Neidio i'r cynnwys

Nesâd

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Nesâd a ddiwygiwyd gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau) am 10:58, 20 Mawrth 2013. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)

Yng nghysylltiadau rhyngwladol, ail-sefydlu cysylltiadau diplomyddol rhwng gwladwriaethau yw nesâd neu rapprochement (Ffrangeg am "ddod at ei gilydd").[1] Enghraifft o nesâd yw Ostpolitik Gorllewin yr Almaen, dan y Canghellor Brandt, a geisiodd normaleiddio cysylltiadau rhwng Gorllewin yr Almaen a gwledydd y Bloc Dwyreiniol gan gynnwys cydnabod Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Enghraifft arall yw cyweirio cysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau, dan yr Arlywydd Nixon, a Gweriniaeth Pobl Tsieina trwy ei daith i'r wlad ym 1972 a diplomyddiaeth ping-pong.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Evans, G. a Newnham, J. The Penguin Dictionary of International Relations (Llundain, Penguin, 1998), t. 462.
Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.