon am werthoedd, egwyddorion a phwrpas cymdeithasol amgueddfeydd
heddiw. Mae hyn yn arbennig o wir gan fod cymdeithas ei hun a natur problemau cymdeithasol yn
newid o ganlyniad i ddiwylliant digidol. Mae’r newid cymdeithasol yn llawer dyfnach na dim ond bod
mwy o bobl yn syrffio’r we neu’n defnyddio eu ffonau clyfar. Mae’n ymwneud â newidiadau i’n
hunaniaeth, ein llesiant, yr wybodaeth rydym yn ei defnyddio, y ddemocratiaeth rydym yn cymryd
rhan ynddi a’r rhwydweithiau a chymunedau rydym yn cysylltu â hwy.
Trwy gydol ymgynghoriad a sgyrsiau Cyfnod Dau, cafodd y materion hyn a’r ymagwedd hon eu codi
a’u trafod, ymhlith tîm y prosiect a chynghorwyr, gan ymatebwyr i’r arolwg ar-lein, ar Twitter ac
mewn Labordai Llythrennedd. Y neges glir oedd, yng ngoleuni cyd-destun cymdeithasol a sifig
12
arbennig amgueddfeydd, ei bod yn hanfodol bod unrhyw ymateb cydlynus y bydd pobl amgueddfeydd
yn ei dderbyn am adeiladu eu sgiliau digidol yr un mor fwriadol ac yn cael ei arwain gan werthoedd.
Mireiniedig a gweddu i’r cyd-destun
Yr angen i ymagwedd y sector amgueddfeydd fod yn fireiniedig a gweddu i’r cyd-destun – gan helpu
pobl i ddeall a chysylltu sgiliau â’u harfer a’u lleoliad eu hun.
Mae un ystyriaeth a ddaeth o Gyfnod Dau’r ymchwil hon, yn enwedig drwy’r Labordai Llythrennedd,
yn ymwneud â’r amrywiaeth anferth o gyd-destunau amgueddfa, yn arbennig o ran math, maint,
strwythur, pwrpas ac adnoddau. Mae gan bob un o’r rhain anghenion penodol o ran adeiladu sgiliau a
llythrennedd digidol. Mae’n amhosibl rhestru’r holl gyd-destunau gwahanol hyn, ond mae’n bwysig
rhoi dulliau i bobl amgueddfeydd ddeall beth allai’r cyd-destunau ei olygu iddynt hwy.
Wrth herio cyfranogwyr y Labordai Llythrennedd i roi eu hawgrymiadau am fodelau sgiliau a
llythrennedd digidol posibl ar gyfer pobl amgueddfeydd, roeddent yn cydnabod anhawster a
phwysigrwydd aros yn berthnasol i’r ystod eang o gyd-destunau gwahanol.
Profodd y dasg hon ba mor galed byddai’n rhaid i unrhyw fframwaith llythrennedd digidol
weithio. Roedd ein tîm yn glir iawn, ar gyfer amgueddfa fach prin ei hadnoddau, sy’n dibynnu ar
wirfoddolwyr, bod angen i’r buddion ymarferol o ran ennill arian, arbed amser neu nifer yr
ymwelwyr sy’n dod drwy’r drws fod ar y blaen. Gallai amgueddfeydd eraill â mwy o gapasiti
ganolbwyntio ar strategaeth fwaol.
Mae rhai pethau digidol dim ond yn ffordd arall o wneud busnes craidd, gallai eraill fod yn
gyfleoedd cwbl newydd ac yn fwy aflonyddol (mewn ffordd dda neu ffordd ddrwg!). Mae angen i
unrhyw fframwaith ddod o hyd i ffordd o gwmpasu’r ddau.
Mae creu rhywbeth sy’n addas i bawb yn anodd iawn achos yr ystod o rolau am dâl a di-dâl
mewn amgueddfeydd ynghyd â’r cyfyngiadau ar adnoddau ac amser. Hefyd, heb gyfranogiad y
rheolwyr mae’n bosib na fydd dim yn digwydd. Efallai bod angen i unrhyw fframwaith weithio
o’r gwaelod i fyny ac o’r pen i lawr ynghyd â dull modiwlaidd. Er enghraifft, gallai ateb ar sail
rolau a thasgau ddechrau gydag opsiynau fel ‘Rwy’n arweinydd tîm’, ‘Rwy’n wirfoddolwr’, ‘Mae
f’amser i’n gyfyngedig’, ‘Rwyf eisiau hybu f’amgueddfa’, ‘Rwyf eisiau creu cynllun sgiliau
digidol’.
Mae angen map lle gall pobl leoli eu hunain a thaflunio eu cyd-destun eu hun i mewn i’r
fframwaith.
Gallai fod yn ddefnyddiol creu fframwaith canllawiau. ‘Does dim amser gan amgueddfeydd llai o
faint ysgrifennu strategaeth am eu hamgueddfa, ond maen nhw’n gallu dilyn strategaeth arfer
gorau. Mater o bersbectif ydy hi.
Mae’n amlwg na all unrhyw fframwaith sgiliau a llythrennedd digidol posibl i amgueddfeydd ddim ond
rhestru’r cyd-destunau gwahanol hyn, gan fod llawer gormod ohonynt. Ond mae’n rhaid iddo fod yn
ddigon dynamig i ymateb i’r cyd-destunau hyn, drwy helpu pobl amgueddfeydd i’w deall yn well.
Mae’r ymchwil desg ynghylch fframweithiau sgiliau a llythrennedd digidol yn ategu hyn, gan nodi
angen i gydnabod a tharo cydbwysedd priodol rhwng fframweithiau cyffredinol a natur hynod
benodol a chyd-destunol sgiliau a llythrennedd digidol yng nghyd-destunau amgueddfeydd.
Roedd yr ail set hon o ganfyddiadau yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag anghenion unigolion –
argymhellion ymarferol a gafodd eu hailadrodd ar draws pob un o dair elfen yr ymchwil: yr ymchwil
desg, yr ymgynghori a’r Labordai Llythrennedd.
Eglurdeb a chysondeb
Canfu Cyfnod Dau fod ar bobl amgueddfeydd angen Termau a diffiniadau clir, cyson a gydnabyddir yn
eang mewn perthynas â sgiliau a llythreneddau digidol, ond nid un rhestr benodedig yn unig.
13
Roedd llawer o gefnogaeth ar draws y Labordai Llythrennedd am ddulliau gwell o ddatblygu
dealltwriaeth gyffredin o derminoleg ynghylch sgiliau a llythrennedd digidol, fel a welir yn y sylw hwn:
Rhwystredigaeth bersonol i mi yw pryd bynnag rwy’n sôn am sgiliau digidol mae llawer o bobl
yn cymryd yn ganiataol fy mod i ond yn sôn am gyfryngau cymdeithasol. Byddai’r gallu i gyfeirio
at ddiffiniad o dermau, sgiliau ac arfer gorau ledled y sector i weithio tuag ato yn arbed llawer o
amser i ni i gyd.
Her diffinio’r set hon o dermau sydd wrth galon deall ac adeiladu sgiliau a llythreneddau digidol. Am
hynny, dyma’r adran hwyaf yn y drafodaeth hon o’r canfyddiadau. Daeth dryswch i’r amlwg ynghylch
beth ddylai’r termau hynny fod yn ogystal ag a allai a/neu a ddylai un dacsonomeg neu restr sengl
gwmpasu’r parth digidol sy’n newid ar garlam.
Achos rhywfaint o’r dryswch hwn yw’r ystod eang o derminoleg gyfredol mewn perthynas â sgiliau.
Mae’r darn meddwl gan Bridget McKenzie (2018), a gomisiynwyd fel rhan o Brosiect One by One
mewn ymateb i’r her hon, yn edrych ar y gwahaniaethau cynnil rhwng termau fel ‘llythrennedd’,
‘cymhwysedd’ a ‘gallu’. Mae’n amlygu’r ffaith bod angen i ddefnydd Prosiect One by One o’r termau
hyn, yn arbennig mewn unrhyw allbynnau yn y pen draw fel fframweithiau a/neu adnoddau, fod yn
ofalus, yn feirniadol ac yn eglur.
Amlygodd y Labordai Llythrennedd hefyd bwysigrwydd diffinio’r hyn a olygir gan ‘digidol’, yn nhermau
sut mae pobl amgueddfeydd yn ei ddeall yn eu cyd-destun hwy ac am fod angen i unrhyw
fframweithiau neu fynegiannau eraill sy’n deillio o’r prosiect fod yr un mor ofalus, beirniadol ac eglur
ynghylch terminoleg.
Yn yr arolwg ymgynghori a’r Labordai Llythrennedd cafodd ystod eang o dermau eu hawgrymu i
ddisgrifio’r ystod o sgiliau a llythreneddau digidol mae eu hangen ar bobl amgueddfeydd.
