Neidio i'r cynnwys

Sandra Fluke

Oddi ar Wicipedia
Sandra Fluke
GanwydSandra Kay Fluke Edit this on Wikidata
17 Ebrill 1981 Edit this on Wikidata
Saxton Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Cornell
  • Prifysgol Georgetown
  • Canolfan y Gyfraith Prifysgol Georgetown
  • Coleg Ecoleg Dynol Prifysgol Cornell Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, llenor Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata

Awdur Americanaidd yw Sandra Fluke (ganwyd 17 Ebrill 1981) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfreithiwr ac ymgyrchydd dros hawliau merched.

Fe'i ganed yn Saxton, Pennsylvania ar 17 Ebrill 1981. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cornell, Prifysgol Georgetown, Canolfan y Gyfraith Prifysgol Georgetown a Choleg Ecoleg Dynol Prifysgol Cornell.[1][2][3][4]

Roedd yn wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd.

Daeth i sylw'r cyhoedd am y tro cyntaf, ym mis Chwefror 2012, pan wrthododd aelodau Gweriniaethol o House Oversight and Government Reform Committee ganiatáu iddi dystio i'r pwyllgor hwnnw ar bwysigrwydd mynnu bod cynlluniau yswiriant ar gyfer atal cenhedlu yn ystod trafodaeth ynghylch a ddylai yswiriant meddygol gynnwys mandad atal cenhedlu. Yn ddiweddarach siaradodd â chynrychiolwyr Democrataidd yn unig.[5]

Sandra Fluke yn darllen araith ar gyfer Cynghress UDA; 16 Chwefror 2012.

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Mae Sandra Fluke yn ferch i Richard B. Fluke II, gweinidog rhan-amser trwyddedig mewn eglwys Fethodistaidd, a Betty Kay (g. Donaldson).[6][7]

Graddiodd o Ysgol Uwchradd Tussey / Ysgol Iau Mynydd Pennsylvania yn 1999.[8] Yn 2003 graddiodd o Goleg Ecoleg Ddynol Efrog Newydd ym Mhrifysgol Cornell mewn astudiaethau dadansoddi ac astudiaethau ffeministaidd, rhyw a rhywioldeb.[9]

Cyd-sefydlodd Fluke y glymblaid New York Statewide Coalition for Fair Access to Family Court, a arweiniodd at ddeddfwriaeth yn rhoi mynediad i orchmynion amddiffyn sifil i ddioddefwyr trais partner agos, gan gynnwys dioddefwyr yn eu harddegau a LHDT (LGBTQ).[10][11] Roedd Fluke hefyd yn aelod o Dasglu Llywydd Dinas Manhattan ar Drais yn y Cartref a "nifer o glymbleidiau eraill yn Ninas Efrog Newydd a Thalaith Efrog Newydd a fu'n llwyddiannus yn cynnig gwelliannau polisi a effeithiai ar ddioddefwyr trais yn y cartref," yn ôl gwefan Prifysgol Georgetown. Tra yn Ninas Efrog Newydd, gweithiodd i Sanctuary for Families, sy'n cynorthwyo dioddefwyr trais domestig a masnachu pobl.[12]

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Johnson, Jenna (3 Mawrth 2012). "Sandra Fluke says she expected criticism, not personal attacks, over contraception issue". The Washington Post. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2016.
  2. "July 2012 California Bar Examination Pass List". The State Bar of California. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2012.
  3. Whitcomb, Dan (3 Mawrth 2012). "Limbaugh apologizes to student for 'insulting' comments". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 6 Mawrth 2012.
  4. "Limbaugh sorry for 'slut' comment". Irish Times. 4 Mawrth 2012. Cyrchwyd 6 Mawrth 2012.
  5. Rovner, Julie (29 Chwefror 2012). "Law Student Makes Case For Contraceptive Coverage". NPR. Cyrchwyd 3 Mawrth 2012.
  6. United Methodist Communications. "Fluke reacts to Limbaugh comment - The United Methodist Church". The United Methodist Church. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-10. Cyrchwyd 2019-07-08.
  7. "Betty Fluke Obituary - Saxton, Pennsylvania". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2019-07-08.
  8. "Tussey woman at center of Limbaugh storm". The Altoona Mirror. 6 Mawrth 2012.
  9. "Sandra Fluke". The Huffington Post. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2012.
  10. "Current Public Interest Law Scholars". Georgetown University Law Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2011. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2016.
  11. "Reproductive Health 2012". Association of Reproductive Health Professionals. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2016.
  12. "Past Public Interest Grant Recipients". Women Lawyers Association of Los Angeles. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-09. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2012.