Neidio i'r cynnwys

Castell Dinas

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:11, 31 Mawrth 2009 gan Anatiomaros (sgwrs | cyfraniadau)

Bryngaer a chastell yn ne Powys yw Castell Dinas. Gydag uchder o 450 m (1,476 troedfedd), dyma'r castell uchaf yng Nghymru a Phrydain i'r de o ucheldiroedd yr Alban. Fe'i lleolir ar safle strategol sy'n amddiffyn y bwlch rhwng cymoedd Rhiangoll a Llynfi, rhwng Talgarth a Chrucywel. Cyfeirnod OS: SO 179301.

Hanes

Codwyd bryngaer ar y safle yn Oes yr Haearn, yn y cyfnod rhwng tua 600 CC a 50 OC. Bryngaer amlfurog oedd hon, gydag atodiad ar y mur gorllewinol.[1]

Codwyd castell Normanaidd gyda muriau carreg yno, efallai gan William Fitz Osbern neu ei fab Roger de Breteuil, Iarll Henffordd tua 1070 i 1075 OC. Collodd ei bwysigrwydd strategol i'r Normaniaid pan godwyd castell yn Aberhonddu cyn 1093. Mae haneswyr eraill yn cynnig iddo gael ei godi gan deulu de Braose (Brewys) cyn 1180.[2] Ymddengys mai castell o gerrig oedd hwn o'r cychwyn cyntaf yn hytrach na chastell mwnt a beili, gyda gorthwr-neuadd a amgylchynid gan lenfur gyda thyrau sgwar arno. Arosodd Castell Dinas yn nwylo arglwyddi Normanaidd Brycheiniog hyd 1207 pan roddodd y brenin John o Loegr y castell i Peter fitz Herbert. Daeth yn caput (prif ganolfan) arglwyddiaeth Talgarth (Blaenllyfni).

Ymosododd y Tywysog Llywelyn ab Iorwerth arno yn Hydref 1233 a'i difetha. Ond cafodd ei ailgodi gan y brenin Harri III o Loegr a'i adfer i Peter Fitz Herbert. Yn nes ymlaen cipwyd y castell gan Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, a'i ddal gan ei ddeiliaid Cymreig lleol o 1263 hyd 1268. Dinistrwyd y castell yn derfynnol gan luoedd Owain Glyndŵr ganol y 1400au.

Y safle heddiw

Mae'r muriau yn adfail gyda phridd yn gorchuddio rhannau ohonynt. Gellir gweld y ffynnon wreiddiol o hyd. Mae cloddiau a ffosydd yr hen fryngaer yn amlwg i'w gweld.

Gellir cyrraed y safle mewn 30 munud trwy'r caeau o faes parcio tafarn Pengenffordd, ger Talgarth.

Cyfeiriadau

  1. Helen Burnham, Clwyd and Powys, tud. 196.
  2. Helen Burnham, Clwyd and Powys, tud. 196.

Ffynhonellau

  • Helen Burnham, Clwyd and Powys yn y gyfres A Guide to Ancient and Historic Wales (HMSO, Llundain, 1995)
  • P. M. Remfry, Castell Bwlch y Dinas and the families of Neufmarché, Hereford, Braose, Fitz Herbert, Mortimer and Talbot (ISBN 1-899376-79-8).