Enghraifft o drydar yn ystod trafodaeth #MuseumHour
14
Tanio syniadau am sgiliau a llythreneddau yn Labordy Llythrennedd Caeredin ©Culture24
15
Mae’r awgrymiadau’n cael eu rhestru’n llawn yma am eu bod yn dangos cystal graddfa’r her wrth law.
-
Defnyddio rhaglenni Microsoft Office
Defnyddio cronfeydd data
Sganio
Sgiliau codio sylfaenol
Sgiliau meddalwedd ffotograffiaeth a golygu digidol
Defnyddio Systemau Rheoli Casgliadau
Gallu i reoli a golygu gwefannau
Ymwybyddiaeth o hawlfraint ac eiddo deallusol
Ymwybyddiaeth o GDPR
Gwybodaeth am ddyluniadau a ffeithluniau
Gallu i ysgrifennu/creu cynnwys ar gyfer gwahanol blatfformau
Gwybodaeth o wahanol sianeli cyfryngau cymdeithasol a phryd/sut i’w defnyddio’n effeithiol
Sgiliau teipio
Gallu i ddefnyddio Google yn briodol
Gweithio gydag offer cyfathrebu/cydweithredu – Slack, Trello, Google Docs
Dadansoddi data
Defnyddio meddalwedd dadansoddeg
Rheoli gwybodaeth
Gallu i ddod o hyd i wybodaeth o ffynonellau digidol
Sgiliau adrodd straeon digidol/gweledol
Defnyddio e-bost yn effeithiol
Gallu i reoli prosiectau gan dechnolegwyr/asiantaethau digidol
Deall cyllidebau cynhyrchu digidol
Ysgrifennu dogfen briff/tendr dechnegol
Rhoi mandad i’ch staff fynd ar drywydd opsiynau digidol
Rheoli systemau digidol presennol
Empathi
Cydnerthedd
Cyfathrebu
Gallu dadansoddol
Sgiliau datrys problemau
Rheoli newid
Dymuniad i wella pethau
Deallusrwydd emosiynol
Hyblygrwydd
Bod yn ymatebol
Chwilfrydedd
Bod yn agored
Llythrennedd Emosiynol – gallu i drafod, cysylltu, gofyn cwestiynau, cyfryngu deialog
Blogio
Defnyddio iaith a thermau’n eglur
Deall materion mewn perthynas â hunaniaeth a phersonoliaeth ddigidol
Moeseg a moesau digidol
Gallu i uniaethu ar-lein
Deall sut mae symud gwybodaeth o gwmpas yn ddigidol
Diddordeb mewn rhyngweithio gan ddefnyddwyr mewn technoleg ddigidol
Peidio â gweld digidol fel rhywbeth ar wahân
Gwybod pryd nad digidol yw’r ateb cywir
Gwybod beth yw’ch rhwystrau yn fewnol
Deall beth sydd allan yno o ran AR a VR a gwybod beth sy’n ddefnyddiol
16
-
Dylunio profiad defnyddwyr, straeon defnyddwyr a dylunio digidol
Deall gwahanol ddyfeisiau/platfformau a’u defnyddiau a chyfyngiadau – rhaid bod yn gyfredol
Deall data strwythuredig
Gwybodaeth o gadwraeth ddigidol
Adrodd straeon gyda gwrthrychau a’r tu hwnt iddynt
Gwerthuso effaith ‘digidol’
Peidio â mynd i lawr y gwningar a dilyn y dorf
Gwybod sut i ddatblygu strategaeth gynnwys
Deall SEO (Optimeiddio Peiriant Chwilio)
Cydweithredu â chydweithwyr
Cynnal archwiliadau o gynnwys digidol
Mapio asedau digidol
Defnyddio newyddlenni e-bost yn effeithiol
Ymchwilio i anghenion cynulleidfaoedd
Profi ymhlith defnyddwyr
Chwalu ‘ofnau digidol’
Eiriol dros ddigidol yn fewnol
Ymwybyddiaeth o’r arfer gorau digidol diweddaraf
Meddwl beirniadol
Gweithio ystwyth
Defnyddio egwyddorion dylunio sy’n seiliedig ar bobl
Rheoli cymhlethdod
Deall rheolau, moeseg a chonfensiynau platfformau digidol
Ymwybyddiaeth o effaith technolegau digidol ar gymdeithas
Wrth ddarllen drwy’r rhain, mae’n amlwg mai rhestr eang yw hon, nid yn unig o ran ei graddfa ond
hefyd y mathau o sgiliau a llythreneddau sy’n cael eu henwi. Yn Labordy Llythrennedd Caerdydd
ceisiom drefnu’r awgrymiadau hynny yn rhyw fath o deipoleg. Cafodd sawl dosbarthiad eu hawgrymu,
a restrir yma gydag enghreifftiau darluniadol:
Disgrifiadol
-
Sgiliau technegol
Galluoedd cyffredinol i ddefnyddio technoleg
Rheoli systemau a phrosesau
Sgiliau ‘meddal’
Deall diwylliant digidol tu mewn a’r tu allan i’r amgueddfa
Cysylltiedig â nodweddion sefydliadol gwahanol
-
Egwyddorion sefydliadol
Systemau
Cydymffurfiaeth
Bod yn gyflogai ‘da’
Defnyddwyr a chynulleidfaoedd
Cysylltiedig â swyddogaethau/timau gwahanol amgueddfa
-
Cyfathrebu a marchnata
Creu cynnwys
Strategaeth a chynllunio
Dehongli
17
Mathau o alluoedd
-
Hyfedreddau
Galluoedd
Cymwyseddau
Sgiliau
Ffocws
-
Generig i bob rôl
Penodol i ychydig o rolau
Hierarchaidd
-
Dewisol
Hanfodol
Nid rhestr gyflawn yw hon - gallai dosbarthiadau eraill gael eu nodi yn ôl y cyd-destun penodol neu’r
person sy’n gwneud y trefnu. Mae ymagwedd o’r fath yn cynnwys proses o flaenoriaethu, mireinio a
dethol goddrychol. Cafodd proses debyg ei dilyn mewn ymchwil a gynhaliwyd i mewn i sgiliau a
llythreneddau digidol gweithwyr proffesiynol amgueddfeydd yr Unol Daleithiau yn 2017. Cafodd ei
chynnal gan Greg Albers, Rheolwr Cyhoeddiadau Digidol yn Ymddiriedolaeth J. Paul Getty, a Kathryn
Cody, Rheolwr Technolegau Addysgol TG; Rheolwr Prosiect - Getty Digital.5 Gofynnant gwestiwn sengl
i’r dechnoleg amgueddfeydd a threftadaeth ddiwylliannol sef:
Pa sgiliau a llythreneddau digidol allweddol a ddylai ffurfio geirfa gyffredin ymhlith ein staff ar
bob lefel – gan gynnwys arbenigwyr casgliadau, cynhyrchwyr a datblygwyr cynnwys, ac
arweinwyr – er mwyn gyrru trawsnewid digidol y ein sefydliadau?
Cawsant tua hanner cant o ymatebion ac o’r rheiny gwnaethant drefnu’r atebion yn y pynciau
disgrifiadol eang canlynol:
-
Medwl Beirniadol yn Wyneb Newid Di-baid
Cyfathrebu â’n Cynulleidfaoedd
Cyfathrebu â’n Gilydd
Creu, Trin a Rheoli Delweddau Digidol
Hawlfraint, Trwyddedu a Ffynhonnell Agored
Cronfeydd Data
Rheoli Data
Systemau Gwybodaeth mewn Amgueddfeydd
Hanfodion Digidol Fundamentals, neu Dechnoleg Bob Dydd
Eiriolaeth Ddigidol, neu Dechnoleg i Bawb
Datblygiad â Ffocws ar Ganlyniadau a Defnyddwyr
Methodoleg Ystwyth a Rheoli Prosiectau
Profiad Defnyddwyr
5
Am ragor o wybodaeth gweler:
https://conference.mcn.edu/2017/profile.cfm?profile_name=session&master_key=5193C026-B444-5361-28EA227265AC2C5F&xdetail&xtemplate ac
https://docs.google.com/document/d/1Y4LznMWPR_VPYbcR5t92vTOxit2mHyS9qIbMhlrGR1I/edit#heading=h.lf
0qu0twfk8z
18
-
Gwe
Yn dilyn hyn, cynhaliant sesiwn yng Nghynhadledd MCN (Museum Computer Network) 2017 i drafod a
mireinio’r dosbarthiadau hyn ymhellach. Eu nod oedd sefydlu hierarchaeth o themâu, gan geisio
nodi’r rhai a ystyriwyd yn fwyaf perthnasol i’r cynrychiolwyr yn y sesiwn.
Arweiniodd y broses hon at chwe thema allweddol, a nodir isod ac a fanylir yn y ddelwedd gysylltiedig,
‘A summary of takeaways drom MCN2017 Session, Musetech 2017: An Ideal Syllabus’:
-
Rheoli data
Dull ystwyth o reoli
Addasu i newid
Cyfathrebu
Eiriolaeth ddigidol
Ffocws ar ddefnyddwyr
Yng ngoleuni bwriad Prosiect One by One i feithrin hyder digidol holl bobl amgueddfeydd, mewn
unrhyw rôl ac ar bob lefel, sy’n gweithio yn amgueddfeydd y DU o unrhyw faint ac unrhyw fath, mae’n
llai priodol dilyn y broses flaenoriaethu a ddilynodd MCN, yr oedd ganddi uchelgais mwy detholus a
phenodol.
Mae canfyddiadau Cyfnod Dau yn tanlinellu na fyddai o fudd pennu’n rhy benodol y math o sgiliau,
llythreneddau a hyfedreddau digidol sy’n ofynnol mewn un rhestr neu safon sengl at ddibenion One
by One. Mae pob un yn ymddangos yn berthnasol, yn dibynnu ar y cyd-destunau. Mae proses o
flaenoriaethu, mireinio a dethol yn oddrychol, yn dibynnu ar y ffaith bod rhai cyd-destunau’n cael eu
hystyried yn fwy perthnasol na’i gilydd. Yn hytrach, fel a nodwyd eisoes, mae angen cymorth ar bobl
amgueddfeydd i wneud synwyr o’u cyd-destunau proffesiynol unigol penodol cyn pennu’r math o
sgiliau digidol mae arnynt eu hangen i weddu i’r cyd-destun hwnnw. Mae’r ymagwedd hon yn cael ei
chefnogi ymhellach wrth ystyried natur gyd-destunol ac esblygol gyson technolegau digidol.
Ymatebion strategol ac ymarferol
Tanlinellodd ymchwil Cyfnod Dau hefyd y ffaith bod ar bobl amgueddfeydd angen ymatebion sy’n
strategol ac yn ymarferol gan eu helpu i bennu blaenoriaethau a chynllunio ac olrhain cynnydd a
hyfedredd.
At ei gilydd, nod yr holl fframweithiau sgiliau a llythrennedd digidol a adolygwyd yn yr ymchwil desg
oedd helpu defnyddwyr gydag o leiaf un o dri amcan mewn perthynas â datblygiad sgiliau digidol, sef:
Darparu disgrifiad neu gategoreiddiad o sgiliau a llythreneddau digidol;
Amlygu ac ymdrin â blaenoriaethau sectorol neu sefydliadol strategol penodol; a
Chynllunio ac olrhain hyfedredd unigol.
O’u hystyried yng nghyd-destun amgueddfeydd trwy gydol Cyfnod Dau, roedd adborth clir bod ar bobl
amgueddfeydd angen cymorth gyda phob un o’r tri maes hyn.
O ran cymorth strategol, ail amcan y pwyntiau bwled uchod, roedd cryn drafodaeth am her ‘newid
digidol’ strategol mae’r sector amgueddfeydd yn ei hwynebu a phwysigrwydd helpu pobl
amgueddfeydd i ymdrin â hyn yn strategol. Mynegodd y cyfranogwyr eu gobaith y byddai unrhyw
allbynnau’r prosiect hwn yn helpu pobl amgueddfeydd yn hyn o beth.
Bydd yn rhaid i bob amgueddfa ddod i delerau â llythrennedd digidol. Yn anffodus, ni fydd hyn
yn digwydd yn wyneb un digwyddiad treisgar y mae modd delio ag ef yn benderfynol. Yn
hytrach, bydd yn ddirywiad araf mewn perthnasedd a chynaladwyedd sy’n mynnu ymateb
strategol a thrylwyr. Fodd bynnag, nid peth hawdd yw ymdopi â llythrennedd digidol. Ar lefel
ymarfer iawn, mae llawer o bobl sydd yn syml ddim yn gwybod ble i ddechrau neu, yn waeth,
19
ddim yn gweld yr angen i ymdopi â’r mater o gwbl. Fy ngobaith i yw y bydd One By One yn
cynnig glasbrint i gyrff sydd ar ddechrau eu trawsnewidiadau digidol, a dyheadau i’r rhai sydd
ymhellach ar hyn y ffordd.
Faswn i’n ailadrodd bod y gwaith hwn yn bwysig iawn. Allwn ni ddim barhau i gylchu o gwmpas
syniad ffetishistaidd o ddigidol sydd yn y pen draw yn cefnogi diwylliant arbenigol
anghynaliadwy.
Os yw’n gallu helpu amgueddfeydd (a sefydliadau eraill) mewn rhyw fodd i ymdrin â’r agwedd
'nid rhywbeth i mi yw digidol' mewn ffordd gadarnhaol (yn lle dim ond gorfodi pobl i ddefnyddio
platfformau/technoleg nad ydyn nhw’n gyfarwydd ag ef) bydd hynny’n gam ENFAWR ymlaen.
Dylai fframwaith fod yn rhywbeth sy’n ysbrydoli ac yn eiriol – yn ogystal â darparu cynnwys.
Er i lawer o drafod ganolbwyntio ar helpu pobl amgueddfeydd i arwain blaenoriaethau strategol eu
hamgueddfa ym maes newid digidol, canolbwyntiodd bron yr holl gyfranogwyr a heriwyd i feddwl am
fodelau sgiliau a llythrennedd digidol posibl i bobl amgueddfeydd ar gynhyrchu modelau seiliedig ar
‘sut i’ a gefnogodd senarios cyflenwi ymarferol. Roedd y mwyafrif o’r rhain yn troi o gwmpas dulliau o
helpu unigolion i gynllunio ac olrhain hyfedredd mewn sgiliau a llythrennedd digidol, a gyflwynir yn
gylchol gan ymgorffori camau gwerthuso ac adolygu cyson.
Roedd cydnabyddiaeth hefyd y gallai’r angen i siapio cyfeiriad strategol o amgylch sgiliau a
llythrennedd digidol a’r angen i gynllunio ac olrhain hyfedredd unigol o ran sgiliau a llythrennedd
digidol weithio gyda’i gilydd, ac y dylai fod felly.
Rwy’n credu y byddai’n ddefnyddiol cael fframwaith strategol sy’n gallu cael ei addasu ar gyfer
staff a gwirfoddolwyr amgueddfa i ddeall eu hanghenion datblygu eu hun, ond sydd hefyd yn
gweithredu’n safon genedlaethol (ac felly’n ddefnyddiol yn wleidyddol).
Creu amodau am newid
Canfu Cyfnod Dau fod ar bobl amgueddfeydd angen cymorth wrth gydnabod ac yna creu a galluogi’r
amodau mae eu hangen er mwyn i newid sefydliadol ddigwydd a ffynnu.
Trwy bob un o’r Labordai Llythrennedd, ond yn arbennig yn nigwyddiad Caeredin, pwysleisiodd
cyfranogwyr y ffaith na allai unrhyw ddatlbygiad llwyddiannus a defnydd sgiliau a llythrennedd digidol
i bobl amgueddfeydd ddigwydd heb i amrywiol amodau sefydliadol fod yn eu lle.
Roedd trafodaeth am bwysigrwydd cael adnoddau, prosesau ac isadeiledd technegol priodol, ond
ffocws pennaf y drafodaeth o bell ffordd oedd pwysigrwydd arweinyddiaeth effeithiol a chefnogol
mewn amgueddfeydd i greu’r diwylliant mewnol cywir ar gyfer adeiladu sgiliau a llythrennedd digidol
yn gadarnhol; er enghraifft, arwyddocad a gwerth rhoi mandad i bobl ddilyn eu datblygiad digidol.
Roedd trafodaeth hefyd am roi’r lle i bobl gael sgwrs agored ac onest am heriau derbyn arfer digidol
gan gynnwys gallu gadael i’w rhagfarn bosibl yn erbyn ‘digidol’ fynd.
Amlygwyd pwysigrwydd asiantau newid hefyd, gyda barn y gallai pobl mewn unrhyw rôl ar draws
sefydliad, beth bynnag yr hierarchaethau ffurfiol, ddangos arweinyddiaeth ddigidol dda.
Yn aml mae’n rhaid i amgueddfeydd ddibynnu ar berson neu grŵp bach i fod yn asiantau newid
wrth ymdrin â sgiliau, meddylfryd a systemau digidol – boed hynny oddi isod, gan reolwyr neu
gan Fyrddau. Er mwyn i’r asiantau newid hynny lwyddo, mae angen iddyn nhw fynegi’r heriau, y
manteision a’r ffordd ymlaen.
Nodwyd pobl sy’n ‘gysylltwyr’ neu’n ‘gyfieithwyr’ da rhwng timau, naill ai oherwydd eu rôl ffurfiol neu
eu gallu, fel bod yn asiantau newid arbennig o ddefnyddiol.
