Owain Doull
Doull yn 2015 | |||||||||||||||||||||||||||||||
Gwybodaeth bersonol | |||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Manylion timau | |||||||||||||||||||||||||||||||
Tîm Presennol | Team Sky | ||||||||||||||||||||||||||||||
Disgyblaeth | Trac a lôn | ||||||||||||||||||||||||||||||
Tîm(au) Amatur | |||||||||||||||||||||||||||||||
2013 | 100% Me | ||||||||||||||||||||||||||||||
Tîm(au) Proffesiynol | |||||||||||||||||||||||||||||||
2014 | An Post–Chain Reaction | ||||||||||||||||||||||||||||||
2015–2016 | WIGGINS | ||||||||||||||||||||||||||||||
2017– | Team Sky | ||||||||||||||||||||||||||||||
Record medalau
|
Beiciwr proffesiynol o Gymru yw Owain Doull (ganwyd 2 Mai 1993[1]). Bydd yn ymuno â thîm rasio lôn Team Sky ar gyfer tymor 2017 ac mae hefyd yn aelod o dîm rasio trac Prydain Fawr[2].
Magwyd Doull yng Nghaerdydd ac aeth i Ysgol y Wern ac Ysgol Gyfun Glantaf.[3]
Ar 22 Awst 2019 rhyddhawd delwedd hyrwyddo gan ei dîm INEOS ar gyfer ras Vuelta Espaňa 2019 yn dangos seiclwyr y tîm gan gynnwys Owain Doull. O dan y ddelwedd o Owain roedd baner Cymru fel eicon, ac nid baner Jac yr Undeb. Cydnabwyd a llongyfarchwyd y weithredu symbolaidd yma gan gefnogwyr Cymru ar Twitter.[4][5]
Gyrfa feicio
Dechreuodd Doull feicio gyda chlwb Maindy Flyers yng Nghaerdydd[6] ac yn 2011 cafodd ei ddewis i fod yn rhan o Raglen Datblygu Olympaidd British Cycling ynghyd â'i gyd Gymry, Amy Roberts ac Elinor Barker.[7] Roedd yn aelod o dîm Cymru ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad 2011 yn Ynys Manaw, gan ennill medal arian yn y ras ffordd, ac, ynghyd â Dan Pearson, fedal efydd yn y ras ffordd i dimau. Yn 2012, cafodd Doull ei ddewis ar gyfer Rhaglen Academi British Cycling.[2].
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac y Byd ym Minsk, Belarws, yn 2013 gan orffen yn bumed yn y Ras scratch[2] ond daeth yn aelod o Dîm Ymlid Prydain Fawr gipiodd fedal aur ym Mhencampwriaethau Seiclo Ewrop yn Apeldoorn, Yr Iseldiroedd ynghyd â Steven Burke, Ed Clancy ac Andy Tennant.[8]
Parhaodd Doull i fod yn aelod o'r Tîm Ymlid a chipiodd fedal aur yng nghymal Manceinion o Gwpan y Byd Seiclo Trac yr UCI[9] ym mis Tachwedd 2013 a medal efydd yn yr ail gymal yn Aguascalientes, Mecsico ym mis Rhagfyr 2013, ond llwyddodd i gipio ei fedal unigol cyntaf wrth ennill y fedal aur yn y Ras scratch.[10]
Trodd Doull yn broffesiynol ar gyfer tymor 2014 gan ymuno â thîm An Post–Chain Reaction[11] ac roedd yn aelod o dîm Cymru ar gyfer y Ras lôn yng Ngemau'r Gymanwlad 2014 yn Glasgow, Yr Alban, ynghyd â Geraint Thomas, Luke Rowe, Jon Mould, Sam Harrison a Scott Davies.[12]
Yn 2015 Doull gwrthododd Doull gynnig i ymuno â Team Europcar[13] gan ymuno â thîm WIGGINS oedd wedi ei sefydlu gan Bradley Wiggins er mwyn paratoi beicwyr ar gyfer cystadleuaeth y Tîm ymlid yng Ngemau Olympaidd 2016.[14]
Ym mis Medi 2015 llwyddodd Doull i orffen yn drydydd yn y Tour of Britain gan ennill y ras bwyntiau ac ym mis Mai 2016, cyhoeddwyd ei fod yn ymuno â Team Sky.[15]
Yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro, Brasil, roedd Doull yn aelod o dîm ymlid Prydain Fawr a lwyddodd i ennill y fedal aur a thorri record y byd yn y rownd derfynol. Fe yw'r Cymro Cymraeg cyntaf erioed i ennill medal aur Olympaidd.[16]
