Ysgol Edmwnd Prys
ysgol yng Ngwynedd
Ysgol gynradd Gymraeg ym mhentref Gellilydan ger Trawsfynydd yw Ysgol Edmwnd Prys. Mae'n un o 6 ysgol yn nalgylch Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog. Fe'i henwir ar ôl y bardd ac ysgolhaig Edmwnd Prys (1544-1623), brodor o'r ardal. Yn ogystal â phentref Gellilydan mae dalgylch yr ysgol hefyd yn cynnwys pentref cyfagos Maentwrog.
Math | ysgol Gymraeg |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Blaenau Ffestiniog |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.939286°N 3.960216°W |
Cod post | LL41 4DY |
Mae 44 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ôl ffigyrau diweddaraf Cyngor Gwynedd (Medi 2008).[1] Mae'r ysgol yn rhannu prifathrawes gyda Ysgol Bro Cynfal, Llan Ffestiniog sef Mrs Gwenan Williams.
Ffynonellau
golygu- ↑ "Cyngor Gwynedd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-07-08. Cyrchwyd 2008-10-23.