Cyflwynwyd nifer o awgrymiadau am ddulliau i bobl amgueddfeydd eiriol i’r arweinwyr am y gwaith
adeiladu capasiti digidol angenrheidiol. Soniodd rhai am y dulliau y gall adeiladu capasiti digidol greu
20
gwerth a phwysleisiodd rhai fanteision posibl cost ac amser is, wrth i eraill ganolbwyntio ar amlygu
rhwystrau a pheryglon presennol peidio â chroesawu adeiladu capasiti digidol. Er enghraifft:
Codwyd pwynt da yn y drafodaeth sef bod pobl yn gweld gwaith digidol fel bod yn llai pwysig
nag unrhyw waith arall, a dyna’r rhwystr pennaf i lwyddiant yn fy marn i, yn enwedig pan fydd
yn gwneud i’r bobl sy’n gyfrifol am wneud y gwaith deimlo’n euog am wneud eu swyddi yn
hytrach na gwaith i bobl eraill.
Rwy’n credu y bydd y syniad o gynaladwyedd yn allweddol i ddelio â’r gwrthwynebiad anochel
'pam boddran?' Mewn llawer o sefydliadau mae digidol wedi disodli dull blaenorol o weithio. Ym
maes diwylliant, mae’n ymddangos ei fod yn atodiad yn unig - parhawn â’r hen ffordd A gwneud
digidol (yn arbennig o ran y casgliadau). Nid yw’n bosib cynnal hyn felly sut mae treiddio i
wraidd hyn?
Roeddem ni’n teimlo mai hyrwyddo ymwelwyr ag adeiladau a digwyddiadau sydd wrth galon yr
her i’r profiad digidol. Mae’n ymwneud â dod â phopeth ynghyd mewn modd holistig – a hynny
ar-lein ac all-lein felly mae’r ddau brofiad yn y fantol.
Cymorth, offer ac adnoddau ymarferol
Canfu Cyfnod Dau fod ar bobl amgueddfeydd angen syniadau, offer ac adnoddau ymarferol er mwyn
adeiladu eu sgiliau digidol yn effeithiol.
Pwysleisiodd cyfranogwyr y Labordai Llythrennedd bwysigrwydd pobl amgueddfeydd yn derbyn
cymorth a chyngor ymarferol ynghylch datblygu a defnyddio eu sgiliau a llythrennedd digidol a allai eu
cefnogi mewn ystod o ddulliau fel datblygiad proffesiynol parhaus, gwerthuso rolau presennol, siapio
rhai newydd ac eiriol am werth i arweinwyr a chydweithwyr.
Mae’n bwysig y bydd gan y prosiect ganlyniad pendant sy’n gallu cael ei gymhwyso’n ymarferol.
Dangoswyd hyn hefyd gan natur ymarferol ‘sut i’ am fodelau (ar gyfer delio â sgiliau a llythrennedd
digidol) a gafodd eu generadu gan rai o gyfranogwyr y Labordai Llythrennedd.
21
4 Allbynnau a’r camau nesaf
Helpodd ymchwil Cyfnod Dau i ni ddeall a mynegi anghenion pobl amgueddfeydd a
sector amgueddfeydd y DU o ran sgiliau a llythrennedd digidol. Yn adran hon yr
adroddiad rhannwn ganlyniadau’r gwaith hwnnw – yr allbynnau a ddyluniwyd i lywio a
siapio’r gweithgarwch ymchwil yng Nghyfnodau Tri6 a Phedwar.7
Wrth i ni ddechrau ymchwil Cyfnod Dau roeddem wedi dychmygu y byddem yn barod i gynhyrchu
model neu fframwaith drafft erbyn diwedd y Cyfnod. Fodd bynnag, wrth i’r ymchwil fynd yn ei blaen,
daeth yn eglur ei bod yn rhy gynnar ym mhrosiect cyffredinol One by One i gynnig fframwaith manwl,
hyd yn oed ar ffurf ddrafft.
Yn hytrach, mae ein hallbynnau’n creu ‘glasbrint’ â phedair elfen – Egwyddorion, Nodweddion, Cyddestunau a Chamau Gweithredu – sy’n deillio o’r ymchwil a y bwriedir iddynt lywio ac ategu unrhyw
waith model neu fframwaith yn y dyfodol.
Yr Egwyddorion a Nodweddion sy’n ffurfio sylfeini’n hymagwedd arfaethedig. Maent yn canolbwyntio
ar pam dylai unrhyw fframwaith ar gyfer sgiliau a llythrennedd digidol i bobl amgueddfeydd fodoli,
beth ddylai geisio ei wneud a sut allai gael ei adeiladu. Nod y Cyd-destunau arfaethedig yw helpu
unigolyn i wneud synnwyr o’i sefyllfa bresennol a’i anghenion o ran sgiliau a llythreneddau digidol, tra
bod Camau Gweithredu yn eu helpu i wneud rhywbeth amdano.
Roedd fframweithiau llythrennedd a sgiliau digidol eraill a astudiom, fel a drafodir ymhellach drwy
Labordy Llythrennedd Brighton (gweler Adran 3), yn tueddu i fod yn brin o atblygwch beirniadol o ran
eu rhesymau dros fodoli, y dulliau a ddewisant a’u huchelgeisiau; roeddem yn awyddus i fynd ati’n
wahanol.
Egwyddorion
Yr egwyddorion arfaethedig sy’n sail i unrhyw fframwaith sgiliau a llythrennedd digidol i
amgueddfeydd yw:
6
7
Mae’n unigol – yn canolbwyntio ar bobl, nid ar y sefydliad na thechnoleg. Ar yr un pryd mae
angen iddo allu addasu ei raddfa a bod yn hyblyg er mwyn sicrhau y gall buddion grychdonni allan
o’r unigolyn i’r sector ehangach a’r tu hwnt.
Mae’n fwriadol ac yn cael ei arwain gan werthoedd – yn eglur am werth meithrin sgiliau a
llythrennedd digidol i bobl amgueddfeydd, eu hamgueddfeydd a’u cynulleidfaoedd, y cyhoedd a
chymdeithas ehangach, ac yn gysylltiedig bob amser â gwerthoedd a chenhadaeth y sefydliad.
Mae’n ddynamig – yn ymatebol, yn esblygol ac yn ei briod le, gyda’r hyblygrwydd i weddu i
amrywiaeth anferth y cyd-destunau o fewn y sector amgueddfeydd.
Gweler Crynodeb Cyfnod Tri, https://one-by-one.uk/2018/03/18/phase-3-summary/
Gweler Crynodeb Cyfnod Pedwar, https://one-by-one.uk/2018/03/17/phase-4-summary/
22
Mae’n weithredol – gan alluogi unrhyw unigolyn i gymryd camau cadarnhaol i greu newid.
Nodweddion
Mae’r nodweddion arfaethedig yn disgrifio sut yn rhesymegol y gallai fframwaith gael ei gyfeiriadu a’i
ddefnyddio:
Ni fydd yn rhestr sengl, sefydlog o sgiliau neu lythreneddau digidol.
Bydd yn amlbwrpas, gan geisio gwneud y tri pheth hyn:
-
Bydd yn holistig, gan geisio disgrifio sgiliau neu lythreneddau digidol ar gyfer
amgueddfeydd.
Bydd yn strategol, gan weithio tuag at set ddetholus, fwriadol a strategol o flaenoriaethau
ar gyfer y sector.
Bydd yn ddatblygiadol, gan gefnogi taith unigolyn tuag at hyfedredd digidol, drwy roi
iddo’r offer i fapio ei gynnydd.
Cyd-destunau
Amlygodd ymchwil Cyfnod Dau fod angen i bobl amgueddfeydd ddeall y cyd-destunau penodol y mae
eu sgiliau a llythreneddau digidol yn gweithredu ynddynt er mwyn pennu pa sgiliau a llythreneddau
digidol sydd ganddynt neu mae eu hangen arnynt. Rhaid i unrhyw fframwaith sgiliau a llythrennedd
digidol arfaethedig eu cefnogi yn hyn o beth. Er ei bod yn amhosibl i unrhyw fframwaith restru’r holl
wahanol gyd-destunau posibl, daeth tri model defnyddiol i’r amlwg o’n gwaith cwmpasu a’n
hymchwil. Maent yn ymwneud â Sgiliau, Gweithgarwch a Safbwyntiau.
Cafodd pob un o’r tri model eu dyfeisio gyda’r unigolyn wrth ei graidd. Ar yr adeg hon nid ydym yn
cynnig unrhyw ddull penodol o’u defnyddio. Cânt eu profi ymhellach drwy weddill y prosiect. Edrychir
ar bob un yn ei dro isod.
23
Fy Sgiliau Digidol
Mae’r model hwn yn canolbwyntio ar y sgil penodol sy’n cael ei ddefnyddio i ddilyn gweithgaredd
digidol penodol, o fewn cyd-destun penodol. Mae’n ymdrin â’r heriau a godir am derminoleg sgiliau, a
drafodir ymhellach drwy ddarn procio meddwl Bridget McKenzie a gafodd ei gomisiynu.