Palmarès
- 2012
- 1af Ras Ymlid Unigol, Pencampwriaeth Seiclo Trac Prydain Fawr
- 3ydd Madison (gyda George Atkins), Pencampwriaeth Seiclo Trac Prydain Fawr
- 2013
- 1af Ras Ymlid Tîm, Pencampwriaeth Seiclo Trac Ewrop
- 1af Cystadleuaeth pwyntiau An Post Rás
- 4ydd ZLM Tour
- Cwpan y Byd Seiclo Trac
- 2014
- 1af Ras Ymlid Tîm, Pencampwriaeth Seiclo Trac Ewrop
- 1af Overall Le Triptyque des Monts et Châteaux
- 1af Cymal 3
- 2il Pencampwriaeth yn Erbyn y Cloc d23 Prydain Fawr
- 4ydd Ronde Van Vlaanderen Beloften
- 2015
- 1af , Pencampwriaeth Lôn d23 Prydain Fawr
- 1af Ras Ymlid Tîm, Pencampwriaeth Seiclo Trac Ewrop
- Flèche du Sud
- 2il Ras Ymlid Tîm, Pencampwriaeth Seiclo Trac y Byd
- 2il Le Triptyque des Monts et Châteaux
- 2il La Côte Picarde
- 2il Pencampwriaeth yn Erbyn y Cloc d23 Prydain Fawr
- 3ydd Tour of Britain
- 5ed Pencampwriaeth yn Erbyn y Cloc d23 y Byd
- 7ed ZLM Tour
- 10ed Tour de Normandie
- 10ed Ronde Van Vlaanderen Beloften
- 2016
- 2il Ras Ymlid Tîm, Pencampwriaeth Seiclo Trac y Byd
- 1af Ras Ymlid Tîm, Gemau Olympaidd
Cyfeiriadau
- ↑ Colin Jackson's Raise Your Game: Owain Doull. BBC. Adalwyd ar 20 Ionawr 2012.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Owain Doull Biography". British Cycling. britishcycling.org.uk. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Dinesydd Hydref 2015" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2017-03-01. Cyrchwyd 2016-08-12.
- ↑ https://twitter.com/ApRhydderch/status/1164285612498857985
- ↑ https://twitter.com/YesCymru/status/1164547845690515456
- ↑ "Famous Last Words: Owain Doull". Cycling weekly. cyclingweekly.co.uk. 2013-12-05. Cyrchwyd 8 December 2013.
- ↑ "Welsh riders confirmed as part of the Olympic Development Programme 2011". British Cycling. britishcycling.org.uk. 2010-11-25. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Welsh cycling star Owain Doull snapped up by Irish team". Wales Online. walesonline.co.uk. 2010-10-23. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2013.
- ↑ "UCI Track Cycling World Cup". tissottiming.com. Cyrchwyd 8 December 2013.
- ↑ "Track Cycling World Cup: Owain Doull wins gold in Mexico". bbc.co.uk. 2013-12-07. Cyrchwyd 8 December 2013.
- ↑ Stokes, Shane (2013-10-21). "Ryan Mullen and Owain Doull sign for An Post Chainreaction Sean Kelly team". VeloNation. VeloNation LLC. http://www.velonation.com/News/ID/15671/Ryan-Mullen-and-Owain-Doull-sign-for-An-Post-Chainreaction-Sean-Kelly-team.aspx.
- ↑ "Commonwealth Games 2014: Olympic champion Geraint Thomas and world sprint star Becky James head up Welsh cycling team for Glasgow". Wales Online. 2014-07-09.
- ↑ Cary, Tom (2014-12-02). "Owain Doull snubs Europcar and is expected to join Sir Bradley Wiggins' new outfit". telegraph.co.uk. Cyrchwyd 8 January 2014.
- ↑ Fotheringham, William (2014-01-08). "Bradley Wiggins unveils new team to be sponsored by Sky". theguardian.com. Cyrchwyd 8 January 2015.
- ↑ "Doull signs with Team Sky for 2017-18". CyclingNews.com. 2016-05-18. Cyrchwyd 18 May 2016.
- ↑ "Y fedal aur gyntaf erioed i Gymro Cymraeg". BBC Cymru Fyw. 2016-08-13.