Mae Canolbarth America yn rhanbarth ddaearyddol ar gyfandiryr Amerig sy'n gorwedd rhwng rhan ogleddol Gogledd America a De America. Mae'n gorwedd rhwng ffin ogleddol Gwatemala a ffin ogledd-orllewinol Colombia ac yn cynnwys tua 596,000 km² (230,000 milltir sgwâr) o dir. Mae'r tywydd yn drofaol ac mae'r rhanbarth yn dioddef corwyntoedd cryf weithiau.
Mae Canolbarth America yn cynnwys saith gwlad, o'r gogledd i'r de:
Mae Canolbarth America yn rhanbarth fynyddig. Ceir nifer o losgfynyddoedd, yn cynnwys Tajumulco sy'n codi i 4210m (13,846'). Mae ei hardaloedd arfordirol yn ffrwythlon a thyfir nifer o gnydau, er enghraifft bananas, coffi a coco.
Mae'r rhan fwyaf o'r trigolion o dras gymysg Ewropeiaidd a brodorol.