Mae’r ymagwedd hon yn bwriadu helpu unigolyn i adnabod a disgrifio’r math o sgil maent efallai’n ei
ddefnyddio i gefnogi gweithgaredd digidol. Mae’n cynnig gwahaniaethau rhwng ‘cymhwysedd’, ‘gallu’
a ‘llythrennedd’.
Mae cymhwysedd yn canolbwyntio ar weithred ddigidol benodol, gyda phwyslais ar ddefnydd offeryn
neu system. Er enghraifft, gallai cymhwysedd fod gwybod sut mae defnyddio Twitter - yn llythrennol
sut i greu proffil, trydar, ail-drydar, dilyn, olrhain argraffiadau ac yn y blaen.
Mae gallu yn canolbwyntio ar dasg benodol y mae cymhwysedd penodol yn cael ei ddefnyddio arni.
Mae hyn yn llawer mwy cyd-destunol gyda phwyslais cryfach ar gyflawni. Gallu cysylltiedig ar gyfer y
cymhwysedd Twitter a ddisgrifir uchod fyddai deall y dulliau mwyaf cynhyrchiol o ddefnyddio Twitter i
godi proffil eich amgueddfa.
Mae llythrennedd, mewn cyferbyniad, yn fwy ymatblyg, am ddulliau unigolion o ystyried digidol yn eu
cyd-destunau. Yn dilyn yr enghreifftiau cynharach, y llythrennedd perthnasol yn yr achos hwn efallai
fyddai un sy’n cydnabod dulliau ymddwyn, arfer gorau ymhlith amgueddfeydd ar draws Twitter a
chyfryngau cymdeithasol ehangach.
24
Fy Ngweithgarwch Digidol
Mae’r model hwn yn canolbwyntio'n uniongyrchol ar ddeall cydrannau digidol gweithgarwch
unigolyn. Mae’n ymdrin ag angen pobl amgueddfeydd i ddiffinio ‘digidol’, a amlygwyd gan y Labordai
Llythrennedd. Drwy ganolbwyntio ar y term ‘gweithgarwch digidol’, mae’r model hwn yn pwysleisio
pwysigrwydd unigolyn yn diffinio eu perthynas weithredol â digidol, boed fel technoleg, cynnwys,
system, diwylliant neu gynnyrch, yn hytrach na gorfod diffinio ‘digidol’ ei hun yn benodol.
Mae ein model ni’n pennu pedwar ‘lens’ y gallai unigolyn ystyried eu gweithgareddau digidol
drwyddynt.
Sut rwy’n defnyddio digidol
Mae hyn yn cyfeirio at ddefnydd unigolyn o arfer digidol, platfformau neu dechnolegau arbennig, er
enghraifft defnyddio meddalwedd Microsoft Office, tynnu a golygu delweddau digidol, neu
ddefnyddio Twitter neu system rheoli casgliadau.
Sut rwy’n rheoli digidol
Mae hyn yn ymdrin â sut mae pobl amgueddfeydd yn rheoli systemau digidol, llifoedd gwaith, trefnu
adnoddau, prosiectau, partneriaethau a mwy. Er enghraifft, sut mae unigolyn yn rheoli systemau
digidol presennol amgueddfa fel gwefannau etifeddol, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol lluosog,
systemau tocynnu neu systemau rheoli cynnwys. Mae’n ymdrin â dulliau unigolyn o reoli prosiectau
digidol, yn delio ag asiantaethau digidol ac yn ysgrifennu briffiau a gwerthusiadau digidol. Mae’n
ymdrin hefyd â sut mae unigolion yn rheoli diwylliant mewnol neu bartneriaeth allanol sy’n cefnogi
gwaith digidol, er enghraifft drwy feithrin cydweithrediad a chyfathrebu.
25
Sut rwy’n deall digidol
Mae hyn yn cyfeirio at ym mha ffyrdd mae unigolyn yn cwrdd ag arfer a diwylliant digidol ac yn dysgu
amdanynt. Mae’n trafod hyn yng nghyd-destun amgueddfeydd, fel dulliau o ddeall cymhellion ac
ymddygiadau newidiol cynulleidfaoedd, dysgu am arfer gorau digidol mewn sectorau eraill neu
gydnabod effeithiau ehangach diwylliant digidol fel ei effeithiau cymdeithasol-diwylliannol ar
ddemocratiaeth neu gyflogaeth.
Sut rwy’n creu (gyda) digidol
Mae hyn yn pwysleisio perthynas fwy gweithredol a dychmygus â thechnoleg, asedau a chynnwys
digidol na ‘sut rwy’n defnyddio digidol’. Gallai ymwneud â dylunio a gwneud cynhyrchion digidol, ond
gallai ymwneud llawn cymaint â chreu cynnwys ar blatfformau digidol, er enghraifft ysgrifennu
blogiau, trydar straeon diddorol am gasgliadau.
Mae’n bwysig nodi nad ydym yn honni mai dyma’r unig ddosbarthiadau posibl o weithgareddau. Yn yr
un modd, ni fwriedir i’r modelau arfaethedig, yr esboniadau a’r enghreifftiau fod yn ddi-wyro nac yn
gyflawn. Mae’n amlwg y bydd dehongliadau ac awgrymiadau gwahanol. Y bwriad yma yw rhoi i bobl
ddulliau o feddwl am eu cyd-destun, nid rhoi diffiniadau cyflawn neu benodedig iddynt.
Mae’r ymagwedd hon wedi ei hangori yng ngwaith yr amgueddfa, gan ganolbwyntio ar
weithgareddau sy’n fwy tebygol o gael eu dehongli o fewn cyd-destun sefydliadol amgueddfa, fel
rheoli, deall a chreu. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi hefyd bod y grwpiau o weithgareddau a
nodwyd yn fwriadol gyffredinol er mwyn gadael i unigolyn eu hystyried ar draws ystod o safbwyntiau,
ac edrychir ar hynny nesaf.
26
Fy Safbwyntiau
Yn ei hanfod, mae’r model hwn yn helpu unigolyn i ddeall ble y mae, yn nhermau’r amgylchedd mae’n
defnyddio ei sgiliau a llythrennedd digidol ynddo - ar hyn o bryd neu yn y dyfodol. Mae hyn yn ei
helpu i leoli meysydd gweithgarwch, dylanwad a chefnogaeth berthnasol, a nodi mewnbynnau ac
allbynnau priodol i gefnogi datblygu a defnyddio ei sgiliau a llythrennedd digidol. Gallai ei helpu i nodi
ystyriaethau sy’n effeithio arno (e.e. ei amodau sefydliadol perthnasol), ffynonellau cymorth (e.e.
cymunedau arfer perthnasol i arwain meddwl a gwaith) a chyfleoedd i effeithio ar newid (e.e. rhannu
arfer gorau o fewn ei sector).
Bwriad y pum safbwynt a awgrymir yw herio’r rhagdybiaeth mai’r unig safbwynt i bobl amgueddfeydd
ei ystyried yw safbwynt y sefydliad. O ran defnydd a datblygiad sgiliau a llythrennedd digidol unigolyn,
mae’n bwysig cydnabod nad oes fawr o wahaniaeth rhwng ei gyd-destunau personol, proffesiynol a
chymdeithasol. Wedi’r cyfan, gall yr hyder digidol personol byddwn yn ei ddatblygu o, er enghraifft,
ddefnyddio sianel cyfryngau cymdeithasol benodol yn ein bywydau personol, gael ei gymhwyso hefyd
yn ein bywydau proffesiynol, cymunedol a sifig yn ôl yr angen.
Safbwynt personol
Mae hyn yn ymwneud â’r unigolyn fel bod dynol, ystyried ei sgiliau ac anghenion penodol yng nghyddestun gweithgarwch digidol yn ei fywyd personol. Gallai hyn ystyried ei anghenion dynol a
chymdeithasol-diwylliannol y mae diwylliant digidol yn dylanwadu arnynt, yn ogystal â’i anghenion
mwy ymarferol gan ddefnyddio technoleg. Er enghraifft, trwy ddefnydd cyfryngau cymdeithasol yn ei
fywyd personol gallai unigolyn fyfyrio ar effaith hyn ar ei anghenion mewn perthynas â’i hunaniaeth
ar-lein, ei breifatrwydd neu ei berthnasoedd, yn ogystal â’r sgiliau a gwybodaeth technegol penodol y
gall fod eu hangen arnynt.
27
Safbwynt sefydliad
Mae hyn yn canolbwyntio ar safbwynt yr unigolyn yn eu rôl mewn amgueddfa, er enghraifft fel
curadur, rheolwr dysgu, arbenigwr marchnata, cyfarwyddwr, swyddog gwasanaethau ymwelwyr,
ymddiriedolwr, neu weithiau pob un o’r pethau hynny yn achos sefydliadau bach. Serch hynny, mae’n
bwysig i’r unigolyn ystyried nid yn unig ei safbwynt sefydliadol pennaf ond safbwyntiau eraill, llai
ffurfiol, sydd ganddo; er enghraifft, yn ei rolau fel rheolwr, arweinydd tîm, eiriolwr, mentor ac ati.
