Llanegryn

pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref, chymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanegryn[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ym Meirionnydd ar lan ddwyreiniol Dyffryn Dysynni tua chwarter milltir i'r gogledd o lôn yr A493, tua 3 milltir i'r gogledd o Dywyn, ar lethrau isaf yr Allt-lwyd, y bryn cyntaf yn yr esgair hir o fryniau sy'n dringo i gyfeiriad Cadair Idris. Mae Afon Dysynni yn llifo heibio i waelod y pentref.

Llanegryn
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth308 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.62°N 4.07°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000074 Edit this on Wikidata
Cod OSSH600054 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Mae pont fwa yn croesi ffrwd fechan ar ymyl y pentref. Ychydig o dai sydd yn y pentref ei hun ond ceir tri chapel yno ynghyd â'r eglwys hynafol sy'n sefyll ychydig o'r neilltu i'r pentref ei hun. Mae'r lôn sy'n rhedeg trwy'r pentref yn eich tywys i fyny'r dyffryn i gyfeiriad Castell y Bere a Llanfihangel-y-pennant.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Yr eglwys

golygu

Mae Eglwys y Santes Fair a Sant Egryn yn adeilad pur hynafol sy'n dyddio o'r 13g.[5] Eglwys un siambr ydyw gyda chlochdy bach yn y gorllewin. Prif ogoniant yr eglwys hon yw'r ysgrîn bren fendigedig sy'n dyddio o'r 15g; yn ôl traddodiad daeth i'r eglwys o Abaty Cymer, y tŷ Sistersiaidd ger Dolgellau. Ceir cofebion i aelodau o deulu Wynniaid Peniarth yn yr eglwys hefyd, e.e. yr un i Richard Owen (m. 1714).

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanegryn (pob oed) (303)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanegryn) (148)
  
49.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanegryn) (155)
  
51.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanegryn) (60)
  
42.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Lleoedd eraill

golygu

Pobl o Lanegryn

golygu
  • Hugh Hughes (1863-1944), cefnwr rygbi rhyngwladol i Gymru

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 23 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5.  Hanes Dyffryn Dysynni. BBC Cymru. Adalwyd ar 4 Mai 2012.
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.