R. Gerallt Jones

bardd, nofelydd (1934-1999)

Llenor Cymraeg oedd Robert Gerallt Hamlet Jones, yn ysgrifennu fel R. Gerallt Jones (11 Medi 1934 - 9 Ionawr 1999).[1]

R. Gerallt Jones
Ganwyd11 Medi 1934 Edit this on Wikidata
Nefyn Edit this on Wikidata
Bu farw9 Ionawr 1999 Edit this on Wikidata
Dôl-y-bont Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, nofelydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed ef yn Nefyn, Gwynedd, yn fab i ficer Anglicanaidd. Astudiodd Saesneg ym Mhrifysgol Bangor, gan ysgrifennu traethawd M.A. ar waith Robert Graves. Tra'r oedd yno, lansiodd gylchgrawn Yr Arloeswr gyda Bedwyr Lewis Jones. Bu'n brifathro Coleg Athrawon Mandeville yn Jamaica o 1965 hyd 1967, yna'n Warden Coleg Llanymddyfri hyd 1976, cyn dod yn Uwch-ddarlithydd yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Aberystwyth hyd 1989. O 1989 hyd 1995, bu'n warden Plas Gregynog.

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn 1977 a 1979.

Cyhoeddiadau

golygu
  • Ymysg y Drain (1959), cerddi
  • Y Foel Fawr (1960), nofel
  • Yn Frawd i'r Eos Druan (1961), ysgrifau llenyddol
  • Cwlwm (1962), cerddi
  • Nadolig Gwyn (1962), nofel
  • Gwared y Gwirion (1966), straeon byrion
  • Jamaican Landscape (1969), cerddi Saesneg
  • Cysgodion (1972), cerddi
  • Ansawdd y Seiliau (1972), ysgrifau llenyddol
  • Triptych (1977), nofel
  • Jamaican Interlude (1977), hunangofiant Saesneg
  • Gwyntyll y Corwynt (1978), nofel
  • Cafflogion (1979), nofel
  • T. H. Parry-Williams, cyfres Writers of Wales (1980), astudiaeth lenyddol
  • Dyfal Gerddwyr y Maes (1981), cerddi
  • Eliot, cyfres Y Meddwl Modern (1982), astudiaeth lenyddol
  • Cerddi 1955-89 (1989)
  • Seicoleg Cardota (1989), ysgrifau llenyddol
  • T. H. Parry-Williams, cyfres Dawn Dweud (1999), cofiant

Cyhoeddiadau ar ôl marwolaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Stephens, Meic (13 Ionawr 1999). Obituary: R. Gerallt Jones. The Independent. Adalwyd ar 21 Mai 2013.

Dolen allanol

golygu