Safbwynt rhwydwaith
Mae’r safbwynt hwn yn cydnabod natur hynod gydweithredol y sector amgueddfeydd, a
phresenoldeb llawer o rwydweithiau cymheiriaid effeithiol o wahanol gyfraddau ffurfioldeb a ffocws –
er enghraifft, GEM8 (rhwydwaith o broffesiynolion addysg amgueddfeydd a), Cylch Cyfrifiaduron
Amgueddfeydd9 (cymdeithas o unigolion sy’n rhannu diddordeb cyffredin mewn annog, gwella a
dylanwadu ar arfer gorau yn nefnydd technoleg a phlatfformau digidol o fewn y sector amgueddfeydd
a threftadaeth) a Museum Detox10 (rhwydwaith ar gyfer proffesiynolion BAME amgueddfeydd a
threftadaeth), i enwi ychydig yn unig. Gallai olygu’n syml grŵp bach o bobl amgueddfeydd yn rhoi
cymorth a chyngor anffurfiol i’w gilydd ynghylch eu maes gwaith neu ddiddordeb. Gall y
rhwydweithiau hyn gynnig amrywiaeth anferth o gyngor, adnoddau, a chyfleoedd posibl i berson
amgueddfa mewn perthynas â’u sgiliau a gwybodaeth digidol, ond hefyd gall fod yn fforwm i’r person
amgueddfa gynnig, rhannu a myfyrio ar ei brofiadau a’i arbenigedd ei hun mewn perthynas â sgiliau a
llythrennedd digidol.
Safbwynt y sector
Mae hyn yn camu tu hwnt i’r rhwydweithiau ac allan i’r sector ehangach, gan drafod y dulliau y gall
unigolion ymwneud â pholisïau, strwythurau, mentrau a dulliau gweithredu i’r sector cyfan, effeithio
arnynt a derbyn eu dylanwad. Felly fe allai, er enghraifft, ymwneud ag unigolyn yn rhannu eu heriau
fel curadur i ymdopi â thechnolegau newydd mewn cynhadledd sector am arloesi, effaith canllawiau
digidol newydd oddi wrth gyllidwr cenedlaethol ar brosiect digidol unigolyn neu effaith cwtogi cyllid y
sector ar sicrhau adnoddau yn amgueddfa unigolyn.
Safbwynt cymdeithas
Mae hyn yn canolbwyntio ar rôl unigolyn mewn cymdeithas yn ei rinwedd fel dinesydd. Gallai
ymwneud â nifer o rolau ffurfiol ac anffurfiol, er enghraifft fel ymddiriedolwr elusen leol, cymydog
ystyriol neu’n ddefnyddiwr y ganolfan gymunedol leol. I weithiwr amgueddfa, efallai y bydd hefyd yn
dymuno ystyried y safbwynt hwn i fyfyrio ar ei rôl mewn cefnogi ei amgueddfa i fod yn asiant sifig
effeithiol.
8
https://gem.org.uk/
https://www.museumscomputergroup.org.uk/
10
https://museumdetox.com/
9
28
Camau gweithredu
Ar adeg hon pennu cwmpas fframwaith arfaethedig, rydym yn cynnig pedwar maes cymorth neu
weithgarwch ymarferol i helpu pobl amgueddfeydd i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau a llythreneddau
digidol: amodau, ysgogiadau, offer ac adnoddau sefydliadol. Mae’r rhain ond wedi eu hamlinellu ar
hyn o bryd; bydd y manylion yn cael eu pennu maes o law gan ganlyniadau a chanfyddiadau ymchwil
weithredol yng Nghyfnod Pedwar.11
Amodau sefydliadol
Mae hyn mewn ymateb i’n hymchwil a ddywedodd wrthym fod angen cymorth ar bobl amgueddfeydd
i ddatblygu a defnyddio sgiliau a llythreneddau digidol trwy alluogi’r amodau sefydliadol angenrheidiol
i hyn ddigwydd.
Gallai hyn olygu camau ymarferol neu strategol a fyddai’n helpu unigolyn o fewn amgueddfa i newid
neu ddylanwadu ar amodau sefydliadol fel hyfforddiant, gallu, isadeiledd, systemau, pobl a diwylliant,
neu arweinyddiaeth.
Gallai camau o’r fath gynnwys, i roi enghraifft ffurfiol ac eang, cynnig ystod o’r sgiliau a llythrennedd
digidol perthnasol mae eu hangen ym mhob rôl a gwthio i ddiweddaru disgrifiadau swydd, manylebau
person a phrosesau rheoli perfformiad i adlewyrchu’r rhain. Cam mwy anffurfiol ond sydd hefyd yn
effeithiol fyddai cael cwpanaid o goffi gyda rhai aelodau’r uwch reolwyr neu ymddiriedolwyr a gallu
mynegi gwerth adeiladu sgiliau a llythrennedd digidol ar draws y sefydliad.
Mae gallu creu neu fanteisio ar yr amodau sy’n ofynnol am newid yn dibynnu ar ymwybyddiaeth well
unigolyn o’u cyd-destunau penodol, fel a drafodwyd o’r blaen. Efallai y bydd deall eu cyd-destunau – y
sgiliau, gweithgarwch a safbwyntiau – yn amlygu pa rai yw’r amodau mwyaf perthnasol i gefnogi
datblygiad pellach, cyn iddynt allu canolbwyntio ar weithredu.
Ysgogiadau, offer ac adnoddau
Dywedodd ein hymchwil wrthym hefyd fod ar bobl amgueddfeydd angen syniadau, offer ac adnoddau
ymarferol er mwyn datblygu a defnyddio sgiliau a llythreneddau digidol yn effeithiol.
Mae ‘ysgogiadau’ yn derm a ddefnyddir gan Brosiect One by One i gyfeirio at ymagweddau creadigol
ac ymarferol sy’n gallu cael eu defnyddio o fewn lleoliad penodol i gynyddu hyder digidol pobl
amgueddfeydd yn uniongyrchol. Gallai enghreifftiau gynnwys cynnal clwb cyfrifiadur anffurfiol amser
cinio er mwyn i bobl amgueddfeydd allu chwarae gyda darnau gwahanol o dechnoleg, gan gynnig
darnau bach o arian ymchwil a datblygiad i staff ddatblygu syniadau digidol, neu annog cydweithwyr i
ysgrifennu postiadau blog i fyfyrio ar eu hymarfer neu fynegi safbwyntiau personol.
O ran offer ac adnoddau, nid eu darparu yw’r her; wedi’r cyfan, mae yna lawer sy’n canolbwyntio ar
adeiladu sgiliau digidol. Yr her yn hytrach yw darparu offer ac adnoddau defnyddiol a pherthnasol i
bobl amgueddfeydd sy’n briodol i’w cyd-destun oherwydd eu defnydd a’u gwerth arbennig. Rydym yn
ymdrin â hyn drwy drwy ddisgwyl i gyfnod ymchwil weithredol a phrofi Prosiect One by One helpu i
nodi’r prif fathau o offer ac adnoddau mae eu hangen, gan sicrhau felly mai cyd-destunau ac
11
Gweler: https://one-by-one.uk/2018/03/17/phase-4-summary/
29
anghenion amgueddfeydd a fydd yn gyrru’r offeryn neu’r adnodd arbennig, yn hytrach nag i’r
gwrthwyneb.
Y camau nesaf
Bydd canfyddiadau ac allbynnau Cyfnod Dau bellach yn llywio cyfnodau nesaf One by One. Yng
Nghyfnodau Tri12 a Phedwar13 byddwn yn pennu cwmpas, yn cynllunio ac yn cynnal ymyriadau
ymchwil weithredol ymarferol ar gyfer diffinio, gwella, mesur a sefydlu sgiliau a llythreneddau digidol,
o fewn cyd-destunau penodol amgueddfeydd partner14 y prosiect. Bydd y rhain yn cynnig
ysbrydoliaeth am y mathau o weithgareddau sy’n cael eu profi a ffrâm ar gyfer gwerthuso’r
gweithgareddau hyn yn ehangach i’r sector. Yna bydd y rhain yn eu tro yn llywio allbynnau cyffredinol
y prosiect, a gaiff eu rhannu â’r sector yn ystod Cyfnod Pump.15
Credwn y gall canfyddiadau ac allbynnau Cyfnod Dau, o’u cymryd ar eu pen eu hun y tu hwnt i gyddestun prosiect One by One, newid sut mae’r sector amgueddfeydd yn deall ac yn mynegi her
adeiladu sgiliau a llythreneddau digidol amgueddfeydd – yn benodol, dod o hyd i ddulliau bwriadol,
sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n gweddu i’r cyd-destun o ymateb i’r her, yn ôl yr arferion a’r
lleoliadau gwahanol a welir ar draws y sector. Bydd hyn yn sicrhau nad yw’r sector amgueddfeydd dim
ond yn gweld meithrin sgiliau a llythrennedd digidol fel rhywbeth ar wahân, sy’n cefnogi ei waith yn
unig, ond yn hytrach fel rhywbeth sydd wrth wraidd ei gynnig i’r cyhoedd ehangach.
