Microsoft Windows
Cyfres meddalwedd o systemau gweithredol, cyfrifiadurol yw Microsoft Windows, a grëwyd ac a werthir gan Microsoft. Cafodd y system weithredol Windows ei greu ar 20 Tachwedd 1985, fel atodiad (add-on) i MS-DOS.
Rhyddhad diweddaraf Windows, Windows 7, yn dangos y bwrdd gwaith a'r ddechreulen | |
Cwmni / datblygwr | Microsoft |
Rhaglennir gyda | C, C++ ac iaith cydosodiad[1] |
Teulu SW | Windows 9x, Windows CE a Windows NT |
Cyflwr gweithio | Rhyddhawyd yn gyhoeddus |
Model ffynhonnell | Ffynhonnell gaeedig / Ffynhonnell ranedig |
Rhyddhad gwreiddiol | 20 Tach. 1985 (fel Windows 1.0) |
Targed marchnata | Cyfrifiadura personol |
Iaith/ieithoedd y mae hi ar gael ynddi/ynddynt | Amlieithog (rhestr o becynnau iaith Windows 7) |
Dull diweddaru | Windows Update, Windows Anytime Upgrade |
Platfformau wedi eu cynnal | ARM, IA-32, x86-64 ac Itanium |
Math o gnewyllyn | Hybrid (teulu Windows NT), DOS (Windows 16-did a chyfres Windows 9x/ME) |
Rhyngwyneb defnyddiwr diofyn | Graffigol (Cragen Windows) |
Trwydded | Meddalwedd masnachol perchnogol |
Gwefan swyddogol | windows.microsoft.com |
Erbyn 1984 roedd Microsoft Windows wedi cymryd 90% o farchnad fyd-eang cyfrifiaduron personol, gan oddiweddyd gwerthiant MAC OS a oedd wedi'i sefydlu flwyddyn ynghynt (1984).
Fersiynau Cynnar
golyguGyda'r fersiynau cynnar iawn, dim ond y rhaglenni sylfaenol fel y cyfrifiannell, calendr, cloc, a'r panel arolygu oedd ar gael. Gelwir y fersiwn hon yn Windows 1.0. Yn ystod mis Hydref 1987, rhyddhaodd Microsoft Windows 2.0, ac wedyn Windows 2.1 tipyn ar ôl hynny.
Windows 3.0 a 3.1
golyguYn ystod yr 1990au, rhyddhawyd Windows 3.0 a Windows 3.1. Cafodd y fersiynau yma ddyluniad newydd, a rhagor o gof rhith.
Windows 95, 98, a ME
golyguCafodd Windows 95 ei ryddhau yn ystod mis Awst 1995 gyda rhyngwyneb defnyddiwr graffigol newydd, cymorth ar gyfer enwau ffeiliau hyd at 255 cymeriad, a'r gallu i redeg rhaglenni 32-did. Yn ystod mis Mehefin 1998, rhyddhawyd Windows 98, ac wedyn ail fersiwn o'r enw Windows 98 Second Edition yn ystod mis Mai 1999. Rhyddhawyd Windows 2000 yn Chwefror 2000, ac wedyn Windows ME (sef Millenium Edition) ym Medi 2000.
Fersiynau Diweddar
golyguTua diwedd 2006, cafodd Windows Vista ei ryddhau, ac wedyn Windows 7 yn ystod mis Hydref 2009. Mae Windows 8 dal i gael ei ddatblygu.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ NT Server Training: Architectural Overview. Lesson 2 – Windows NT System Overview.. Microsoft TechNet. Microsoft.