Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.
Diffiniad y Cenhedloedd Unedig o Ogledd Ewrop. (glas): Gogledd Ewrop Gorllewin Ewrop Dwyrain Ewrop De Ewrop
Llun o loeren o ogledd Ewrop
Rhanbarth gogleddol cyfandir Ewrop yw Gogledd Ewrop sydd yn cynnwys gwledydd Llychlyn , ynysoedd Prydain Fawr ac Iwerddon , y gwledydd Baltig a gogledd-orllewin Rwsia . Weithiau cynhwysir yr Iseldiroedd a gogledd yr Almaen yn yr ardal hon, a weithiau cynhwysir Prydain ac Iwerddon yn rhan o Orllewin Ewrop yn hytrach na'r gogledd.
Yn ôl Adran Ystadegau'r Cenhedloedd Unedig , mae Gogledd Ewrop yn cynnwys 10 gwladwriaeth sofran: Denmarc , Estonia , y Ffindir , Gwlad yr Iâ , Gweriniaeth Iwerddon , Latfia , Lithwania , Norwy , Sweden , a'r Deyrnas Unedig . Mae'r ardal hefyd yn cynnwys y tiriogaethau canlynol: Ynysoedd Åland (talaith ymreolaethol o'r Ffindir), Ynysoedd Ffaro (gwlad ymreolaethol o fewn Teyrnas Denmarc), Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel (trefedigaethau'r Goron Brydeinig), a Svalbard a Jan Mayen (ynysoedd sy'n rhan o Deyrnas Norwy).[ 1]
Cyfeiriadau