12
https://one-by-one.uk/2018/03/18/phase-3-summary/
https://one-by-one.uk/2018/03/17/phase-4-summary/
14
https://one-by-one.uk/project-partners/
15
https://one-by-one.uk/2018/03/16/phase-5-summary/
13
30
5 Cyfeiriadau
a. Rhestr o fframweithiau sgiliau a llythrennedd digidol (a sylwebaeth am fframweithiau) a
adolygwyd yn ystod yr ymchwil desg.
Enw:
Digital Capability Framework
Man
cyhoeddi:
https://www.jisc.ac.uk/rd/projects/building-digital-capability
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
Digital Literacy Framework
Man
cyhoeddi:
https://www2.le.ac.uk/institution/digital-campus/strategic-priorities/dsc/digital-literacy-framework
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
Enw:
Digital and Information Literacy Framework
Man
cyhoeddi:
http://www.open.ac.uk/libraryservices/pages/dilframework/view_all
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Enw:
Digital Competence Framework
Man
cyhoeddi:
https://hwb.gov.wales/curriculum-for-wales-2008/digital-competence-framework/
Dyddiad
cyhoeddi:
Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2008 a’i ddiweddaru ers hynny
Enw:
Global Framework for Digital Literacy
Man
cyhoeddi:
http://uis.unesco.org/en/blog/global-framework-measure-digital-literacy
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Sefydliad:
Sefydliad:
Sefydliad:
Sefydliad:
Sefydliad:
31
Jisc
Prifysgol Caerlŷr
Y Brifysgol Agored
Llywodraeth Cymru
UNESCO
Enw:
Digital Content – Finding, Evaluating, Using and
Creating It
Man
cyhoeddi:
http://bit.ly/2JmY4Rx
Dyddiad
cyhoeddi:
-
Enw:
Curating Content
Man
cyhoeddi:
https://natlib.govt.nz/schools/digital-literacy/strategies-for-developing-digital-literacy/curating-content
Dyddiad
cyhoeddi:
-
Enw:
Information and Digital Literacy: A Strategic
Framework for UQ Library 2016-2020
Man
cyhoeddi:
https://web.library.uq.edu.au/files/14363/UQL_IDL_StategicFramework.pdf
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Enw:
Digital Strategy for Schools 2015-2020:
Enhancing Teaching, Learning, and Assessment
Man
cyhoeddi:
https://www.education.ie/en/Publications/Policy-Reports/Digital-Strategy-for-Schools-2015-2020.pdf
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
BC’s Digital Literacy Framework
Man
cyhoeddi:
http://bit.ly/2Yuowft
Dyddiad
cyhoeddi:
2013
Enw:
Digital Literacies Framework for the University
Sefydliad:
Llyfrgell Genedlaethol Seland
Newydd
Sefydliad:
Llyfrgell Genedlaethol Seland
Newydd
Sefydliad:
32
Sefydliad:
Llyfrgell Prifysgol Queensland
Adran Addysg a Sgiliau,
Iwerddon
Sefydliad:
Bwrdd Addysg British Columbia,
Canada
Sefydliad:
Prifysgol Dundee
of Dundee
Man
cyhoeddi:
http://bit.ly/2VYwkbr
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
Scholarly and Digital Framework
Man
cyhoeddi:
https://library.unimelb.edu.au/teaching/scholarly-literacy/framework
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
Enw:
Person-Centred Digital Literacy
Man
cyhoeddi:
https://hee.nhs.uk/our-work/digital-literacy
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
Enw:
Digital Skills, Knowledge and Attributes
Man
cyhoeddi:
http://www.allaboardhe.ie
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
Digital Literacy Model
Man
cyhoeddi:
http://bit.ly/2VZqS8i
Dyddiad
cyhoeddi:
2014
Enw:
Developing Digital Literacy Skills
Man
cyhoeddi:
http://www.pdsttechnologyineducation.ie/en/NEWS/Developing-Digital-Literacy-Skills.html
Dyddiad
cyhoeddi:
-
Enw:
Digital Literacy Skills
Sefydliad:
Sefydliad:
Addysg Iechyd Lloegr
Sefydliad:
Allaboard HE
Sefydliad:
Media Smarts (Canada)
Sefydliad:
PDST Technology in Education
Sefydliad:
33
Prifysgol Melbourne
Adran Addysg a Sgiliau,
Iwerddon
Man
cyhoeddi:
https://www.webwise.ie/teachers/digital_literacy/
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
Digital Literacy
Man
cyhoeddi:
https://lib.vt.edu/research-learning/digital-literacy.html
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Enw:
Five Resources Model of Critical Digital Literacy
Man
cyhoeddi:
https://sites.google.com/site/dlfframwaith/
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
Enw:
Information and Digital Literacy: For Education,
Employment and Citizenship
Man
cyhoeddi:
https://sheffield.libguides.com/employabilityinfoliteracy
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Enw:
Web Literacy
Man
cyhoeddi:
https://learning.mozilla.org/en-US/web-literacy
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Enw:
Three Models of Digital Literacy
Man
cyhoeddi:
https://www.nmc.org/publication/digital-literacy-an-nmc-horizon-project-strategic-brief/
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Enw:
Essential Digital Skills Framework
Man
cyhoeddi:
https://www.gov.uk/government/publications/essential-digital-skills-framework
Sefydliad:
Sefydliad:
Prifysgol Greenwich
Sefydliad:
Llyfrgell Prifysgol Sheffield
Sefydliad:
Mozilla
Sefydliad:
NMC
Sefydliad:
34
Llyfrgelloedd Prifysgol Virginia
Tech
Llywodraeth y DU
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Enw:
Staff Digital Literacies Framework
Man
cyhoeddi:
https://blogs.brighton.ac.uk/digitalliteracies/staff-digital-literacies-ffamework/
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Enw:
Student Digital Literacies Framework
Man
cyhoeddi:
https://blogs.brighton.ac.uk/digitalliteracies/student-digital-literacies/
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Enw:
Digital Literacy Framework
Man
cyhoeddi:
http://bit.ly/2LFXsbB
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Enw:
Deakin University Digital Literacy Framework
Man
cyhoeddi:
https://www.deakin.edu.au/__data/assets/pdf_file/0008/268748/DL_framework_2014-CC_rev-_2015.pdf
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
Framework for Information Literacy for Higher
Education
Man
cyhoeddi:
http://www.ala.org/acrl/standards/ilfframwaith
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Enw:
Faculty of Engineering and Design Learner
Digital Literacy Attributes
Man
cyhoeddi:
http://www.bath.ac.uk/lmf/download/55728
Sefydliad:
Sefydliad:
35
Prifysgol Brighton
Prifysgol Brighton
Sefydliad:
Prifysgol Anglia Ruskin
Sefydliad:
Prifysgol Deakin
Sefydliad:
Cymdeithas Llyfrgelloedd
Colegau ac Ymchwil
Sefydliad:
PriDE Project (Prifysgol
Caerfaddon)
Dyddiad
cyhoeddi:
2011
Enw:
Faculty of Humanities and Social Sciences
Learner Digital Literacy Attributes
Man
cyhoeddi:
http://www.bath.ac.uk/lmf/download/55729
Dyddiad
cyhoeddi:
2011
Enw:
Faculty of Science Learner Digital Literacy
Attributes
Man
cyhoeddi:
Sefydliad:
PriDE Project (Prifysgol
Caerfaddon)
Sefydliad:
PriDE Project (Prifysgol
Caerfaddon)
Sefydliad:
PriDE Project (Prifysgol
Caerfaddon)
Sefydliad:
Y Comisiwn Ewropeaidd
Sefydliad:
Prifysgol Caerdydd
Sefydliad:
Prifysgol Maynooth
http://www.bath.ac.uk/lmf/download/55731
Dyddiad
cyhoeddi:
2011
Enw:
School of Management Learner Digital Literacy
Attributes
Man
cyhoeddi:
http://www.bath.ac.uk/lmf/download/55730
Dyddiad
cyhoeddi:
2011
Enw:
DIGCOMP: A Framework for Developing and
Understanding Digital Competence in Europe
Man
cyhoeddi:
http://ftp.jrc.es/EURdoc/JRC83167.pdf
Dyddiad
cyhoeddi:
2013
Enw:
Information Literacy Framework
Man
cyhoeddi:
http://sites.cardiff.ac.uk/ilrb/framework/
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
Enw:
Information Literacy Strategy Framework
Man
cyhoeddi:
http://bit.ly/2YsAHcK
Dyddiad
2016
36
cyhoeddi:
Enw:
Information and Digital Literacy at ACU: A
Strategy
Man
cyhoeddi:
http://library.acu.edu.au/about_the_library/library_policies/information_and_digital_literacy_at_acu
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
Enw:
NTU Digital Framework
Man
cyhoeddi:
http://blogs.ntu.ac.uk/digital_practice/2016/01/05/what-is-the-ntu-digital-framework/
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Enw:
Digital Skills Mapping (tudalen 46)
Man
cyhoeddi:
http://bit.ly/2Vkk9kY
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Enw:
Digital Skills Framework Example
Man
cyhoeddi:
https://knowhownonprofit.org/tools-resources/building-a-digital-workforce/the-toolkit
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Enw:
Digital Foundation Skills
Man
cyhoeddi:
https://scvo.org/digital/participation/skills
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Enw:
Essential Digital Skills
Man
cyhoeddi:
https://scvo.org/digital/participation/skills
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Sefydliad:
Sefydliad:
37
Prifysgol Gatholig Awstralia
Prifysgol Nottingham Trent
Sefydliad:
DCMS
Sefydliad:
NCVO
Sefydliad:
Cyngor Cyrff Gwirfoddol yr
Alban
Sefydliad:
Cyngor Cyrff Gwirfoddol yr
Alban
Enw:
The Digital Play Framework
Awdur:
Man
cyhoeddi:
https://onlinelibrary.wiley.com/doi/abs/10.1111/bjet.12191
Publication:
Children Learning to Use Technologies Through Play: A Digital Play Framework. British Journal of
Educational Technology.
