Ysgol Tryfan
Ysgol uwchradd gyfun gymunedol ddwyieithog ym Mangor yw Ysgol Tryfan.
Ysgol Tryfan | |
---|---|
Arwyddair | Cefnogi. Ysbrydoli. Yn Deulu. |
Sefydlwyd | 1978 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Dr Geraint Jones |
Dirprwy Bennaethiaid | Mari James |
Paul Harris | |
Lleoliad | Lôn Powys, Bangor, Gwynedd, Cymru, LL57 2TU |
AALl | Cyngor Gwynedd |
Staff | 49 |
Disgyblion | 430 (2018)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Gwefan | http://www.ysgoltryfan.org/ |
Sefydlwyd yr ysgol ar safle'r hen Ysgol Sirol i Enethod ym 1978 fel ysgol gyfun gyfrwng Cymraeg i gylch Bangor. Lleolir yr ysgol ar safle flaenorol Ysgol Ramadeg y Merched, ar Lôn Powys yn ardal Maes Tryfan, heb fod ymhell o Benrhosgarnedd, a thua milltir o ganol Dinas Bangor.
Hanes
Yn 1971, cyfunwyd tair ysgol uwchradd at ei gilydd - Ysgol Friars, Ysgol Sirol y Genethod (sef ysgol ramadeg arall), ac ysgol Deiniol (ysgol eilradd fodern gymysg). Sefydlwyd yr ysgol i ddechrau ar dri safle. Defnyddiwyd safle hen ysgol y genethod (safle Tryfan) fel ffrwd iaith Gymraeg i’r blynyddoedd isaf, a hen adeilad Friars (safle Ffriddoedd) fel ffrwd iaith Saesneg i’r blynyddoedd isaf. Daeth y blynyddoedd uwch at ei gilydd mewn adeiladau newydd a adeiladwyd am £300,000 ar safle newydd yn Eithinog.
Cafwyd ail-drefnu pellach ym 1978. Gwahanwyd y ffrwd iaith Gymraeg i ffurfio ysgol 11-18 newydd, Ysgol Tryfan, ar safle Lôn Powys.
Addysg
Yn ystod adroddiad Estyn 2001, roedd tua 430 o ddisgyblion.[2] Erbyn 2007, roedd hyn wedi gostwng i gyfanswm o 370, 300 ym mlynyddoedd 7 i 11 gyda 70 ychwanegol yn y chweched ddosbarth. Daeth 46% ohonynt o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith a 25% o gartrefi lle roedd y Saesneg yn brif iaith, a 29% o deuluoedd dwyieithog. Siaradai 96% o'r disgyblion y Gymraeg i safon iaith gyntaf, cynnydd o 6% ers 2001.[3] Yn adroddiad Estyn 2013, roedd 524 o ddisgyblion yn cynnwys 86 yn y chweched dosbarth. Daeth 64% ohonynt o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad.[4]
Mae Ysgol Tryfan yn aelod o gonsortiwm ysgolion uwchradd Arfon a Choleg Menai, sy'n darparu cyrsiau ychwanegol i ddisgyblion blynyddoedd 10 i 13 (cyfnod TGAU a'r chweched ddosbarth), megis cyrsiau galwedigaethol cynnal, gofal anifeiliaid bychan a chadw cerbyd a thrin gwallt.[3]
Prif Athrawon
- 1978-1986 : Islwyn Parry
- 1986-1996 Eifion Williams
- 1996–2004 : Gareth Tudor Jones BSc
- 2004–2012 : Gareth Isfryn Hughes B.Add. (dyrchafwyd o dirprwy bennaeth ym mis Medi 2004)
- Ebrill 2012 – Awst 2019 : Gwyn Tudur (gynt yn ddirprwy bennaeth yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon)[5]
- Medi 2019 - Awst 2022 : Arwyn Williams
- Medi 2022 - Ionawr 2023: Mrs Mari James (Pennaeth dan-ofal)
- Ionawr 2023- : Dr Geraint Jones
Ysgolion cynradd yn nalgylch yr ysgol
Cyn-ddisgyblion nodedig
- Gweler hefyd y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Tryfan
- Aled ap Dafydd - newyddiadurwr
- Bethan Rhys Roberts - newyddiadurwraig
- Ffion Dafis - actores a chyflwynydd
- Luned Emyr - cyflwynydd
- Owain Tudur Jones - pêl-droediwr rhyngwladol
- Tudur Dylan Jones - prifardd
- Robin McBryde - chwaraewr rygbi rhyngwladol
- Jonathan Nefydd - Actor
- Casi Wyn - Cantores
- Moi Hallam - Actor
- Tomos Parry - Gwleidydd
Cyfeiriadau
- ↑ Llawlyfr Ysgol Tryfan 2018-2019
- ↑ Adroddiad Adolygiad Ysgol Tryfan 8 – 12 Hydref, 2001. Estyn (10 Rhagfyr 2001).
- ↑ 3.0 3.1 Adroddiad Adolygiad Ysgol Tryfan 08/05/07. Estyn (11 Gorffennaf 2007).
- ↑ Adroddiad ar Ysgol Tryfan, Hydref 2013. Estyn (10 Rhagfyr 2013). Adalwyd ar 8 Chwefror 2016.
- ↑ Archif Newyddion Ysgol Tryfan (Mai 2012). Adalwyd ar 8 Chwefror 2016.
Dolenni allanol
- Gwefan yr Ysgol
- Hen wefan yr ysgol - Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback