Neidio i'r cynnwys

Lochnagar

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 05:16, 8 Chwefror 2011 gan Llywelyn2000 (sgwrs | cyfraniadau)
Lochnagar - Cac Carn Beag (neu Beinn Chìochan)

Mynyddoedd y Grampians
Lochnagar yn y gaeaf
Cyfieithiad y llyn bychan gyda'r sŵn mawr
Iaith Gaeleg yr Alban
Testun y llun Lochnagar yn y gaeaf
Uchder (m) 1155
Uchder (tr) 3789
Amlygrwydd (m) 670
Lleoliad Swydd Aberdeen: rhwng Braemar a Monadh Rois (Montrose)
Map topograffig Landranger 44;
Explorer 388N
Cyfesurynnau OS NO243861
Gwlad Yr Alban
Dosbarthiad Marilyn, Munro, Murdo

Mae Lochnagar yn fynydd a geir ar y daith o Braemar i Monadh Rois (Montrose) ym Mynyddoedd y Grampians yn yr Alban; cyfeiriad grid NO243861. Ystyr y gair ydy "y llyn bychan gyda'r sŵn mawr" - Lochan na Gaire. Yr enw Gaeleg ar y copa ydy Cac Carn Beag sef "Carnedd Fechan o Gachu"; ceir ail enw Gaeleg am y copa hwn sef: Beinn Chìochan ("Mynydd y Bronnau").

Dosberthir mynyddoedd yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro ac yn Murdo. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British hills”.[1]

Mae'n fynydd poblogaidd gan gerddwyr a'r man cychwyn gan amlaf ydy Glen Muick.

Rhai copaon


Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolennau allanol