Dyddiad
cyhoeddi:
2014 (Cyrchwyd 25 Mai 2018)
Enw:
Europass Digital Competencies Self-Assessment
Grid
Man
cyhoeddi:
https://europass.cedefop.europa.eu/
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
The Essential Elements of Digital Literacies
Man
cyhoeddi:
http://www.frysklab.nl/wp-content/uploads/2016/10/The-Essential-Elements-of-Digital-Literaciesv1.0.pdf
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
Digital Intelligence
Man
cyhoeddi:
https://www.dqinstitute.org/dq- framework
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Enw:
European Digital Competence Framework
(Digcomp 2.1)
Man
cyhoeddi:
http://bit.ly/2Wi7Wle
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
Enw:
Digital and Civic Literacy Skills
Man
cyhoeddi:
https://www.tolerance.org/ frameworks/digital-literacy
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
38
Bird, J., Edwards, S. (2014)
Sefydliad:
Y Comisiwn Ewropeaidd
Awdur:
Doug Belshaw
Sefydliad:
DQ Institute
Sefydliad:
Y Comisiwn Ewropeaidd
Sefydliad:
Teaching Tolerance
Enw:
DigEuLit: Concepts and Tools for Digital Literacy
Awdur:
Development
Man
cyhoeddi:
https://www.tandfonline.com/doi/full/10.11120/ital.2006.05040249#_i12
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
Ten Digital Skills That Can Make Students
Instantly Employable
Man
cyhoeddi:
https://digitalmarketinginstitute.com/en-gb/the-insider/12-07-17-10-digital-skills-that-can-make-studentsinstantly-employable
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
Enw:
The Top 10 Digital Skills Tech Companies are
Looking for Today
Man
cyhoeddi:
https://digitalskillsacademy.com/blog/the-top-10-digital-skills-tech-companies-are-looking-for-today
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Enw:
Digital Literacy
Man
cyhoeddi:
http://www.bath.ac.uk/students/careers/choose-a-career/employability/digital-literacy/index.html
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Enw:
Digital Competencies
Man
cyhoeddi:
https://www.jaluch.co.uk/hr-blast/digital-literacy-in-the-workplace-deciphering-the-goobledygook/
Dyddiad
cyhoeddi:
2018
Enw:
How to Upskill Your Employees in Digital
Literacy
Man
cyhoeddi:
https://www.insightsforprofessionals.com/blog/how-to-upskill-your-employees-in-digital-literacy
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
Enw:
Assessing Digital Literacy – A Framework for
Sefydliad:
Sefydliad:
Sefydliad:
Sefydliad:
Sefydliad:
39
Sefydliad:
Martin, A., Grudziecki, J.
Digital Marketing Insider
Digital Skills Global
Gwasanaeth Gyrfaoedd
Prifysgol Caerfaddon
Jaluch
Insight for Professionals
Association for Talent
Developing a General Measure
Development
Man
cyhoeddi:
https://www.td.org/insights/assessing-digital-literacya- framework-for-developing-a-general-measure
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
Digital Literacy: The Overarching Element for
Successful Technology Integration
Man
cyhoeddi:
https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-319-05822-1_6
Dyddiad
cyhoeddi:
2015
Enw:
Leading the Digital Workplace
Man
cyhoeddi:
https://digitalworkplacegroup.com/2017/05/10/digital-workplace-transformation-starts-digitalleadership/
Dyddiad
cyhoeddi:
2017
Enw:
Digital Information Fluency Model
Man
cyhoeddi:
https://21cif.com/resources/difcore/
Dyddiad
cyhoeddi:
2014
Enw:
Our Competency Framework
Man
cyhoeddi:
https://jobs.barclays.co.uk/wp-content/uploads/Candidate-Competency-Guide-MD.pdf
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Enw:
Digital Policy Framework
Man
cyhoeddi:
https://sheffield.digital/posts/proposing-a-digital-policy-framework-for-the-sheffield-city-region/
Dyddiad
cyhoeddi:
2016
Awdur:
Sefydliad:
Digital Workplace Group
Sefydliad:
21st Century Information
Fluency Project (21CIF)
Sefydliad:
Barclays
Sefydliad:
40
Wan Ng
Sheffield Digital
Enw:
Secondary School Digital Literacy Framework
and Survey
Man
cyhoeddi:
https://lccdigilit.our.dmu.ac.uk/2013/06/19/digilit- framework/
Dyddiad
cyhoeddi:
2013
Enw:
The Components of Digital Literacy
Man
cyhoeddi:
https://www.nfer.ac.uk/publications/FUTL06/FUTL06.pdf
Dyddiad
cyhoeddi:
2010
Sefydliad:
Sefydliad:
41
DigiLit Leicester
Futurelab
b. Cyfeiriadau eraill
Barnes, S., Kispeter, E., Eikhof, D. & Parry, R. (2018) ‘Mapping the Museum Digital Skills Ecosystem’.
Adroddiad Cyfnod Un, One by One. Caerlŷr: Prifysgol Caerlŷr. Ar gael o:
https://lra.le.ac.uk/bitstream/2381/41572/2/One%20by%20One_Phase1_Report.pdf
Brown, M. (2017). A Critical Review of Frameworks for Digital Literacy: Beyond the Flashy, Flimsy and
Faddish. ASCILITE TELall Blog. Ar gael o:
http://blog.ascilite.org/a-critical-review-of-fframweithiau-for-digital-literacy-beyond-the-flashy-flimsyand-faddish-part-1/
http://blog.ascilite.org/a-critical-review-of-fframweithiau-for-digital-literacy-beyond-the-flashy-flimsyand-faddish-part-2/
http://blog.ascilite.org/critical-review-of-fframweithiau-for-digital-literacy-beyond-the-flashy-flimsyand-faddish-part-3/
Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (2017). Tailored Review of Arts Council England. Llundain:
DCMS. Ar gael o:
https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/
610358/FINAL_Arts_Council_England_Tailored_Review_Report.pdf
Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (2018). Culture is Digital. Llundain: DCMS. Ar gael o:
https://www.gov.uk/government/publications/culture-is-digital
Dodd, J. (2015). The Socially Purposeful Museum. Museologica Brunensia, 2015, 4, 2, 28-32. Ar gael o:
https://digilib.phil.muni.cz/bitstream/handle/11222.digilib/134745/2_MuseologicaBrunensia_4-20152_7.pdf?sequence=1
Latchford, P. (2018). The Future of Civic Museums: A Think Piece. English Civic Museums Network. Ar
gael o:
https://www.nationalmuseums.org.uk/media/documents/publications/civic_museums_think_piece.p
df
McKenzie, B. (2018). Musing on Abilities: The Meanings of Four Words. One by One. Ar gael o:
https://one-by-one.uk/2018/10/05/musing-on-abilities-the-meanings-of-four-words/
Cymdeithas yr Amgueddfeydd (2017). Museums Change Lives. Cymdeithas yr Amgueddfeydd. Ar gael
o:
https://www.museumsassociation.org/download?id=1218885
Nesta a Chyngor Celfyddydau Lloegr (2017). Digital Culture 2017. Llundain: Nesta ac ACE. Ar gael o:
https://www.nesta.org.uk/sites/default/files/digital_culture_2017.pdf
Comisiwn Warwick (2015). Enriching Britain: Culture, Creativity and Growth – The 2015 Report by the
Warwick Commission on the Future of Cultural Value. Prifysgol Warwick/Comisiwn Warwick. Ar gael o:
https://warwick.ac.uk/research/warwickcommission/futureculture/finalreport/
42
one-by-one.uk
43