A489
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | ffordd dosbarth A |
---|---|
Rhanbarth | Swydd Amwythig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Priffordd yng nghanolbarth Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr yw'r A489. Mae'n cysylltu Machynlleth ym Mhowys a Craven Arms yn Swydd Amwythig.
Ychydig filltiroedd i'r dwyrain o'i chyffordd gyda'r A487 ym Machynlleth, mae'r A489 yn ymuno a'r A470 ger Glantwymyn, ac yn parhau tua'r dwyrain fel yr A470 cyn belled a Caersŵs, lle mae'n ymwahanu eto. Mae'n dilyn Afon Hafren trwy'r Drenewydd, yna'n croesi'r ffin i Loegr ger Pentreheyling, cyn dychwelyd i Gymru eto am ychydig ger Yr Ystog yna'n croesi i Loegr eto. Mae'n ymuno a'r A49 ychydig i'r gogledd o Craven Arms.
Lleoedd ar y ffordd
[golygu | golygu cod]Wedi'u rhestru o'r gorllewin i'r dwyrain:
- Machynlleth
- Glantwymyn
- Llanbrynmair (A470)
- Carno (A470)
- Caersŵs
- Y Drenewydd
- Ceri
- Pentreheyling
- Yr Ystog